Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel
canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawyd
pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Tudor Owen
. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.
a) Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r
newydd. b) Ategwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno
a bod y datganiad yn nodi bod gan yr
ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol
i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. c) Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar ei gais. Ymhelaethodd
ar gefndir ei gollfarn ac ymddiheurodd am beidio amlygu'r collfarnau hynny ar ei
ffurflen gais. Nododd ei ddymuniad
i gael gwaith er mwyn cyfrannu
at gostau prifysgol ei blant a chynnal
ei hun a’i
gartref. Amlygodd ei fod
eisoes yn gyrru lorïau a cherbydau adeiladu yn ei swydd
bresennol a bod profion dwys yn cael
ei gwneud ar ei iechyd
a'i allu i yrru yn ofalus. ch)
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. dd) Derbyniodd yr Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Atgoffwyd yr Is-bwyllgor, yn unol
ag adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, na ellid rhoi
trwydded oni bai eu bod yn
fodlon bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded d) Wrth gyrraedd eu
penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y ffactorau canlynol : • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr
ymgeisydd • adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS • sylwadau llafar yr ymgeisydd • bod
gan yr ymgeisydd
gollfarnau: Ystyriwyd bod y collfarn
o ddefnydd twyllodrus o fanylion trwydded yrru a chollfarn cysylltiedig o fethu â darparu tystysgrif yswiriant i’r Heddlu
yn rhai hanesyddol
(dyddiedig 2000). Yn unol a pharagraff 8.2 o’r Polisi Trwyddedu
mae angen i 3 blynedd basio yn
dilyn collfarn am drosedd yn ymwneud
ag anonestrwydd, cyn y gellid ystyried rhoi trwydded. Nid oedd yr
Is-bwyllgor yn ystyried bod hyn yn reswm i wrthod
y cais. Ystyriwyd bod y collfarn
o rybudd am aflonyddu yn 2013 yn un hanesyddol.
Yn unol a pharagraff 17.1 o’r Polisi Trwyddedu, mae angen i 12 mis basio ers
derbyn y rhybudd cyn ystyried rhoi
trwydded, ond gyda’r digwyddiad
yn un oedd wedi digwydd dros
3 blynedd yn ôl, nid oedd
yr Is-bwyllgor yn ystyried bod hyn yn rheswm
i wrthod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat a chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat. |