Lleoliad: Ystafell Cynhadledd, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlag, Dolgellau, LL40 2YB - SDO. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir
eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod
gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn
eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y
panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. a) Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. b) Ategwyd bod datganiad o gollfarn wedi ei gyflwyno
a bod y datganiad yn nodi bod
gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, ac yn unol
â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. c) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
chais.
Ymhelaethodd ar gefndir y drosedd a nododd ei dymuniad i gael gwaith fel gyrrwr
tacsi i gefnogi safbwynt a diogelwch merched.
ch) Yn cefnogi cais
Ms A roedd Mr M Elderking, Perchennog Cwmni Tacsi. Cadarnhaodd ei fod yn
adnabod yr ymgeisydd a bod swydd ar
ei chyfer petai ei chais yn cael ei
gymeradwyo. Ategodd bod ei gwmni
yn ymateb i’r galw am
ferched i yrru tacsi i ferched. d) Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog y cwmni tacsi o’r
ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. dd) Derbyniodd yr Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau.
Atgoffwyd yr Is-bwyllgor, yn unol
ag adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, na ellid rhoi trwydded
oni bai eu bod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded e) Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion canlynol : ·
gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
sylwadau llafar
yr ymgeisydd a Pherchennog y Cwmni Tacsi ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS - bod gan yr ymgeisydd gollfarnau: bod y drosedd o yfed a gyrru yn
ogystal â gyrru heb dystysgrif MOT â thrwydded yrru ar yr un dyddiad
yn rai hanesyddol. Roedd y drosedd o yfed a gyrru, yn
gollfarn unigol ac yn unol
â pharagraff 11.1 o Bolisi’r
Cyngor dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd
heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. O ganlyniad, gan fod y gollfarn yn dyddio
yn ôl i 2007 nid oedd yr Is-bwyllgor
yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod
y cais. PENDERFYNWYD
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat a chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais Ms B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y
Cynghorydd Eryl Jones Williams.
Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn
bresennol. a)
Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded
gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. b)
Ategwyd bod datganiad o gollfarn wedi ei gyflwyno a bod y
datganiad yn nodi bod gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i
drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. c)
Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar ei gais. Ymhelaethodd ar gefndir y troseddau a nododd ei fod yn
edifarhau. Rhannodd ddau dyst lythyr a oedd wedi ei dderbyn - un gan Reolwr
cwmni tacsi a fynegodd ei barodrwydd i’w gyflogi fel gyrrwr tacsi teithiau
plant ysgol ch) Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. d)
Derbyniodd yr Is
Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r
digwyddiadau. Atgoffwyd yr Is-bwyllgor, yn unol ag adran 59 o Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, na ellid rhoi trwydded oni bai
eu bod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded dd)
Wrth gyrraedd eu
penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion canlynol ·
gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais a sylwadau
llafar yr ymgeisydd ·
cynnwys y tyst lythyrau ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS -
bod gan yr ymgeisydd gollfarn am ddigwyddiad o ddifrod troseddol a thair
collfarn (er nad oedd un wedi ei ddatgelu ar y cofnod DBS) am yfed a gyrru. Ystyriwyd bod y collfarnau o yfed a gyrru yn
parhau yn ‘agored’. Yn unol â pharagraff 11.2 o’r Polisi Trwyddedu, nodir y
byddai yn annhebygol rhoi trwydded i ymgeiswyr a chanddynt fwy nag un gollfarn
am yrru alcohol onid oes cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cael y
drwydded yrru yn ôl yn dilyn y gollfarn ddiwethaf. Yn yr achos yma, gan nad
oedd 10 mlynedd wedi pasio ers i’r gwaharddiad ddod i ben, roedd gofynion cymal
11.2 yn berthnasol. Eglurwyd, oni bai bod rhesymau eithriadol
pam y dylid gwyro oddi wrth ofynion paragraff 11.2, ni fyddai yr Is-bwyllgor mewn sefyllfa i roi trwydded o
dan yr amgylchiadau. Ystyriwyd nad oedd yr amgylchiadau yma yn eithriadol fel
bod modd cyfiawnhau gwyro oddi wrth y gwaharddiad o dan baragraff 11.2. o’r
Polisi Trwyddedu PENDERFYNWYD
nad oedd yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat a ni chaniatawyd cais Mr B am drwydded hacni/hurio preifat. Eglurodd y cyfreithiwr bod gan yr ymgeisydd
hawl i gyflwyno apêl yn y Llys Ynadon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor i
wrthod eich cais dim hwyrach na 21 diwrnod o dderbyn llythyr yn cadarnhau'r
penderfyniad. |