Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Ian Williams
(Heddlu Gogledd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 101 KB 2, MITRE
PLACE, PWLLHELI, LL53 5HE I ystyried
y cais uchod Cofnod: Ar ran yr eiddo: Mr
Fatih Yilmaz a Mrs Mary Yilmaz a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer 2, Mitre Place, Pwllheli. Gwaned y cais mewn perthynas
â darparu bwyd poeth fel lluniaeth
hwyr yn nos
i’w fwyta ar ac oddi ar
yr eiddo. Amlygwyd bod perchnogion yr eiddo wedi
dal trwydded eiddo gyda Chyngor Gwynedd ers 2005. Nodwyd bod trwydded eiddo gwerthu bwyd poeth
gan yr eiddo
yn y gorffennol ac nad yw’r
oriau a nodwyd ar y cais yn
wahanol i’r hyn a oedd wedi
ei nodi ar
y drwydded honno. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 2 lythyr wedi ei
derbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon y byddai’r gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn tanseilio dau
o’r amcanion trwyddedu - atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anrhefn. Amlygwyd bod e-bost hwyr wedi
ei dderbyn gan y Gwasanaeth Tân, ond nid
oeddynt yn gwrthwynebu’r cais. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno
eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeiswyr ei bod yn hapus
gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno. Amlygwyd bod deilydd y drwydded flaenorol wedi ildio’r drwydded yn ystod y cyfnod
roedd yr ymgeiswyr yn prynu’r
eiddo Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Ei bod yn byw yn lleol ac yn
manteisio ar y cyfle i brynu eiddo ei hunain ·
Mai ail leoli'r busnes oeddynt o stryd gyfagos ·
Bod ganddynt brofiad o redeg
busnes ·
Cadarnhawyd y byddai Teledu
Cylch Cyfyng ar gael Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag ychwanegu drws cefn i’r eiddo
nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal
gyda chymdogion a bod cynlluniau ar y gweill i ymestyn
y to, cael drws ar gefn yr
adeilad ac i ail ddylunio y tu mewn.
Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal
gyda Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn ag ail gofrestru’r adeilad gan ei
fod wedi cau ers dwy
flynedd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon sbwriel a threfniadau casglu gwastraff, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r dafarn gerllaw i geisio safle storio biniau. Nodwyd mai trafodaethau ar lafar oedd wedi eu cynnal ond bod disgwyl cadarnhad ffurfiol o’r drafodaeth ar e-bost. O ran cadw dalgylch y siop yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |