Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: PENDERFYNIAD Caniatáu’r
cais: Oriau Agor : Dydd Sul 07:00 - 23:00 Dydd Llun
07:00 - 23:00 Dydd Mawrth
07:00 - 23:00 Dydd Mercher
07:00 - 23:00 Dydd Iau 07:00 - 23:00 Dydd Gwener
07:00 - 23:00 Dydd Sadwrn
07:00 - 23:00 Gweithgareddau Trwyddedadwy: Cyflenwi Alcohol Ar ac oddi ar yr Eiddo Dydd Sul 07:00 - 23:00 Dydd Llun 07:00 - 23:00 Dydd Mawrth
07:00 - 23:00 Dydd Mercher
07:00 - 23:00 Dydd Iau 07:00 - 23:00 Dydd Gwener
07:00 - 23:00 Dydd Sadwrn
07:00 - 23:00 Cynnwys y mesurau ychwanegol a
gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Huw Rowlands (problemau technegol ac wedi methu
ymuno a’r cyfarfod) a Mr Dilwyn Jones (Preswylydd Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 155 KB B&M, Stryd Madog, Porthmadog, LL49 9BU I ystyried
y cais Penderfyniad: DECISION Opening Hours: Sunday 07:00 - 23:00 Monday 07:00 - 23:00 Tuesday 07:00 - 23:00 Wednesday 07:00 - 23:00 Thursday 07:00 - 23:00 Friday 07:00 - 23:00 Saturday 07:00 - 23:00 Licensable Activities: Supply of Alcohol: Both on and off the Premises Sunday 07:00 - 23:00 Monday 07:00 - 23:00 Tuesday 07:00 - 23:00 Wednesday 07:00 - 23:00 Thursday 07:00 - 23:00 Friday 07:00 - 23:00 Saturday 07:00 - 23:00 To include the measures that were proposed by the applicant in the
application as conditions on the licence. Cofnod: B&M,
Stryd Madog, Porthmadog, LL49 9BU Eraill a wahoddwyd: ·
Richard
Williams (Cynrychiolydd yr ymgeisydd) ·
Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys (Aelod Lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer B&M, Stryd Madog,
Porthmadog gan B&M Retail. Nodwyd
bod B&M Retail bellach yn
gweithredu cadwyn o dros 500 o siopau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban ac yn siop sy’n cynnig
ystod eang o nwyddau cartref, cymysgedd o fwyd a chaledwedd, sydd o ansawdd ond am brisiau fforddiadwy. Gwnaed y cais i
ofyn am hawli werthu alcohol i gwsmeriaid er mwyn ei yfed oddi
ar yr eiddo. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu tystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan
Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth
Tân na Gwasanaeth Gwarchod
y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais, ond
derbyniwyd sylwadau gan breswylydd lleol a’r Aelod Lleol yn ategu
pryderon y preswylydd lleol. Sail eu pryderon oedd y gallai’r oriau a
ofynnwyd amdanynt (o 7:00 hyd at 23:00 yn ddyddiol) danseilio’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus
a hynny yn dilyn cyfres o gwynion sŵn hanesyddol oedd yn gysylltiedig â’r safle. O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell fod
y Pwyllgor yn ystyried sylwadau’r ymatebwyr, ac ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon,
ac yn caniatáu’r cais. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd: ·
Bod y siop B&M ym Mhorthmadog bellach wedi agor ·
Er siom bod Wilko wedi
cau, newyddion da yw bod B&M wedi cymryd yr uned ·
Derbyn y sylw bod yr oriau agor yn wahanol i oriau
agor Wilko ·
Nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu
niwsans cyhoeddus ·
Bod siopau B&M yn bodoli ar hyd a lled y wlad a
bod y cais yma am drwydded yn un cyson â siopau B&M eraill ·
Nad oedd bwriad i fasnachu hyd 23:00 bob dydd - bod
hwn ar gyfer hyblygrwydd i agor yn hwyrach ym mis Rhagfyr. Oriau tebygol fydd
Dydd Lun i Ddydd Sadwrn 7:00 - 21:00 a Dydd Sul 10:00 - 16:00 ·
Nad oedd ganddo ymateb i'r pryderon sŵn · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |