Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

           Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol ag adroddiad trwydded gyrru'r ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd pob sefyllfa yn fanwl yn eu tro. Ategodd ei gyflogwr ei fod yn adnabod yr ymgeisydd yn dda a’i fod yn yrrwr da, yn berson cydwybodol a dibynadwy.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gyflogwr o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau llafar a gyflwynodd ei gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Ym mis Mai 2017, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb ar ei drwydded gyrru am dramgwyddo gofynion ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati (y pwyntiau hyn yn dod i ben Mai 2019) Ystyriwyd 6 pwynt ychwanegol a dderbyniodd ym mis Medi 2017 am dramgwyddo gofynion ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati (y pwyntiau hyn yn dod i ben Medi 2020). Yn mis Rhagfyr 2017 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb arall am dorri terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus (y pwyntiau hyn yn dod i ben Rhagfyr 2020). Nid oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau, rhybuddion nac arnodiadau pellach.

 

Ystyriwyd paragraff 2.3 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r bod ‘materion eraill i’w hystyriedyn cynnwyshysbysiadau cosb benodedig neu hysbysiadau cosb eraill’. 

 

      Ystyriwyd paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi.

 

Ystyriwyd paragraff 13.1 sydd yn nodi y caiff troseddau traffig eraill sydd heb eu rhestru yn y polisi yn cael eu trin felmân droseddau traffig’. Mae’r paragraff hefyd yn ddryslyd, yn  cyfeirio at ‘mân drosedd gyrrufel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.