Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 02486 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Croesawyd
pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones
Williams. Cyflwynwyd y panel ar
swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Nid oedd unrhyw ymddiheuriad
wedi ei gyflwyno |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4,
Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. Gyda chaniatâd yr ymgeisydd rhoddwyd hawl i’r Cynghorydd Angela Russell (aelod wrth gefn i’r Is Bwyllgor Trwyddedu) arsylwi’r cyfarfod er mwyn ymgyfarwyddo gyda threfn y gwrandawiad |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais gan Mr A (copi ar wahân
i aelodau’r Is-bwyllgor yn unig) COFNODION: a) Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Nodwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei
gyflwyno, ac oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu wedi eu
cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn
berson cwrtais, wedi cadw at ei apwyntiadau ac wedi bod yn barod i rannu
gwybodaeth bersonol a chydweithio gyda’r adran. Nodwyd hefyd bod ganddo
drwydded yrru lân ers 2011. b) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar
ei gais. Cydnabuwyd bod y troseddau a ddatgelwyd yn gywir. Ymhelaethodd ei fod yn chwilio am waith llai
llafurus gan ei fod yn mynd yn hŷn a nododd ei fod wedi cael cynnig
swydd gyda chwmni tacsi lleol. Yn cefnogi cais Mr A roedd
Perchennog y Cwmni Tacsi ac fe
gadarnhaodd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ers rhai blynyddoedd a bod swydd ar
gael i Mr A petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu. c) Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog
y Cwmni Tacsi o’r ystafell tra y bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. ch) Ar ôl
ystyriaeth fanwl, penderfynodd yr Is-bwyllgor bod yr ymgeisydd yn berson
priodol i gael trwydded yrru cerbyd hacni / hurio
preifat, a caniatawyd y cais. Teimlai’r Is-bwyllgor bod y troseddau yn rai hanesyddol ac wedi
digwydd tu allan i gofnod y canllawiau perthnasol. Roedd yr Is Bwyllgor yn
ddiolchgar i’r ymgeisydd am ei barodrwydd i gydweithio gyda’r adran ac i
berchennog y cwmni tacsi am ei
gefnogaeth. Dymunwyd y gorau i’r ymgeisydd yn ei swydd newydd. PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat. |