skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi derbyn trwydded hacni gan Cyngor Môn (15.8.17) drwy broses cyfweld - dosbarthwyd copi o’r drwydded er gwybodaeth. Ategwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi troseddu ers 2008. Ei fod bellach wedi gwella ei gymeriad, yn ddyn teulu ac yn dad i bedwar o blant.

 

Mewn ymateb i sylw, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod cynlyn dirprwyo hawliau Cyngor Sir Ynys Môn yn wahanol i drefniadau Gwynedd, lle nad oes swyddogion Gwynedd yr hawl i wneud penderfyniad os oes troseddau wedi eu cofnodion ar y cofnodi DBS. Amlygwyd nad oedd yr Uned Trwyddedu yn ymwybodol bod cais am drwydded hacni wedi ei ganiatáu gan Cyngor Sir Ynys Môn

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod cyfres o gollfarnau wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd oedd yn cynnwys troseddau o ddefnyddio dogfen yswiriant gyda bwriad i dwyllo ym Mawrth 2003 ac am beidio â stopio wedi damwain ym Medi 2003 wedi gyrru heb ofal a sylw digonol. Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod yr euogfarnau yma yn gyfystyr â throseddau traffig difrifol ac yn unol â pharagraff 12.2 o bolisi'r Cyngor. Fodd bynnag, gan fod y troseddau hyn wedi digwydd dros 5 mlynedd yn ôl, ac wedi ystyried paragraff 12.4 y polisi, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y troseddau hyn yn sail i wrthod eich cais.

 

Tynnwyd sylw o gofnod DBS o fod yn euog o yfed a gyrru yn 2004.Yn yr un modd, roedd y drosedd yn un hanesyddol ac yn unol â pharagraff 11.1 o’r polisi, nid oedd yn sail i wrthod y cais. Yn yr un modd, wrth drafod y drosedd o guro a ddigwyddodd yn 2007, roedd y drosedd yn un hanesyddol ac wedi ystyried paragraff 6.5 o’r polisi, nid oedd yn sail i wrthod y cais.

 

Roedd y gollfarn ddiweddaraf am gyflawni gweithred o aflonyddu (Gorffennaf 2008) yn ymddangos i gynrychiolydd yr ymgeisydd fel un oedd wedi ei restru o dan baragraff 6.4 o’r polisi a bod rhaid i 10 mlynedd fod wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar. Er hynny, amlygodd y Cyfreithiwr mai paragraff 6.5 oedd yn berthnasol i’r gollfarn o greu aflonyddwch ac felly yn unol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd bod rhai o’r troseddau yn rhai hanesyddol, ond bod yr un o feddiannu a thyfu cyffur yn ganlyniad o ymweliad gan yr Heddlu ar ei eiddo mewn perthynas ag ymchwiliad amherthnasol. Gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd cyfres o gwestiynau i’r ymgeisydd am y troseddau ac am ei gefndir. Mynegodd yr ymgeisydd ei fod yn awyddus i gael gwaith i gefnogi ei deulu ac ategwyd ei fod yn berson agored a gonest gyda chymeriad da.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod cyfres helaeth o gollfarnau wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd. Adnabuwyd bod nifer o gollfarnau hanesyddol am droseddau anonestrwydd, ond ar ôl ystyried paragraff 8.2 o bolisi'r Cyngor, a bod yr euogfarnau hyn wedi digwydd dros 3 blynedd yn ôl, roedd yr is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yr euogfarnau hyn yn sail i wrthod y cais.

 

Ystyriwyd bod yr ymgeisydd wedi ei ddyfarnu yn euog am droseddau oedd yn gysylltiedig â thrais gan y Llys Ynadon yn 1997, 1998 a 2003. Wedi ystyried paragraff 6.6 o’r Polisi ac adnabod bod mwy na 10 mlynedd wedi mynd heibio ers yr euogfarn ddiwethaf yn 2003, roedd yr is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yr euogfarnau hyn yn sail i wrthod y cais.


Tynnwyd sylw hefyd at euogfarnau hanesyddol eraill o 1995, 1996 a 1998 am droseddau moduro lle cafodd yr ymgeisydd ei wahardd ar ddau achlysur. Wedi ystyried paragraff 12.4 a 12.11 o’r  polisi, ac o gofio bod yr euogfarnau a'r gwaharddiadau wedi digwydd 19 mlynedd yn ôl, roedd yr is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yr euogfarnau hyn yn sail dros wrthod.


Rhoddodd yr is-bwyllgor ystyriaeth lawn i'r gollfarn ddiweddar (4.7.17) am feddiant amffetamin dosbarth B, a chynhyrchu canabis dosbarth B, oedd yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Rhoddodd yr is-bwyllgor ystyriaeth i baragraffau 9.1 a 9.2 o bolisi'r Cyngor, oedd, mewn achosion o droseddau lluosog, yn ymwneud â thyfu neu feddiannu cyffuriau. Ategwyd bod y polisi yn nodi y dylid gwrthod cais oni bai bod yr ymgeisydd yn rhydd o euogfarnau am o leiaf 5 mlynedd ac felly'r paragraff yn berthnasol i’r gollfarn yma.

 

Fodd bynnag, wedi derbyn cefndir  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.