Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r
hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad,
mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a
rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y
troseddau yn deillio o un digwyddiad pan oedd yn ifanc a ffol ac iddo dderbyn
dirwy sylweddol am ei ffolineb. Ategodd ei fod yn gweithio fel gyrrwr i gwmni
lleol a bod y cwmni hwnnw wedi cynnig swydd iddo gel gyrrwr hanci / hurio
preifat petai ei gais yn cael ei ganiatau. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr
ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn yn Nhachwedd 2010 oddi wrth Lys Ynadon Caernarfon am
gyfres o droseddau Dwys gipiodd gerbyd
gan achosi damwain a difrod i eiddo yn groes i adran 12A, Deddf Lladrata 1968.
Derbyniodd ddirwy o £85, gorchymyn i dalu costau o £85 ac iawndal o £1,400, a'i
wahardd o yrru am 12 mis. Ar yr un achlysur cafodd ei gyhuddo o yrru cerbyd heb
yswiriant, yn groes i adran 143(2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 lle cafodd ddirwy
o £85 ac arnodiad ar ei drwydded gyrru. Cafodd hefyd ei gyhuddo o yrru’n groes
i amodau trwydded gyrru, yn groes i’r Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 adran 87 (i)
lle derbyniodd ddirwy o £15 ac arnodiad pellach ar ei drwydded gyrru. Derbyniodd
yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
ym Mehefin 2016. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |