Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan
Mr A (copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
ag adroddiad trwydded gyrru'r ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau
personol. Eglurodd pob sefyllfa yn
fanwl yn eu tro. Ategodd ei
gyflogwr ei fod yn adnabod
yr ymgeisydd yn dda a’i
fod yn yrrwr
da, yn berson cydwybodol a dibynadwy. Ymneilltuodd yr ymgeisydd
a’i gyflogwr o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad ·
sylwadau llafar a gyflwynodd ei gyflogwr
yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd
a ddarparwyd gan Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Ym mis Mai 2017, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb ar ei drwydded
gyrru am dramgwyddo gofynion ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati
(y pwyntiau hyn yn dod i ben Mai 2019) Ystyriwyd 6 pwynt ychwanegol a dderbyniodd ym mis Medi 2017 am dramgwyddo gofynion
ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati
(y pwyntiau hyn yn dod i ben Medi
2020). Yn mis Rhagfyr 2017 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb arall am dorri
terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus
(y pwyntiau hyn yn dod i ben Rhagfyr
2020). Nid oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau, rhybuddion nac arnodiadau pellach. Ystyriwyd paragraff
2.3 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r bod ‘materion eraill i’w hystyried’
yn cynnwys ‘hysbysiadau cosb benodedig neu hysbysiadau
cosb eraill’. Ystyriwyd
paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau
traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ystyriwyd paragraff 13.1 sydd yn nodi y caiff troseddau traffig eraill sydd heb eu rhestru yn y polisi yn cael eu trin fel ‘mân droseddau traffig’. Mae’r paragraff hefyd yn ddryslyd, yn cyfeirio at ‘mân drosedd gyrru’ fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |