Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Gwenan Roberts (Rheolwr
Trwyddedu) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r
hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad,
mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd darpar gyflogwr yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd mai gweithio gyda sgaffald oedd ei
waith ers dros ugain mlynedd ond bellach angen gwaith llai llafurus. Amlygodd
bod yr ymgeisydd heb gael diwrnod o salwch o’i waith, yn ddyn gonest ac y
byddai o fantais i’w gwmni petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu oherwydd ei
barodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol. Ategodd bod yr ymgeisydd wedi
derbyn prawf meddygol a phrawf llygad. Gofynnodd i’r panel ystyried y cais yn
ffafriol er y collfarnau hanesyddol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweithredu profion cyffuriau ar hap ar
yrwyr ei gwmni (yn dilyn digwyddiad diweddar), amlygodd nad oedd y teclyn
ganddo i wneud y profion ac felly yn ceisio cyflogi yn gall ac yn ymddiried yn
ei yrwyr i fod yn onest. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr o’r ystafell tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau
Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen
gais yr ymgeisydd • sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad • adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn
datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ieuenctid Caernarfon (Gorffennaf 1975) ar 4 cyhuddiad o fwgleriaeth, yn groes i Ddeddf Lladrad 1968. Cafodd orchymyn arolygu o ddwy flynedd a gorchymyn i dalu iawndal. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Rhagfyr 1984) ar gyhuddiad o fwgleriaeth, eto yn groes i Ddeddf Lladrad 1968 lle cafodd ddedfryd i wasanaeth yn y gymuned a gorchymyn i dalu iawndal o £150.00. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Chwefror 1985) ar 2 gyhuddiad o ddwyn yn groes i Ddeddf Lladrad 1968 gyda dirwy o £50 a gorchymyn i dalu iawndal. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Gorffennaf 1985) ar 2 gyhuddiad yn ymwneud a chyffur dosbarth B canabis yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 lle cafodd ddirwyo o £180 a gorchymyn fforffedu a dinistrio. Derbyniodd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |