Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd
yn bresennol. Llongyfarchwyd Mr Heilyn Williams ar ei benodiad fel Maer
Dolgellau. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Sheryl Le Bon, Rheolwr Trwyddedu |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i
breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais Mr A (copi ar wahân
i aelodau’r Is-bwyllgor yn unig) COFNODION: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr Ac am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Eglurwyd bod
datganiad o gollfarnau yn cyfeirio at drosedd perthnasol ac felly gofynnwyd
i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DAS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Cydnabuwyd bod y drosedd a ddatgelwyd wedi digwydd o fewn y tair blynedd diwethaf
ac nad oedd
unrhyw dystiolaeth o broblemau ers hynny. Tystiwyd bod yr
ymgeisydd wedi gwneud dros 80 awr o wasanaeth cyhoeddus am ei
drosedd. Ymhelaethwyd bod yr ymgeisydd wedi
cael cynnig gwaith i drosglwyddo plant yn ystod tymor
yr ysgol. Derbyniwyd cefnogaeth i’r cais ar
lafar gan ei Aelod Lleol ac
fe gydnabuwyd dau lythyr yn mynegi
geirda i’r ymgeisydd gan Gynghorydd lleol arall a rhiant
lleol. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gefnogwr
o’r ystafell tra y bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. Ar ôl
ystyriaeth fanwl, penderfynodd yr Is-bwyllgor bod yr
ymgeisydd yn berson addas i gael trwydded yrru,
a chaniatawyd y cais. Teimlai’r Is-bwyllgor i’r ymgeisydd gydnabod
difrifoldeb y drosedd a'i fod yn edifarhau PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat. Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r Uned
Trwyddedu yn anfon llythyr i’r ymgeisydd yn cadarnhau penderfyniad yr
Is-bwyllgor. Dechreuodd y cyfarfod am 10:30am a daeth i ben 11:30am |