skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Cynhadledd, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlag, Dolgellau, LL40 2YB - SDO. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

Ymddiheuriadau – dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

Cofnod:

1.         CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO PREIFAT  (MR A)

 

a)    Cyflwynodd y Swyddog  Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.

 

b)    Ategwyd bod  datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno a bod y datganiad yn nodi bod gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais ac yn benodol y gollfarn o guro a ddigwyddodd yn 2011 gan nodi mai digwyddiad domestig ydoedd rhwng ei wraig ag ef.  Ni fu i’w wraig gymryd achos yn ei erbyn ond oherwydd bod y digwyddiad wedi ei weld ar deledu cylch gyfyng bu i Gwasanaeth Erlyn y Goron cymryd camau yn ei erbyn.  Cadarnhaodd wrth y Panel ei fod yn parhau i fyw gyda’i wraig ac wedi cael dau blentyn, ac un arall ar y ffordd ers y digwyddiad.

 

 

ch)  Cyflwynwyd neges e-bost i genfogi cais Mr A gan Arolygydd gyda’r Heddlu ac yn datgan ei fod wedi ei adnabod ers dros 20 mlynedd. Mynegodd bod Mr A yn berson disglair, huawdl a charedig.  Roedd ar bob achlysur yn berson call a bod y gollfarn flaenorol yn ddigwyddiad hollol allan o’i gymeriad. Ni fyddai ganddo unrhyw bryder i gynnig swydd i Mr A. ac yn dymuno llwyddiant iddo dderbyn trwydded ar gyfer gyrru tacsi.  

 

d)    Ymatebodd Mr A i nifer o gwestiynau gan Aelodau’r Panel a oedd yn cynnwys materion am ei waith, rhesymau pam y cyflwynwyd y cais, a.y.b.

 

 

(dd)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’r Swyddog Trwyddedu o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

(e)  Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried  y ffactorau canlynol :

 

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

·         e-bost o gefnogaeth gan Arolygydd gyda’r Heddlu

·         bod gan yr ymgeisydd gollfarnau blaenorol :

 

-       bod y collfarnau am ddifrod troseddol o 1990 a 1991 wedi digwydd 26 a 25 mlynedd yn ol. 

-       Bod y gollfarn am yfed a gyrru yn 1998 wedi digwydd 16 mlynedd yn ol ynghyd a’r drosedd am guro wedi digwydd yn 2011, 51/2 mlynedd yn ol

-       Er bod y collfarnau uchod yn rhai difrifol bu iddynt ddigwydd flynyddoedd yn ol

 

O dan baragraffau 6.5 a 11.3 o’r polisi perthnasol, ac o ysytired bod dros 3 mlynedd wedi mynd heibio mewn perthynas  a phob euogfarn, nad oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried euogfarnau hyn yn sail ddigonol dros wrthod y cais. 

 

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO PREIFAT  (MR B)

 

Mynegodd yr Is-bwyllgor siom nad oedd yr ymgeisydd wedi troi fyny i’r Is-bwyllgor ac o’r herwydd:

 

PENDERFYNWYD:  

 

(a)  Gohirio cymryd penderfyniad ar y cais uchod, yn wyneb y ffaith nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol a’r Is-bwyllgor angen mwy o wybodaeth ac eglurhad pellach gan yr ymgeisydd ynglyn a’r collfarnau.

 

(b)   Gofynnwyd i’r Swyddog Trwyddedu gysylltu a’r ymgeisydd

gan awgrymo wrtho i gyflwyno tystlythyrau i gefnogi ei gais gan gyflogwr a / neu ddarpar gyflogwr cyn i’r Is-bwyllgor ystyried ei gais ymhellach.