Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd – Cyngor Gwynedd)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 260 KB

The Firecat Country House’, Camlan Uchaf, Mallwyd, SY20 9EP

 

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – THE FIRECAT COUNTRY HOUSE B&B, CAMLAN UCHAF, MALLWYD

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Annwen Daniels ar ei phenodiad fel Is Gadeirydd y Cyngor.

 

Atgoffwyd pawb bod y gwrandawiad a gynhaliwyd 21.7.2016 wedi ei ohirio er mwyn i’r Is Bwyllgor Trwyddedu gynnal ymweliad safle yn dilyn gwrthwynebiadau i’r cais ar sail diogelwch y cyhoedd. Cadarnhawyd bod Aelodau'r Is Bwyllgor wedi ymweld â’r safle 28 Gorffennaf 2016 gyda’r Swyddog Trwyddedu.

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Robin Worgan (ymgeisydd) ac Amber Worgan

 

Aelod Lleol:               Cynghorydd John Pughe Roberts

 

 

a)    Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer

The Firecat Country House Bed and Breakfast, Mallwyd mewn perthynas â chyflenwi alcohol, cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw perfformiadau dawns, dangos ffilmiau a dramâu, unrhyw adloniant arall a chyflenwi lluniaeth hwyr y nos. Gofynnwyd am hawl i gyflenwi alcohol a chynnal adloniant tu fewn a thu allan i’r eiddo hyd 1:00 y bore, saith diwrnod yr wythnos. Eglurwyd bod yr eiddo yn cael ei redeg fel gwesty gwely a brecwast bychan, gyda thair llofft yn cael eu gosod i westeion.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig, ond nodwyd ers cyflwyno y cais bod yr amgylchiadau wedi newid a bod y cais wedi ei ddiwygio. Amlygwyd bod e-bost wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn cadarnhau’r diwygiadau hyn.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu (fel rhan o’r cais gwreiddiol) ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod yr Aelod Lleol, y Cyngor Cymuned a phreswylwyr cyfagos yn gwrthwynebu gweithgareddau trwyddedig ar gyfer rhai nad ydynt yn breswylwyr. Roedd y gwrthwynebiadau yn gyffredinol yn cael eu gwneud ar sail yr amcanion trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd.

 

Nodwyd nad oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r cais, ac yn dilyn ymweliad i’r safle, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i weithredu Polisi Her 25. Nid oedd y Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu’r cais, ond rhoddwyd argymhelliad o ran niferoedd y dylid eu caniatáu o fewn ystafelloedd cyhoeddus yr adeilad.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau ac argymhellion Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a oedd wedi cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i geisio mwy o fanylion am gynnwys y cais. Gohebwyd ynglŷn ag amlder digwyddiadau ac adroddwyd nad oedd digon o fanylion i benderfynu os oedd y  rhagofalon cywir yn debygol o gael eu gweithredu i sicrhau na fyddai'r amcan trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus yn cael ei danseilio. Amlygwyd mai gwrthod y cais gwreiddiol fyddai awgrym y Swyddog, ond yn dilyn trafodaethau pellach a diwygiadau i’r cais gwreiddiol, cadarnhawyd nad oedd gan y Swyddog unrhyw wrthwynebiad i werthiant alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos.

 

Cyfeiriwyd at ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Parc Cenedlaethol (nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad) lle amlygwyd gan fod dros 50% o’r ystafelloedd gwely o fewn yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.