Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan
Moira Duell Parry (Swyddog Iechyd Amgylchedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 450 KB Parafest, Canolfan Awyrofod Eryri, Llain Awyr Llanbedr I ystyried y cais uchod Cofnod: Parafest, Canolfan Awyrofod Eryri, Llain Awyr
Llanbedr Cyflwynwyd y panel
a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10
munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr eiddo: Mr
Mark Meadows (ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Cynghorydd
Annwen Hughes (Aelod Lleol) Cynghorydd
Eryl Jones Williams (Aelod ymylol) Mr
Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru) a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer cynnal Gŵyl ‘Parafest’ fyddai yn cael ei lleoli ar dir
Canolfan Awyrofod Eryri ar y Llain Awyr yn Llanbedr. Bwriad yr ymgeisydd oedd
cynnal gŵyl flynyddol paragleidio ynghyd a digwyddiad cymdeithasol o
weithgareddau yn ymwneud a pharagleidio i beilotiaid a’u teuluoedd. Amlygwyd
bod y bwriad yn cynnig gwerthiant alcohol a lluniaeth hwyr y nos fel rhan o’r
arlwy ynghyd â cherddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau
arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf
Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 9 e-bost wedi ei dderbyn gyda 4 ohonynt yn gwrthwynebu’r cais
ar sail y 4 amcan trwyddedu. Tynnwyd sylw at yr amodau sŵn a gyflwynwyd
gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Cyfeiriwyd hefyd at gais blaenorol a
gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ym mis Ionawr 2018 oedd heb ei gyflwyno yn unol â'r
gofynion cyfreithiol. Amlygwyd bod yr
ymgeisydd wedi ymateb i bryderon a godwyd yn ystod y broses ymgynghorol ar y
cais gwreiddiol a bellach wedi cytuno i gynnal gweithgareddau trwyddedig hyd at
1:00 (nos Wener a nos Sadwrn) yn hytrach na 03:00 fel ag y gofynnwyd amdano.
Ategwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno sylwadau i’r Gwasanaeth Tân i
geisio diwallu eu pryderon. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai c) Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a gofynnodd am yr hawl i ddosbarthu lluniau a manylion pellach am yr Ŵyl. Gwnaed penderfyniad i dderbyn llun o leoliad gŵyl 2017, ond gwrthodwyd manylion o sylwadau unigolion gan nad oedd hawl wedi ei dderbyn i’w rhannu. Teimlai yn anfodlon nad oedd yn cael y cyfle i herio ymateb gan un o’r gwrthwynebwyr, oedd eisoes wedi cynnwys sylwadau gan unigolion eraill. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y sylwadau hynny wedi derbyn caniatâd i’w rhannu ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 265 KB CLUB DB Ltd, 318 Stryd Fawr, Bangor I ystyried y cais uchod Cofnod: Club DB, 318, Stryd
Fawr, Bangor Cyflwynwyd y panel
a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Ar ran yr eiddo: Mr
Peter Hennessey - ymgeisydd Eraill a wahoddwyd: Mr
Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru) a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo
ar gyfer Club
DB, 318 Stryd Fawr, Bangor. Bwriad yr ymgeisydd yw ychwanegu'r gweithgareddau trwyddedig o ddangos ffilmiau, dramâu neu gynnal perfformiadau dawns ar yr eiddo. Gofynnwyd am, ·
ymestyn oriau agor yr eiddo
i 02:30 ar nos Wener a nos
Sadwrn; ·
cynnal cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio
am awr yn ychwanegol, hyd at 02:30 ar nos Wener
a nos Sadwrn, a hanner awr yn
ychwanegol, hyd at 02:00 weddill yr wythnos;
·
ymestyn oriau gwerthu alcohol o dri chwarter awr
i 02:15 ar nos Wener
a nos Sadwrn. ·
hanner awr ychwanegol ar Suliau
Gŵyl y Banc, a hyd
05:30 ar nos Calan. Tynnwyd sylw at
fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 1 llythyr
yn gwrthwynebu ac un e bost gan
Heddlu Gogledd Cymru yn argymell amodau i’w cynnwys ar
y drwydded. Gwnaethpwyd y sylwadau mewn perthynas â 2 o’r amcanion trwyddedu - Atal trosedd ac anrhefn ac Atal niwsans cyhoeddus. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai c)
Wrth ymhelaethu ar y
cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol: ·
Ei fod wedi bod yn
cydweithio gyda’r Heddlu i sicrhau bod y busnes yn rhedeg yn esmwyth ·
Ei fod yn barod i gydweithio gyda’r gymuned leol ·
Ei fod yn cyflogi pobl leol ·
Bod yr eiddo yn gyn-adeilad masnachol ·
Bod angen am yr oriau ychwanegol oherwydd yr oriau
hyn sydd yn gwneud y busnes yn hyfyw. Mewn
ymateb i’r gwrthwynebiad bod y ‘busnes mewn ardal breswyl’ amlygodd yr ymgeisydd bod y busnes ar stryd fasnachol gyda phreswylwyr i’r cefn o’r eiddo.
Ategodd bod rhaniadau gwrthsain
wedi eu gosod at flaen yr adeilad. ch) Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd Swyddog o Heddlu Gogledd Cymru bod problemau hanesyddol wedi bod gyda’r eiddo yn y gorffennol ond bod y sefyllfa wedi gwella ers i’r perchennog newydd gymryd drosodd. Amlygodd bod cais i amod goruchwylwyr drysau gael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |