Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Tudor Owen. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

            Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT - MR A

Ystyried cais gan Mr A.

 

(copi ar wahân i aelodau’r is-bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

 

a)         Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

b)         Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.  Nodwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno, ac oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu wedi eu cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod gan yr ymgeisydd drwydded yrru lân ers 2011.

 

c)         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais. Cyflwynodd dau lythyr oedd yn rhoi geirda iddo. Cydnabuwyd bod y  troseddau  a ddatgelwyd yn gywir.  Ymhelaethodd ei fod yn chwilio am waith er mwyn cefnogi ei deulu a'i fod wedi cael cynnig swydd  gyda chwmni tacsi lleol.

 

ch)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

d)         Ar ôl ystyriaeth fanwl, penderfynodd yr Is-bwyllgor bod yr ymgeisydd yn berson priodol ac addas i dderbyn trwydded yrru cerbyd hacni / hurio preifat, a caniatawyd y cais. Teimlai’r Is-bwyllgor  bod y troseddau yn rai oedd wedi digwydd tu allan i gofnod y canllawiau perthnasol. Dymunwyd y gorau i’r ymgeisydd yn ei swydd newydd ac anogwyd ef i gadw at y rheolau a pharhau gydag agwedd gyfrifol

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.

 

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT - MR B

Ystyried cais gan Mr B.

 

(copi ar wahân i aelodau’r is-bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

 

a)         Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

b)         Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.  Nodwyd bod datganiad o gollfarnau wedi eu cyflwyno ynghyd a  gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru ac Uned Drwyddedu’r Cyngor. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd.

 

c)         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais. Cydnabuwyd bod y  wybodaeth a ddatgelwyd yn gywir a chadarnhaodd bellach nad oedd yr achos llys yn mynd yn ei flaen. Ymhelaethodd ei fod eisiau parhau fel gyrrwr tacsi ac mai'r rheswm na adnewyddwyd ei drwydded oedd oherwydd bod yr ohebiaeth yn mynd i gyfeiriad gwahanol. Nododd ei fod wedi cael cynnig swydd  gyda chwmni tacsi lleol a'i fod yn y cyfamser yn gwneud gwaith gwirfoddol.

 

ch)    Yn cefnogi cais Mr B roedd Perchennog y  Cwmni Tacsi ac fe gadarnhaodd bod yr ymgeisydd wedi bod yn gweithio iddo ers 6 mlynedd ac wedi cael ei ryddhau fel gyrrwr gan nad oedd wedi adnewyddu ei drwydded. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn berson dibynadwy iawn a bod swydd ar gael i Mr B petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

d)         Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog y Cwmni Tacsi o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

dd)      Ar ôl ystyriaeth fanwl, penderfynodd yr Is-bwyllgor ohirio eu penderfyniad o’r cais. O dan yr amgylchiadau, ac yn unol â pharagraff 14.1 o’r Polisi Trwyddedu ar gyfer Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, penderfynodd yr is-bwyllgor ohirio ystyriaeth o’r cais hyd nes bod unrhyw achos erlyn am gyhuddiadau uchod wedi dod i ben.

 

 

PENDERFYNWYD gohirio penderfyniad cais Mr B am drwydded hacni/hurio preifat.

 

7.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT - MR C

Ystyried cais gan Mr C.

 

(copi ar wahân i aelodau’r is-bwyllgor yn unig)

Cofnod:

a)         Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

b)         Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.  Nodwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno yn cynnwys sawl trosedd berthnasol yn y maes trwyddedu ynghyd a gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor Môn. Amlygwyd mai argymhelliad yr Uned Trwyddedu oedd nad oedd Mr C yn berson addas i’w ystyried fel gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd.

 

c)         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais. Cydnabuwyd bod y  wybodaeth a ddatgelwyd yn gywir. Ymhelaethodd ar ei gais gan nodi ei fod eisiau gweithio fel gyrrwr tacsi yng Ngwynedd gan nad oedd un diwrnod o waith gyda Mon yn ddigonol.

 

ch)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

d)         Ar ôl ystyriaeth fanwl, penderfynodd yr Is-bwyllgor nad oedd yr ymgeisydd yn cwrdd â’r anghenion fel person addas i’w drwyddedu fel gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat yng Ngwynedd gan fod rhai o’r collfarnau yn parhau o fewn cyfnod y canllawiau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais Mr C am drwydded hacni/hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr a hysbysebwyd yr ymgeisydd o’i hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.