Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion
dan sylw’r hawl i breifatrwydd
ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus
sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad,
mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig
yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
ei droseddau. Nododd mai gyrrwr loriau ydoedd wrth ei waith a'i fod wedi gwneud
un camgymeriad difrifol o benderfynu gyrru o dan ddylanwad alcohol ar ôl noson
allan gyda’i ffrindiau. Roedd yn cyfaddef yn agored bod y penderfyniad wedi bod
yn wirion a bod y cwrs adfer wedi bod yn werthfawr iawn. Mewn ymateb i gwestiwn, amlygodd y byddai, petai'r drwydded yn cael ei
chaniatáu, yn hunangyflogedig. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau
Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen
gais yr ymgeisydd • sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad • adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn
datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor
(Tachwedd 1995) ar un cyhuddiad o geisio cael eiddo drwy dwyll, yn groes i
Ddeddf Lladrad 1968 adran 15. Cafodd ddirwy o £60.00. Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Chwefror 1989) am ddau drosedd o ddifrod
troseddol. Cafodd orchymyn i dalu iawndal o £ 220.00. Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd (Rhagfyr 2014) ar un cyhuddiad o fethu â
darparu sbesimen i'w ddadansoddi, yn groes i adran 7 (6) Deddf Traffig Ffyrdd
1988. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis, gyda gostyngiad o 3 mis yn dilyn
cwrs adfer.
|