Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel
canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais gan Mr A (copiau o’r adroddiadau
i’w dosbarthu ar wahân i aelodau’r
Is-bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd
yn bresennol. a)
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Nodwyd bod
y gwrandawiad yn ddilyniant i benderfyniad a wnaed 12.11.15 lle gohiriwyd y gwrandawiad hyd nes bod
unrhyw achos erlyn yn erbyn
yr ymgeisydd am gyhuddiadau wedi dod i ben. b)
Ategwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno, ac
oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu
wedi eu cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Ychwanegwyd nad oedd collfarnau
ychwanegol wedi eu nodi ers cyflwyno’r cais gwreiddiol a bod y wybodaeth yma wedi cael
ei gyflwyno yn wirfoddol. c) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Cydnabuwyd bod
y troseddau a ddatgelwyd yn gywir ond
bellach yn rai hanesyddol. d) Yn cefnogi
cais Mr A roedd Perchennog Cwmni Tacsi lleol ac
fe gadarnhaodd ei fod yn
adnabod yr ymgeisydd ers rhai blynyddoedd. Nododd bod yr ymgeisydd yn berson dibynadwy a gonest a bod swydd
ar gael i Mr A petai’r drwydded yn cael ei
chaniatáu. ch) Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog y Cwmni Tacsi o’r ystafell tra y bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. d) Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y ffactorau canlynol ynghyd â gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd.’ 1. Bod gan yr ymgeisydd gollfarnau
blaenorol, 2. Ystyriwyd bod gan yr ymgeisydd brofiad yn y maes. 3. Nad oedd
yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr
achos llys gan mai penderfyniad y Goron oedd peidio â dwyn achos
troseddol yn erbyn yr ymgeisydd.
Hefyd, anwybyddwyd honiad o yrru cerbyd
hacni heb drwydded gyrrwr hacni oherwydd penderfyniad y Cyngor i dynnu achos erlyn yn
ôl - cafwyd yr ymgeisydd yn
ddieuog gan y llys o ganlyniad. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat a
chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio
preifat. |