skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolyn dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn nac yn gofyn am ei adnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ysytried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y drosedd ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd bod Mr A wedi derbyn collfarn am gyfres o droseddau yn ymwneud a chael arf bygythiol yn ei feddiant. Amlygodd fod y troseddau yn rai hanesyddol ac nad oedd unrhyw elfen o drais yn berthnasol i’r digwyddiad. Ategwyd bod yr ymgeisydd bellach wedi ymgartrefu ym Môn ac yn ceisio am swydd i gefnogi yntau a’i bartner. Nodwyd bod ganddo drwydded yrru lan.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.

      

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau gan Lys Siryf Arbroath  (Mawrth 2004). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a chael arf fygythiol yn ei feddiant yn groes i Ddeddf 47 Deddf Cyfraith Troseddol (Yr Alban) 1995, lle cafodd ddirwy o £200.00. Roedd yr ail drosedd oherwydd methiant, heb esgus rhesymol, i ymddangos mewn llys, yn groes i Ddeddf Trefniadaeth Troseddol (Yr Alban) 1995 lle cafodd ddirwy o £50.00. Roedd y trydydd drosedd yn un o dorri'r heddwch a cafodd ddirwy o £100.00.
 
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

      Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ysytried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

      Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am   gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd bod Mr B yn        ymwybodol pan oedd yn gwneud y cais y byddai yn cael ei gyfeirio at Is Bwyllgor            oherwydd        cynnwys yr adroddiad DBS. Ategwyd nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw gollfarn    ers 2014 ac nad oedd wedi yfed alcohol ers derbyn collfarn am yfed a gyrru yn 2011.             Nododd bod ganddo dri o blant a'i fod angen swydd i gefnogi ei deulu ifanc oherwydd        iddo gael ei wneud yn ddi-waith yn ddiweddar.

 

      Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor        drafod y cais.

 

      PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd, ar hyn o bryd, yn berson addas a            phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor    Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.

      

       Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau gan Lys Ynadon, Gwynedd 

(Tachwedd 2011). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a gyrru car heb yswiriant yn

groes i adran 143 (2) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 lle cafodd ddirwy o £120.00 ac

ardystiwyd ei drwydded.  Roedd yr ail drosedd am yfed a gyrru yn groes i adran 5(1)(A)

o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd. Cafodd ddirwy o £120.00, gorchymyn i dalu costau a’i

wahardd rhag gyrru am 18 mis. Roedd y trydydd drosedd am yrru car yn groes i ofynion y drwydded a cafodd orchymyn i dalu costau £15 ac ardystiwyd ei drwydded. 

                  

                   Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn a ddwy drosedd gan Lys Ynadon Gwynedd (Hydref                    2013). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a dwyn yn groes i adran 1 Deddf Lladrad          1968 lle cafodd orchymyn i dalu costau o £100 ac iawndal o £10. Roedd yr ail drosedd yn ymwneud a methu ildio i’r ddalfa yn groes i adran 6(1) Deddf Mechnïaeth 1976 lle       cafodd ddirwy o £50 a chostau o £20.

 

                   Derbyniodd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.