skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 94 KB

Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen, Caernarfon, LL55 2PF

 

I ystyried y cais

Cofnod:

1.         Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen,   Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Stephen Greig (Rheolwr Gorsaf Caernarfon)

 

Eraill a wahoddwyd:             Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gorsaf Rheilffordd Caernarfon, Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru, Ffordd Santes Helen, Caernarfon.  Gwnaed y cais mewn perthynas ag adeilad aml-ddefnydd sydd yn cynnwys siop, swyddfa docynnau ar gyfer y rheilffordd a chaffi. Y bwriad yw gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo, dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, perfformiadau dawns ac adloniant tebyg.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu cynnwys amod i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo ynghyd ag ychwanegu cymalgyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu a’r Awdurdod Lleolyn adrannau A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir at ‘amseroedd ansafonol’.

Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng

·         Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig (ee teithiau trenau Y Nadolig, swper gwirfoddolwyr) fyddai amseroedd ansafonol

·         Ei fod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu

 

c)         Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd ag ychwanegu cymalgyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu a’r Awdurdod Lleolyn adrannau A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir at ‘amseroedd ansafonol’. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau hyn ar y drwydded

d)         Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

dd)       Wrth gyrraedd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 91 KB

Sustainable Weigh, 13 Y Maes, Caernarfon, LL55 2NF

 

I ystyried y cais

 

Cofnod:

Sustainable Weigh, 13  Y Maes, Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo:                                 Mr Daniel John Hunt (ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:                         Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

           

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Sustainable Weigh, 13 Y Maes, Caernarfon.  Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo. Ni fydd alcohol yn cael ei yfed ar yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo a chyflwyno Cynllun Her 25 ynghyd a sylw  gan y Gwasanaeth Tân yn nodi nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais ar y sail y bod y perchennog yn sicrhau golau argyfwng allanfa yn gweithio, bod y system larwm tân yn weithredol ac wedi ei wasanaethau, a bod y diffoddyddion tân wedi ei gwasanaethu ac yn gyfredol.

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng

·         Bod 3 camera wedi ei gosod ar y safle

·         Cadarnhaodd nad oedd alcohol i’w yfed ar y safle

 

c)            Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

 

dd)       Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.      Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl            ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                      i.        Atal trosedd ac anhrefn

                     ii.        Atal niwsans cyhoeddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 106 KB

The Sandbar Restaurant, The Warren, Lôn Port Morgan, Abersoch LL53 7AA

 

I ystyried y cais

Cofnod:

1.            The Sandbar Restaurant, The Warren, Abersoch

 

Roedd y Cynghorwyr Elfed Williams a Jason W Parry wedi ymweld â’r safle o dan drefniant a goruchwyliaeth Heilyn Williams, Swyddog Trwyddedu 04.11.19

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                                 Julian King, Haulfryn Group Ltd

                                                            Bobby McGee, Haulfryn Group Ltd

                                                            David John, Haulfryn Group Ltd

                                                            Matt Pressman, Haulfryn Group Ltd

Simon Conway, Haulfryn Group Ltd

 

Eraill a wahoddwyd:                         Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

                                                            Ymgynghorai lleol – Mr Nigel Jackson

 

 

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gwerthu alcohol  oddi ar yr eiddo, cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi ei recordio tu mewn a thu allan a darpariaeth lluniaeth hwyr y nos, saith diwrnod yr wythnos.  

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo. Derbyniwyd 7 e-bost gan drigolion unedau preswyl gwyliau’r safle yn gwrthwynebu’r cais ar sail y pedwar amcan trwyddedu - atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus, sicrhau diogelwch cyhoeddus a gwarchod plant rhag niwed.

Adroddwyd nad oedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi eu hargyhoeddi bod y cais yn cynnig digon o fanylion o ran y mesurau a fwriedi’r eu gweithredu i dawelu pryderon yr ymatebwyr o sicrhau nad yw’r amcanion trwyddedu yn cael eu tanseilio.

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Dosbarthwyd lluniau o’r parc i’r Is-bwyllgor ar ymgynghorai i gynorthwyo gyda’r elfennau dan sylw.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr ymweliad safle wedi bod yn fuddiol

·         Nad oedd Cyngor Cymuned Abersoch yn gwrthwynebu’r cais

·         Eu bod yn derbyn amodau’r Heddlu o osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo

·         Bod amodau a rheolau bwyty yn wahanol i reolau a safonau’r parc

·         Bod mynediad i’r safle yn cael ei reoli 24 awr gan ddau swyddog diogelwch sydd yn gymwysedig gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch.

·         Bod man droseddau ac anrhefn yn cael eu hymdrin â hwy yn briodol

·         Bod y maes parcio yn ddigonol

·         Bod mwy o oleuadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.