skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 94 KB

Star Kebabs, Stryd Fawr, Bangor

 

I ystyried y cais

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:                     Mr Mehmet Kabadayi a’i fab Emre Kabadayi

 

Eraill a wahoddwyd:             Mr Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru)

                                                PS2430 Dana Baxter

                                               

 

a)                    Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am newid amodau i drwydded mewn perthynas â goruchwylwyr drysau a gytunwyd gan y Pwyllgor hwn yn dilyn adolygiad o’r drwydded yn 2012 gan Heddlu Gogledd Cymru. Eglurwyd bod yr eiddo wedi ei drwyddedu ar gyfer gwerthu lluniaeth hwyr y nos, 7 diwrnod yr wythnos ac ar hyn o bryd yn amodol bod goruchwylwyr drysau, sydd yn gofrestredig gyda’r Awdurdod Diwydiant Diogelwch yn bresennol ar yr eiddo o 23:00 nos Iau, Gwener a Sadwrn hyd at amser cau’r eiddo: yn ogystal ar nos Sul cyn dydd Llun Gŵyl y Banc.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd, wedi cyfnod ymgynghori  ar y cais, derbyniwyd ymateb gan Heddlu Gogledd Cymru. Nid oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r bwriad i gyflogi goruchwylwyr drysau o hanner nos ymlaen ar benwythnosau a nos Sul Gŵyl y Banc. Er hynny, nid oedd yr Heddlu yn cefnogi bwriad yr eiddo i agor hanner awr yn ychwanegol ar nos Iau.

 

Amlygwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi manylu ar yr angen i gael hanner awr ychwanegol ar nos Iau yn ei ffurflen gais.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, cadarnhaodd yr ymgeisydd bod y cais am estyniad oriau lluniaeth     hwyr yn nos ar ddydd Iau yn gamgymeriad. Er iddo geisio am addasu oriau agor ar nos            Fercher i 3:30am amlygodd y Cadeirydd nad oedd hyn i’w drafod ac os byddai angen gwneud         addasiad i oriau’r drwydded yna cynghorwyd yr ymgeisydd byddai rhaid gwneud cais o’r            newydd.

 

            Yng nghyd-destun goruchwylwyr drysau eglurodd    nad oedd angen goruchwylwyr drysau ar      nos Iau gan fod yr eiddo yn cau am hanner nos.

 

c)         Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cadarnhaodd  Swyddog o’r Heddlu nad oedd yn gwrthwynebu             lleihau oriau goruchwylwyr drysau ar y nos Iau. Amlygodd bod problemau wedi bod yn y gorffennol lle cyflwynwyd tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau            adolygiad o’r drwydded eiddo             gydag amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng, a goruchwylwyr drysau.     Wrth gyflwyno eu cais am adolygiad, roedd gan yr Heddlu dystiolaeth o 18 o achosion o         drosedd ac anrhefn yn gysylltiedig â’r eiddo yn hwyr y nos. Nodwyd bod yr Heddlu,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.