skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygodd ei fod yn hoff iawn o ddreifio ac wedi bod yn dreifio lorïau ers 35 mlynedd. Nododd ei fod wedi cael cynnig swydd dreifio tacsi gyda chwmni lleol. Nid oedd wedi ystyried dod a chynrychiolydd gydag ef i’r gwrandawiad. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

           gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

           sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod y gollfarn (a dderbyniwyd gan Lys Ynadon Porthmadog - Gorffennaf 1982) am ddefnyddio iaith neu ymddygiad bygythiol, ymosodol neu sarhaus yn groes i adran 5 o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1936, yn ogystal ag ymosodiad ‘ABH’ yn groes i adran 47 o Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Derbyniodd yr ymgeisydd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu costau o £3 am y drosedd trefn gyhoeddus, ac ar gyfer y drosedd ABH cafodd ddirwy o £100. Tynnwyd sylw nad oedd ganddo gollfarn arall ar gyfer troseddau o natur dreisgar.

 

Ystyriwyd paragraff 6.5 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r y byddai cais fel rheol yn cael ei wrthod pan fydd gan yr ymgeisydd un gollfarn am ABH sydd yn llai na 3 mlwydd oed. Gyda’r gollfarn wedi digwydd dros 35 o flynyddoedd yn ôl, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y gollfarn yn sail dros wrthod y cais.

 

Bod y gollfarn ( a dderbyniwyd gan Lys y Goron, Yr Wyddgrug - Mawrth 2017) am gyfres o droseddau amgylcheddol (2 gyhuddiad o gadw gwastraff a reolir mewn modd tebygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd dynol yn groes i adran 33(1)(c) o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, a 7 cyhuddiad yn groes i reoliad 38 o’r Rheoliadau Trwyddedau Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010). Gyda’r cyhuddiad o dan Ddeddf 1990,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Ms B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

·         Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

·         Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

·         Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

·         Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

·         Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

·         Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms  B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau wedi digwydd yn ystod ei harddegau a'i bod bellach yn fam i dri o blant ac yn ceisio'r gorau iddynt. Ategwyd ei bod wedi ysgrifennu llythyrau yn ymddiheuro i bawb oedd wedi eu heffeithio gan ei hymddygiad yn Ionawr 2004. Nododd ei bod wedi cael cynnig swydd rhan amser yn gyrru tacsi ar gyfer cludo plant, yr henoed a’r anabl. Ei dymuniad oedd cynorthwyo a chynnig gwasanaeth i’r cyhoedd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.


Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon - Chwefror 2004 am gyfres o droseddau a ddigwyddodd Ionawr 2004, o gymryd cerbyd modur heb ganiatâd a dau gyhuddiad o ladrad. O ganlyniad, derbyniodd yr ymgeisydd orchymyn cyfeirio (referral order) 11 mis a gorchymyn i dalu costau o £25.00. Nid oedd gan yr ymgeisydd unrhyw euogfarnau eraill.

Ystyriwyd paragraff 8.2 o'r Polisi, lle nodi’r y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os yw euogfarn am ladrad yn llai na 3 mlwydd oed. Gyda’r gollfarn wedi digwydd dros 13 o flynyddoedd yn ôl, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y gollfarn yn sail dros wrthod y cais. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn ystyried rhan 12 a 13 o'r Polisi mewn perthynas â'r drosedd o gymryd heb ganiatâd. Canfu'r Is-bwyllgor bod y drosedd yn gyfystyr â man drosedd gyrru, ac ni ddylai fod yn sail i wrthod y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i’r ymgeisydd gyda manylion am ei hawl i gyflwyno apêl.