Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cym
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan
Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat
o’r newydd. Nodwyd bod y gwrandawiad yn ddilyniant i benderfyniad a wnaed
01.02.17 lle gohiriwyd y gwrandawiad hyd nes bod datganiad ysgrifenedig o’r
rhesymau pam cafodd trwydded ei chaniatáu gan Cyngor Sir
Ynys Môn (CSYM), er gwaethaf collfarnau ar y datganiad DBS. Ategwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno, ac
oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu
wedi eu cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Ychwanegwyd nad oedd collfarnau
ychwanegol wedi eu nodi ers cyflwyno’r cais gwreiddiol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat a chaniatawyd cais Mr A am drwydded
hacni/hurio preifat. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried
y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd • sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i
gynrychiolydd yn ystod y ddau wrandawiad • adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol. Yn dilyn gwaharddiad am 18 mis, o yfed a gyrru yn
Awst 2003 (a gafodd ei godi i Fedi
2004 oherwydd i’r ymgeisydd gwblhau cwrs), derbyniwyd bod y drosedd o yfed a gyrru, yn
gollfarn unigol ac yn unol
â pharagraff 11.1 o Bolisi’r
Cyngor dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd
heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. O ganlyniad, gan fod y gollfarn yn dyddio
yn ôl i 2004 nid oedd yr Is-bwyllgor
yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod
y cais. Roedd yr
Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried collfarn
ar gyfer digwyddiad o ddifrod troseddol (Mai 2004) lle cafodd yr ymgeisydd
ei ddedfrydu i ddirwy, a gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Roeddynt hefyd wedi ystyried
collfarn Ionawr 2012 ar gyfer digwyddiad
o ymosodiad oedd yn achosi niwed
corfforol gwirioneddol
(ABH) ac ar gyfer dau gyhuddiad
o ddifrod troseddol ar yr un dyddiad.
O dan gymal 16.1 o'r Polisi Trwyddedu ‘dylid ystyried gwrthod cais os oedd gan yr ymgeisydd
hanes o aildroseddu, sydd yn dangos
diffyg parch at les eraill neu at eiddo,
onid oes cyfnod o 10 mlynedd o leiaf wedi mynd
heibio ers y gollfarn ddiweddaraf’. Fodd bynnag, roedd gan yr Is-bwyllgor hawl i wirio oddi
wrth gymal 16.1 os yn fodlon bod
amgylchiadau eithriadol yn berthnasol. Ystyriwyd bod
bwlch o 8 mlynedd rhwng collfarn 2004 a 2012 ac nad oedd
yr ymgeisydd wedi mynd allan
i achosi gweithred o ddifrod troseddol yn fwriadol (2012), yn hytrach ei
fod yn digwydd
o ganlyniad i gast aeth o chwith. Yn ychwanegol, ystyriwyd bod gan yr ymgeisydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |