Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd
y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr
unigolyn dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n
gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn nac yn gofyn am ei
adnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig
yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ysytried cais Mr A (copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod yr
ymgeisydd yn yrrwr trwyddedig gyda’r Cyngor yn
ystod digwyddiad a arweiniodd at dderbyn rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru yn
Mai 2017. Yn unol ag amodau trwydded gyrwyr tacsi mae’n
ofynnol bod gyrrwr yn hysbysu’r
Awdurdod Trwyddedu o unrhyw gollfarn neu ddigwyddiad troseddol sydd yn arwain at dderbyn
Rhybudd gan yr Heddlu Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a chynnig rhesymau dros beidio a rhoi
gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu am y rhybudd a dderbyniodd gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2017) am ymddygiad afreolus.
Nododd Mr A bod y digwyddiad wedi cymryd lle ar
ei noson stag a bod ei
ymddygiad allan o gymeriad. Roedd yn edifar am
yr hyn a wnaeth ac eglurodd
ei fod wedi
ymddiheuro i berchennog y siop am ei
ymddygiad ar y bore canlynol. Nid oedd yn ymwybodol bod
derbyn rhybudd yn cael ei
ystyried fel collfarn ac y byddai
yn ymddangos ar ei gofnod
DBS. Gwahoddwyd cyflogwr yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau a cadarnhaodd nad oedd yn
ymwybodol o’r rhybudd pan gynigodd swydd i Mr A er bod yr ymgeisydd bellach
wedi rhoi eglurhad llawn iddo o’r digwyddiad.
Ategodd y cyflogwr bod yr ymgeisydd
yn yrrwr da ac nad oedd
unrhyw gwynion wedi ei dderbyn
am ei waith
o gludo pobl yn nol ac
ymlaen i’r ysbyty. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD nad oedd yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais
yr ymgeisydd • sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad • sylwadau llafar cyflogwr yr ymgeisydd • adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau. Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarnau am gyfres o droseddau (Ionawr 2010). Roedd y drosedd gyntaf am fethu ac ildio i’r ddalfa ar yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ysytried
cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a chynnig eglurhad am y troseddau. Nododd bod ganddo
ddiddordeb mawr mewn ceir a gyrru
ceir a’i fod yn y broses
o agor garej yn y dyfodol agos.
Ategodd ei fod wedi cwblhau
nifer o gyrsiau gyrru ac y byddai
swydd fel gyrrwr tacsi yn
gyfle i dderbyn incwm ychwanegol i gefnogi ei fenter.
Nododd bod AS Cabs wedi cynnig oriau
hyblyg iddo fel gyrrwr petai
ei gais yn llwyddiannus, ei fod wedi cwblhau
prawf iechyd ac yn talu
am ei drwydded
ei hun. Cadarnahoedd nad oedd wedi
yfed alcohol ers 2005 ac nad oedd
yn defnyddio cyffuriau. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais
yr ymgeisydd • sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad • adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn (Mawrth 2006) gan Lys y Goron Yr Wyddgrug
am achosi anaf i unigolyn yn groes i ddarpariaethau
Deddf Troseddau yn erbyn Person 1861. Cafodd ddedfryd o garchar am 9 mis oedd wedi ei
atal am 2 flynedd, 12 mis o orchymyn gwarchodaeth, 250 o oriau di-dâl a gorchymyn i dalu £600 o gostau. Ym mis Mai 2011 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd am ddwy drosedd
yn ymwneud a chyffuriau yn groes
i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 - un am gynhyrchu canabis ac un o gael resin
canabis yn ei feddiant (Rhagfyr
2010). Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o orchymyn cymunedol a gorchymyn i wneud 80 awr o waith di-dâl am
feddiant a dedfryd o 12 mis
o orchymyn cymunedol, gorchymyn i wneud 80 awr o waith di-dâl a chostau o £85. Cafodd y cyffuriau eu cymryd a’u dinistrio. Tynwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi nodi yn wirfoddol ar ei ffurflen gais bod ganddo gollfarn am yrru cerbyd heb yswiriant (Gorffennaf 2012) lle derbyniodd 3 pwynt. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |