skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystired adroddiad gan  Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y drosedd. Amlygodd bod y digwyddiad yn un unigryw, allan o gymeriad a'i fod wedi dysgu o’i gamgymeriad. Nododd darpar gyflogwr yr ymgeisydd, bod yr ymgeisydd wedi bod yn dreifio tacsi o’r blaen iddo ac nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion am ei wasanaeth. Dywedodd yr ymgeisydd y byddai yn hoffi’r cyfle i weithio i’r cwmni teuluol.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Yn dilyn gwaharddiad rhag gyrru am bythefnos yn 2013 am yrru yn groes i arwydd ‘Dim Mynediad’ nodwyd yn unol a pharagraff 12.8 o bolisi’r Cyngor bod angen i gyfnod o 6 mis basio ar ôl i waharddiad am lai na 56 diwrnod ddod i ben cyn gellir rhoi trwydded.  Gan fod y gwaharddiad wedi dod i ben ymhell dros 6 mis yn ôl, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod hwn yn rheswm i wrthod y cais.

 

Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon Gwynedd (Ionawr 2017) o dan adran 4(1)(A) Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 am un digwyddiad o ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol; geiriau sarhaus neu ymddygiad i achosi ofn neu gythruddo trais, derbyniwyd dedfryd o orchymyn i dalu iawndal a chostau. Yn unol â pharagraff 6.5 o bolisi’r Cyngor bydd cais yn cael ei wrthod os bydd llai na 3 blynedd wedi pasio ers derbyn collfarn cyn y gellid rhoi trwydded. Ystyriwyd, er bod y gollfarn yma yn un diweddar a’r polisi yn berthnasol, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gyda’r esboniad a gafwyd am amgylchiadau’r achos a’r dystiolaeth a gafwyd am gymeriad da yr ymgeisydd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y rhesymau yn cyfiawnhau bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd, er nad oedd 3 mlynedd wedi mynd heibio ers y drosedd

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau trefniant y drwydded.

 

 

 

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystired adroddiad gan  Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd ei fod yn ymddiheuro am eich ymddygiad yn y gorffennol pan yn ifanc a'i fod yn sylweddoli ei fod wedi ymddwyn yn wirion. Yn awr yn dad i bedwar o blant ac yn awyddus iddynt ddilyn y llwybr cywir. Eglurodd bod y drosedd o ddwyn yn ymwneud â gweithio gyda phobl yn betio ar beiriannau. Datblygodd arfer o fetio ac o ganlyniad wedi dwyn arian er mwyn gamblo. Cadarnhaodd ei fod wedi ceisio am gymorth ar gyfer ei broblem gamblo ac fe ymddiheurodd wrth ei gyn-gyflogwr a thalu’r arian yn ôl.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         tystlythyr calonogol yn gryf o blaid yr ymgeisydd wedi ei gyflwyno yn y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod cyfres helaeth o gollfarnau wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd rhwng 2001 a 2009 oedd yn cynnwys troseddau gydag elfennau o drais, o fod yn feddw ac afreolus ac yn 2002 am yrru heb yswiriant mewn cyfnod o waharddiad.  Roedd y gollfarn ddiweddaraf am ladrata (Ionawr 2009) mewn cysylltiad â throsedd a ddigwyddodd  Tachwedd 2008. Yn unol â pharagraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd yn ymwneud ag ail-droseddu, rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu oedd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar. Roedd y gollfarn olaf wyth mlynedd a hanner yn ôl ac roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y troseddau yn berthnasol i’w penderfyniad.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn gwerthfawrogi bod  yr ymgeisydd wedi bod yn agored ac yn onest ynglŷn â’i gofnod troseddol a'r problemau a gafodd yn y gorffennol.  Roeddynt hefyd yn cydnabod yr ymdrech wirioneddol a wnaed i wella ei ymddygiad a’i ffordd o fyw, ac nad oedd tystiolaeth o unrhyw broblem wedi bod ers wyth mlynedd a hanner.  Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y gellid rhoi trwydded i’r ymgeisydd, ond gyda hanes y troseddau yn fater difrifol penderfynwyd caniatáu'r drwydded am flwyddyn yn unig yn y lle cyntaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Reolwr Gwarchod y Cyhoedd cadarnhaodd yr Is-bwyllgor  y byddent yn fodlon i’r drwydded bellach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.