skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolyn dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn nac yn gofyn am ei adnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ysytried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn yrrwr trwyddedig gyda’r Cyngor yn ystod digwyddiad a arweiniodd at dderbyn rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru yn Mai 2017. Yn unol ag amodau trwydded gyrwyr tacsi mae’n ofynnol bod gyrrwr yn hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o unrhyw gollfarn neu ddigwyddiad troseddol sydd yn arwain at dderbyn Rhybudd gan yr Heddlu

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a chynnig rhesymau dros beidio a rhoi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu am y rhybudd a dderbyniodd gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2017) am ymddygiad afreolus. Nododd Mr A bod y digwyddiad wedi cymryd lle ar ei noson stag a bod ei ymddygiad allan o gymeriad. Roedd yn edifar am yr hyn a wnaeth ac eglurodd ei fod wedi ymddiheuro i berchennog y siop am ei ymddygiad ar y bore canlynol. Nid oedd yn ymwybodol bod derbyn rhybudd yn cael ei ystyried fel collfarn ac y byddai yn ymddangos ar ei gofnod DBS.

 

Gwahoddwyd cyflogwr yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau a cadarnhaodd nad oedd yn ymwybodol o’r rhybudd pan gynigodd swydd i Mr A er bod yr ymgeisydd bellach wedi rhoi eglurhad llawn iddo o’r digwyddiad. Ategodd y cyflogwr bod yr ymgeisydd yn yrrwr da ac nad oedd unrhyw gwynion wedi ei dderbyn am ei waith o gludo pobl yn nol ac ymlaen i’r ysbyty.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

           GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor

            Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

          sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

           sylwadau llafar cyflogwr yr ymgeisydd

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.

      

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarnau am gyfres o droseddau (Ionawr 2010). Roedd y drosedd gyntaf am fethu ac ildio i’r ddalfa ar yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ysytried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a chynnig eglurhad am y troseddau. Nododd bod ganddo ddiddordeb mawr mewn ceir a gyrru ceir a’i fod yn y broses o agor garej yn y dyfodol agos. Ategodd ei fod wedi cwblhau nifer o gyrsiau gyrru ac y byddai swydd fel gyrrwr tacsi yn gyfle i dderbyn incwm ychwanegol i gefnogi ei fenter. Nododd bod AS Cabs wedi cynnig oriau hyblyg iddo fel gyrrwr petai ei gais yn llwyddiannus, ei fod wedi cwblhau prawf iechyd ac yn talu am ei drwydded ei hun. Cadarnahoedd nad oedd wedi yfed alcohol ers 2005 ac nad oedd yn defnyddio cyffuriau.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

           GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor

            Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

          sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn (Mawrth 2006) gan Lys y Goron Yr Wyddgrug am achosi anaf i unigolyn yn groes i ddarpariaethau Deddf Troseddau yn erbyn Person 1861. Cafodd ddedfryd o garchar am 9 mis oedd wedi ei atal am 2 flynedd, 12 mis o orchymyn gwarchodaeth, 250 o oriau di-dâl a gorchymyn i dalu £600 o gostau. Ym mis Mai 2011 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd am ddwy drosedd yn ymwneud a chyffuriau yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 - un am gynhyrchu canabis ac un o gael resin canabis yn ei feddiant (Rhagfyr 2010). Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o orchymyn cymunedol a gorchymyn i wneud 80 awr o waith di-dâl am feddiant a dedfryd o 12 mis o orchymyn cymunedol, gorchymyn i wneud 80 awr o waith di-dâl a chostau o £85. Cafodd y cyffuriau eu cymryd a’u dinistrio.

 

Tynwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi nodi yn wirfoddol ar ei ffurflen gais bod ganddo gollfarn am yrru cerbyd heb yswiriant (Gorffennaf 2012) lle derbyniodd 3 pwynt.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.