Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd
y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan
yr unigolyn dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus
sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn nac yn gofyn am ei
adnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig
yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Eglurwyd bod yr
ymgeisydd wedi gwneud cais am
drwydded yng Ngorffennaf 2015 lle gwiriwyd a phenderfynwyd ar y cais ar
sail asesiad swyddog. Dengys cofnodion yr Uned
Drwyddedu na fu i’r cais gael
ei gyfeirio at Is Bwyllgor yn unol
â hawliau dirprwyedig a chymalau perthnasol Cyfansoddiad y Cyngor. Ategwyd na fu i’r
ymgeisydd adnewyddu ei drwydded yn
2016 hyd nes cyflwynwyd cais o’r newydd 8.11.18. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Nodwyd bod Mr A wedi cael ei
ddyfarnu fel person addas a phriodol gan swyddog yn 2015 ac nad
oedd dim wedi newid ers hynny. Nodwyd ei
fod wedi bod yn hunan
gyflogedig fel gosodwr lloriau ond bod y gwaith
erbyn hyn wedi tawelu. Ategwyd
bod collfarn gyrru ar drwydded
yr ymgeisydd hyd 2020. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau. Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am drosedd o Anrhefn Treisgar gan Lys y Goron Caernarfon (Gorffennaf 1990) yn groes i’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 lle cafodd orchymyn i weithredu 210 o oriau cymunedol a thalu costau o £320.00. Yn Medi 1991 derbyniodd gollfarnau am gyfres o droseddau gan Lys Ynadon Bangor yn groes i Ddeddf Plismona 1964. Roedd y troseddau yn cynnwys atal yr Heddlu a dwy drosedd nad yw eu manylion wedi eu cynnwys yn llawn ar y cofnod DBS. Er hynny, cafodd ddirwy o £150.00. Yn Medi 1996 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor am ymosodiad cyffredinol yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 lle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |