skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

  Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.

 

b)    Ategwyd bod  datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno a bod y datganiad yn nodi bod gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais. Ymhelaethodd ar gefndir ei gollfarn ac amlygodd ei ddymuniad i gael gwaith er mwyn cynnal ei deulu. Nododd hefyd ei fod wedi derbyn neges gan gwmni lleol yn cynnig gwaith iddo petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

ch)  Yn cefnogi cais Mr A roedd gweithiwr cefnogol a gadarnhaodd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ers rhai blynyddoedd. Nododd bod yr ymgeisydd yn berson gonest yn chwilio am waith ers dros 5 mlynedd i gynnal ei deulu. Cadarnhawyd  bod yr ymgeisydd wedi derbyn cynnig am waith gan gwmni lleol petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

d)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’r gweithiwr cefnogol o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

dd)      Derbyniodd yr Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Atgoffwyd yr Is-bwyllgor, yn unol ag adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, na ellid rhoi trwydded oni bai eu bod yn fodlon  bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded

 

e)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried  y ffactorau canlynol :

 

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau llafar gan yr ymgeisydd a’r gweithiwr cefnogol

·         bod gan yr ymgeisydd gollfarnau blaenorol :

 

-       bod y drosedd, er bod yn un o drais, wedi digwydd mwy na 3 blynedd yn ôl, ac felly,  nid oedd yn teilyngu gwaharddiad awtomatig o dan baragraff 6.5 o Bolisi y Cyngor.

-       y gwaharddiad rhag gyrru am 6 mis. Wrth drafod paragraff 12.9 o'r Polisi, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gwaharddiad gyrru byr a ddaeth i ben dros flwyddyn yn ôl yn rheswm i beidio â rhoi'r drwydded i’r ymgeisydd.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.