Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw,cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n
berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad
oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr
unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o
gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau
ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y
cais. Rhoddwyd gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amlygodd mai
camddealltwriaeth oedd y prif reswm dros ei gamgymeriad. Nododd y byddai cyngor
a gwybodaeth briodol a chywir ar ddechrau ei yrfa fel gyrrwr tacsi wedi bod yn
fanteisiol. Cadarnhaodd bod ganddo drwydded yrru gyfredol ar gyfer hurio
preifat a cherbyd hacni yn Arfon. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat a
chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi
ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu
ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni
Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd
• adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Yn dilyn datganiad ar y ffurflen gais am drosedd gyrru dros y terfyn amser
statudol ( 3 pwynt cosb yn Awst 2015), amlygwyd, yn unol â chymal 13.1 o Bolisi’r Cyngor bod mân
drosedd gyrru yn golygu trosedd rhwng 1 a 3 phwynt cosb. Amlygywd bod cymal 13.2 yn nodi na fyddai un
gollfarn am fân drosedd gyrru yn arwain at wrthod cais ac felly nid oedd yr
Is-bwyllgor yn ystyried bod y fân drosedd yma yn sail i wrthod y cais. Yn dilyn dyfarniad gan Llys Ynadon Môn (Tachwedd 2016) ar gyhuddiad o
weithredu’n groes i reol 9 o’r Ddeddf Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg
2008 ynghyd â chollfarn o gymell llogiad heb drwydded cerbyd oedd yn groes i
Adran 45 Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847,
cadarnhaodd yr ymgeisydd bod y ddau achos wedi codi o ddigwyddiad ym
Mhorthaethwy (Mawrth 2016) lle cafodd ei ddal gan Cyngor Môn mewn ymarferiad
prawf brynu. Amlygwyd yn unol â chymal 17.0 o Bolisi Cyngor Gwynedd y byddai’n
annhebygol rhoi trwydded i ymgeisydd a
chanddo gollfarn yn gysylltiedig â thorri deddf neu is ddeddf onid oes cyfnod o
leiaf 12 mis wedi myned heibio ers yr
achos mwyaf diweddar o hynny. Er mai ond 4 mis oedd wedi mynd heibio ers
dyddiad y gwaharddiad, gwrthod y cais fyddai’r cam cyntaf, ond gyda hawl gan yr
is bwyllgor i wyro oddi ar y canllaw o fewn amgylchiadau eithriadol. Gyda’r ymgeisydd wedi cadarnhau mai trwydded Hurio Preifat a Cherbydau
Hacni un flwyddyn ar gyfer Arfon yn unig oedd ganddo (rhwng 28.8.15 a
27.8.16), nid oedd hyn yn caniatáu iddo
weithredu ym Môn. Amlygodd yr ymgeisydd mai camddealltwriaeth oedd hyn ar ei
ran a phleidiodd yn euog i’r drosedd. Ystyrioedd yr Is Bwyllgor nad oedd unrhyw dystiolaeth na phryderon
ynglŷn ag ymddygiad yr ymgeisydd fel gyrrwr yn Arfon yn ystod cyfnod y
drwydded. O dan yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |