Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus
sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad,
mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig
yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau
a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y digwyddiadau treisgar yn rhan
o’i orffennol a’i fod bellach
yn rhedeg cwmni tacsi. Ategodd
nad oedd y collfarnau wedi eu trafod yn ystod
ei gais blaenorol am drwydded a bod
disgwyl am wrandawiad a phenderfyniad wedi golygu ei
fod wedi colli gwaith. Nododd
nad oedd cwynion wedi dod
i law am ei wasanaeth Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ch) Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
ym Mehefin 2004 gan Lys Ynadon Caernarfon am drosedd o ymosodiad cyffredinol yn groes i
Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Cafodd orchymyn i dalu
dirwy o £50 ac iawndal o
£100. Derbyniodd gollfarn ym Mawrth 2006 gan Lys Ynadon Sir Ddinbych am drosedd o guro yn groes i
adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Derbyniodd hefyd gollfarn am ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol/sarhaus oedd yn debygol
o achosi aflonyddwch, braw neu drallod
yn groes i Ddeddf Trefn
Cyhoeddus 1986.
Cafodd orchymyn cymunedol a gorchymyn goruchwylio am 12 mis yn dilyn y digwyddiad
ynghyd a gorchymyn i dalu iawndal
o £75, costau o £350. Ym Mehefin 2018 derbyniodd 6 pwynt cosb ar
ei drwydded gyrru am dorri gofynion rheoli cerbyd, ffôn symudol
ayyb. d) Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |