Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

None to note

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi collfarn am drosedd o dan adran 4 Deddf Trefn Cyhoeddus 1986 ar ei ffurflen gais nad oedd wedi ei gynnwys ar y cofnod DBS.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd pob sefyllfa yn fanwl yn eu tro ac amlinellodd na dderbyniodd gollfarn am fethu rhoi gwybodaeth ynghylch hunaniaeth gyrrwr ond hysbysiad cosb benodedig a phwyntiau ar ei drwydded. Ategodd hefyd nad oedd yn gyrru cerbydau yn rheolaidd ac mai gwaith gyrru wrth gefn y byddai yn wneud fwyaf.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yn 2012 am drosedd o dan Adran 4 o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.Ym mis Hydref 2016, derbyniodd 4 pwynt cosb ar ei drwydded gyrru am dorri terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus. Ystyriwyd 6 pwynt ychwanegol a dderbyniodd ym mis Mawrth 2018 am dramgwyddo gofynion ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati ynghyd a 6 pwynt pellach am fethu a rhoi gwybodaeth ynghylch hunaniaeth gyrrwr.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

      Gwahoddwyd cynrychiolydd / cyflogwr yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a chynnig       eglurhad am y troseddau gyrru. Amlygodd bod Llys Ynadon Caernarfon wedi caniatáu i’r    ymgeisydd gadw ei drwydded oherwydd ei amgylchiadau personol. Eglurodd y byddai        nifer o’r pwyntiau ar y drwydded wedi ei diddymu erbyn diwedd mis Chwefror fyddai, o    ganlyniad yn gadael    cyfanswm o 5 pwynt. Amlygodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad         oedd wedi derbyn cwynion am Mr A ac ategodd ei fod yn gymeriad hoffus, cwrtais a            dibynnol.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         llythyr geirda

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS  ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am oryrru ar ddau achlysur ym mis Ionawr 2016 (daeth y pwyntiau hyn i ben yn Ionawr 2019). Yn mis Chwefror 2016 derbyniodd 3 pwynt am oryrru (dod i ben Chwefror 2019) a pum pwynt pellach ym mis Gorffennaf 2016 (dod i ben Gorffennaf 2019). Nid oedd collfarnau, rhybuddion nac arnodiadau eraill gan yr ymgeisydd.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

      Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu    Troseddwyr 1974       (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor           ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt    wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu            beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Amlygwyd nad yw SP30 (goryrru) yn cael ei gynnwys yn y rhestr ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.