Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Louise Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Mynegodd yr Is-bwyllgor siom nad oedd yr ymgeisydd wedi troi fyny i’r gwrandawiad..

 

Amlygwyd bod y Swyddog Trwyddedu wedi derbyn e-bost gan yr ymgeisydd yn cadarnhau ei fwriad i fynychu’r gwrandawiad. Gofynnwyd i’r Rheolwr Trwyddedu gysylltu â’r ymgeisydd drwy ei ffôn symudol, ond ni chafwyd ateb gan yr ymgeisydd.

 

Penderfynwyd parhau gyda’r gwrandawiad yn absenoldeb yr ymgeisydd..

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD  nad oedd yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a ni  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

           gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd ynghyd a thystysgrif cwblhau cwrs gyrru a dau hysbysiad cosb benodedig a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru 6.1.17

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Yn dilyn dyfarniad gan Lys Ynadon am un drosedd o ladrad yn 2001, amlygwyd yn unol â pharagraff 8.2 o Bolisi’r Cyngor y dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. Gyda’r gollfarn yn dyddio yn ôl 15 mlynedd, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gollfarn yma yn sail i wrthod y cais.

 

Yn dilyn gwaharddiad am 12 mis, o yfed a gyrru yn Ebrill 2009 (a gafodd ei leihau i 9 mis yn dilyn cwblhau cwrs), derbyniwyd, yn unol â chymal 12.10 o Bolisi’r Cyngor  y byddai cais yn cael ei wrthod os oes collfarn ddiweddar yn erbyn yr ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad o 12 mis neu fwy, onid oes cyfnod o 18 mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad. Gyda gwaharddiad y gollfarn yn dyddio yn ôl i 2010, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod y cais.

 

Yn dilyn rhybudd gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ymwneud â honiad bod yr ymgeisydd wedi ymosod / cam-drin neu esgeuluso plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf diangen yn Chwefror  2013, nodwyd bod manylion y datganiad DBS yn annelwig. Gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar gefndir yr honiad, bu i’r Is-bwyllgor ei ystyried felymosodiad ar blentyn’. Yn ôl cymal 7.2 o Bolisi’r Cyngor, oni cheir amgylchiadau eithriadol bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes troseddau sydd yn ymwneud â phant neu oedolion diamddiffyn Nodwyd nad oedd terfyn amser amodol yn cael ei gynnwys yng nghymal 7.2 a gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar gefndir  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.