skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf LLywodraeth Leol 1972.Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ysytried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i’r Aelodau yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.  Roedd yr adroddiad yn argymell gwrthod y cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y drosedd o drais yn 2014 yn un o daro yn ôl pan wnaeth ei gynbartner ymddwyn yn ymosodol tuag ato.

Nododd ei fod yn gyrru tacsis ers 2008 ac wedi derbyn trwydded ar ôl y gollfarn yn 2014. Daeth y drwydded i ben yn 2019. Amlygodd cyflogwr yr ymgeisydd ei bod yn ei adnabod ers dros 20mlynedd ac nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion am ei ymddygiad yn y cyfnod hwnnw. Ategodd bod y digwyddiad o daro yn ôl yn un allan o gymeriad. Nid oedd ganddi unrhyw bryderon nac amheuaeth dros barhau i’w gyflogi ac roedd yn ymddiried ynddo.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

Yn Mawrth 1983 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Blaenau Ffestiniog am gyfres o 5 cyhuddiad yn gysylltiedig â chymryd cerbyd heb awdurdod yn groes i Adran 12(1) Deddf Dwyn 1968. Am y troseddau hyn derbyniodd gyfanswm mewn dirywon o £113, ei wahardd rhag gyrru am 12 mis a derbyn pwyntiau ar ei drwydded gyrru. Yn mis Chwefror 1984 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Blaenau Ffestiniog am un cyhuddiad o ddwyn o eiddo nad oedd yn eiddo preswyl - hyn yn groes i Adran9 (1) (B) Deddf Dwyn 1968. Cafodd ryddhad amodol o 12 mis, gorchymyn i dalu costau o £3 ac iawndal o £29. Ym mis Mai 2014 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd am un cyhuddiad o guro yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1998. Derbyniodd orchymyn cymunedol gyda gorchmynion goruchwyliaeth a gwaith di dal, costau o £85 a gordal dioddefwr o £60.


Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.