Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

           Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais  Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y drosedd ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau ei gynrychiolydd / darpar gyflogwr

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

      Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd yn Rhagfyr 2012 oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru ar un       cyhuddiad o fod mewn meddiant delweddau pornograffig eithafol, yn dangos cyfathrach rywiol neu ryw geneuol (oral sex) rhwng person ac anifail, trosedd yn groes i adran          63(1)(7)(D) o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008. Adroddwyd nad oedd gan     yr ymgeisydd gollfarnau na rhybuddion eraill.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod “materion eraill i’w hystyriedyn cynnwys rhybuddion.

 

Amlygwyd bod rhan 7 o’r Polisi yn cyfarch troseddau rhyw ac anwedduster. Ym mharagraff 7.1, nodir y mabwysiadir agwedd lem tuag at ymgeiswyr sydd â chollfarnau am droseddau rhyw neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â hynny oherwydd bydd gyrwyr trwyddedig yn aml yn cludo teithwyr sy’n teithio ar eu pen eu hunain ac sy’n ddiamddiffyn. Nodir y bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn neu fater i’w ystyried yn gysylltiedig â’r troseddau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais  Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i ymhelaethu ar y cais a chynnig eglurhad am y drosedd. Gan nad oedd gan yr ymgeisydd bellach yr hawl i fudd-dal na chredyd pensiwn roedd angen swydd arno. Ategodd y darpar gyflogwr bod ganddo swydd 16 awr ar gyfer yr ymgeisydd a'i fod yn ymddiried ynddo i gyflawni’r gwaith, wedi ei adnabod ers dros 50 mlynedd.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau ei ddarpar gyflogwr

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru (Tachwedd  2017) am gyhuddiad o dwyll gan nad oedd hysbysu newid amgylchiadau fyddai yn effeithio ar ei hawl  i fudd-dal (Chwefror 2014). Roedd y drosedd yn groes i adran 111A(1A) Deddf Gweinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1992 a derbyniodd yr ymgeisydd ddirwyo £180.00 a gorchymyn i dalu costau o £85.00 a gordal dioddefwr o £30.00. Amlygwyd nad oedd ganddo gollfarnau na rhybuddion pellach

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt          wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd. Mae  paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod, neu drwydded bresennol yn cael ei hatal neu ei dirymu os bydd collfarn yn erbyn yr ymgeisydd /  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.