Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Cynhadledd, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlag, Dolgellau, LL40 2YB - SDO. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

COFNODION:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

COFNODION:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

COFNODION:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

COFNODION:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Ystyried cais  Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

COFNODION:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

a)    Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.

 

b)    Ategwyd bod  datganiad o gollfarn wedi ei gyflwyno a bod y datganiad yn nodi bod gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei chais. Ymhelaethodd ar gefndir y drosedd a nododd ei dymuniad i gael gwaith fel gyrrwr tacsi i gefnogi safbwynt a diogelwch merched. 

 

ch)   Yn cefnogi cais Ms A roedd Mr M Elderking, Perchennog Cwmni Tacsi. Cadarnhaodd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd  a bod swydd ar ei chyfer petai ei chais yn cael ei gymeradwyo. Ategodd bod ei gwmni yn ymateb i’r galw am ferched i yrru tacsi i  ferched.

 

d)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog y cwmni tacsi o’r ystafell  tra bu i aelodau’r  Is-bwyllgor drafod y cais.

 

dd) Derbyniodd yr Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Atgoffwyd yr Is-bwyllgor, yn unol ag adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, na ellid rhoi trwydded oni bai eu bod yn fodlon  bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded

 

e)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion canlynol :

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar yr ymgeisydd a Pherchennog y Cwmni Tacsi

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

-       bod gan yr ymgeisydd gollfarnau:

 

bod y drosedd o yfed a gyrru yn ogystal â gyrru heb dystysgrif MOT â thrwydded yrru ar yr un dyddiad yn rai hanesyddol. Roedd y drosedd o yfed a gyrru, yn gollfarn unigol ac yn unol â pharagraff 11.1 o Bolisi’r Cyngor dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. O ganlyniad, gan fod y gollfarn yn dyddio yn ôl i 2007 nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.



 

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Ystyried cais  Ms B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

COFNODION:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

a)    Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.

 

b)    Ategwyd bod  datganiad o gollfarn wedi ei gyflwyno a bod y datganiad yn nodi bod gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais. Ymhelaethodd ar gefndir y troseddau a nododd ei fod yn edifarhau. Rhannodd ddau dyst lythyr a oedd wedi ei dderbyn - un gan Reolwr cwmni tacsi a fynegodd ei barodrwydd i’w gyflogi fel gyrrwr tacsi teithiau plant ysgol

 

ch)   Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

d)    Derbyniodd yr Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Atgoffwyd yr Is-bwyllgor, yn unol ag adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, na ellid rhoi trwydded oni bai eu bod yn fodlon  bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded

 

dd)     Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion canlynol

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais a sylwadau llafar yr ymgeisydd

·         cynnwys y tyst lythyrau

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

-       bod gan yr ymgeisydd gollfarn am  ddigwyddiad o ddifrod troseddol a thair collfarn (er nad oedd un wedi ei ddatgelu ar y cofnod DBS) am yfed a gyrru.

 

Ystyriwyd bod y collfarnau o yfed a gyrru yn parhau yn ‘agored’. Yn unol â pharagraff 11.2 o’r Polisi Trwyddedu, nodir y byddai yn annhebygol rhoi trwydded i ymgeiswyr a chanddynt fwy nag un gollfarn am yrru alcohol onid oes cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cael y drwydded yrru yn ôl yn dilyn y gollfarn ddiwethaf. Yn yr achos yma, gan nad oedd 10 mlynedd wedi pasio ers i’r gwaharddiad ddod i ben, roedd gofynion cymal 11.2 yn berthnasol.

 

Eglurwyd, oni bai bod rhesymau eithriadol pam y dylid gwyro oddi wrth ofynion paragraff 11.2, ni fyddai yr  Is-bwyllgor mewn sefyllfa i roi trwydded o dan yr amgylchiadau. Ystyriwyd nad oedd yr amgylchiadau yma yn eithriadol fel bod modd cyfiawnhau gwyro oddi wrth y gwaharddiad o dan baragraff 11.2. o’r Polisi Trwyddedu

 

PENDERFYNWYD  nad oedd yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a ni  chaniatawyd cais Mr B am drwydded hacni/hurio preifat.

 

Eglurodd y cyfreithiwr bod gan yr ymgeisydd hawl i gyflwyno apêl yn y Llys Ynadon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor i wrthod eich cais dim hwyrach na 21 diwrnod o dderbyn llythyr yn cadarnhau'r penderfyniad.