skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod yr holl ddigwyddiadau yn rhan o’i orffennol ac erbyn hyn gyda pherthynas dda gyda'i gyn bartner a’i fod yn gweithio yn galed i gefnogi ei blant.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd, ar hyn o bryd, yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         geirda a dderbyniodd gan ei ddarpar gyflogwr

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yn Awst 2012 gan Lys Ynadon Gwynedd am drosedd o ddinistrio eiddo yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd orchymyn i dalu iawndal o £300 a chostau o £85. Yn Rhagfyr 2012 cafodd ei ddyfarnu yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar ddau gyhuddiad o guro. Derbyniodd orchymyn atal, gorchymyn cymunedol am 18 mis a chostau o £200. Yn mis Hydref 2013 cafodd ei ddyfarnu yn euog am beidio â chydymffurfio gyda gofynion y gorchymyn cymunedol yn groes i ofynion Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003. Derbyniodd ddirwy o £50 a gorchymyn i dalu £50 o gostau.

 

ch)       Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt          wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Rhoddodd eglurhad llawn am y pwyntiau cosb a gafodd ar ei drwydded. Amlygodd ei gyflogwr bod collfarnau 1991 a 1998 wedi cael ystyriaethau llawn mewn is-bwyllgor blaenorol lle caniatawyd cais yr ymgeisydd am drwydded. Ategodd bod yr ymgeisydd yn yrrwr da ac roedd yn canmol ei waith.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gyflogwr o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau llafar a gyflwynodd ei gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad trwydded gyrru'r ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yn Ebrill 1991 gan Lys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol yn groes i adran 47 o Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861. Cafodd orchymyn cymunedol o 100 awr a gorchymyn i dalu £100 o iawndal a £124 o gostau. Yn mis Hydref 1998 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor am ddwyn gan ei gyflogai yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Dwyn 1968. Cafodd ddirwy o £350 a gorchymyn i dalu £30 o gostau. Yn Mehefin 2015 gwnaed honiad gan Gyngor Gwynedd ei fod wedi gweithredu fel gyrrwr hacni heb fod a thrwydded gyfredol (trosedd yn groes i adran 47 o Ddeddf Cymalau Heddlu’r Dref 1847). Honnwyd hefyd nad oedd ganddo esgus rhesymol dros beidio â dangos ei drwydded gyrrwr cerbyd hacni ar gais swyddog awdurdodedig o’r Cyngor (trosedd yn groes i adran 53 i’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976). Yn dilyn ymholiadau pellach gan yr Uned Trwyddedu nid oedd gan yr ymgeisydd drwydded gyrru mewn grym. O ganlyniad, cyflwynodd y Cyngor erlyniad yn ei erbyn yn Llys Ynadon Caernarfon. Fodd bynnag, yn dilyn pryderon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.