Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd y
panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Ni dderbyniwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel
canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais Mr A (copi ar wahân
i aelodau’r Is-bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am
drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r
newydd. Nodwyd bod
datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno,
ac oherwydd bod troseddau yn
parhau yn berthnasol yn y maes trwyddedu, gofynnwyd i’r Pwyllgor
ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DAS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. b) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais. Cydnabuwyd bod
y troseddau a ddatgelwyd wedi digwydd o fewn cyfnod ei arddegau
o ganlyniad i benderfyniadau
anaeddfed. Ymhelaethodd ei fod yn edifarhau
a'i fod bellach
yn dad cyfrifol
gydag agwedd bositif at fywyd a gwaith. Nododd hefyd ei fod
wedi cael cynnig swydd gyda
chwmni lleol. Cyflwynwyd llythyr
geirda o gymeriad yr ymgeisydd a cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu bod cais
ar lafar wedi ei wneud
i gyflogi’r ymgeisydd, ei fod wedi
pasio prawf meddygol ac wedi
pasio prawf gwybodaeth. c)
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra y bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. ch) Ar ôl ystyriaeth fanwl, penderfynodd yr Is-bwyllgor bod yr
ymgeisydd yn berson addas i gael trwydded yrru,
a chaniatawyd y cais. Teimlai’r Is-bwyllgor i’r ymgeisydd gydnabod
difrifoldeb y drosedd ac nid oedd yn cuddio ar ei fai. Cydnabuwyd hefyd ei fod
wedi tystiolaethu dros newid ei ffordd o fyw. PENDERFYNWYD
caniatáu cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat. Adroddodd y
Cyfreithiwr y byddai’r Uned Trwyddedu yn anfon llythyr i’r ymgeisydd yn
cadarnhau penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dechreuodd y cyfarfod am 3:30pm a daeth i ben 4:10pm |