Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

COFNODION:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Sheryl Le Bon (Rheowr Trwyddedu)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

COFNODION:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

COFNODION:

            Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu

COFNODION:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

 

Ystyried cais gan Mr A

 

(copi ar wahân i aelodau’r is-bwyllgor yn unig)

 

COFNODION:

a)    Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.  Nodwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno, ac oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu wedi eu cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

b)    Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Cydnabuwyd bod y  troseddau  a ddatgelwyd yn gywir ond bellach yn rai  hanesyddol. Nododd fod ganddo drwydded yrru lan ers iddo lwyddo yn ei brawf gyrru yn 2001. Amlygodd ei fod yn deall bod ganddo ddyletswydd fel gyrrwr tacsi i ofalu am ei deithwyr a bod elfennau o gyfrinachedd i’w swydd. Roedd yn barod i dderbyn hyfforddiant.

 

Yn cefnogi cais Mr A roedd Perchennog Cwmni Tacsi lleol ac fe gadarnhaodd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ers rhai blynyddoedd. Nododd bod yr ymgeisydd yn berson cwrtais, dibynadwy a gonest a bod swydd ar gael i Mr A petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

c)    Cydnabuwyd dau lythyr o eirda oedd wedi eu derbyn

 

d)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog y Cwmni Tacsi o’r ystafell  tra y bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

ch)  Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried  y ffactorau canlynol ynghyd a gofynion  Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd.’

 

1.    Bod gan yr ymgeisydd gollfarnau blaenorol am droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru a thrais.

2.    Bod eglurhad yr ymgeisydd am yr amgylchiadau o gwmpas y collfarnau hynny yn dderbyniol

3.    Bod y collfarnau am droseddau hanesyddol (dros 10 mlynedd yn ôl) ac wedi digwydd tu allan i gofnod y canllawiau perthnasol.

4.    Nad oedd yr ymgeisydd wedi cronni unrhyw gollfarn am droseddau yn ymwneud â gyrru ers derbyn  trwydded yrru yn 2001.

5.    Bod ei ddarpar gyflogwr yn ymddiried ynddo fel darpar gyflogai yn ei gwmni  tacsis.

 

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.

 

Roedd yr Is Bwyllgor yn ddiolchgar i’r ymgeisydd am ei onestrwydd ac i’r cyflogwr am  ei gefnogaeth. Dymunwyd y gorau i’r ymgeisydd yn ei swydd newydd.