Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 260 KB ‘The Firecat Country House’, Camlan Uchaf, Mallwyd, SY20 9EP Ystyried
y cais uchod Cofnod: 1.
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – THE FIRECAT COUNTRY HOUSE B&B,
CAMLAN UCHAF, MALLWYD Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Ar ran yr eiddo: Mr Robin Worgan (ymgeisydd) ac Amber
Worgan Aelod Lleol: Cynghorydd
John Pughe Roberts Eraill
a fynychwyd: Arfon Hughes (Cyngor Cymuned Mawddwy), Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd
– Cyngor Gwynedd) a)
Nododd y Cadeirydd bod yr Is Bwyllgor,
yn dymuno gohirio'r cyfarfod er mwyn trefnu ymweliad safle i aelodau’r Is
Bwyllgor ystyried yn llawn y pryderon a fynegwyd gan wrthwynebwyr i’r cais ar
sail mynediad i’r safle. b)
Amlygodd y Cyfreithiwr bod Diogelwch y
Cyhoedd yn un o egwyddorion Deddf
Trwyddedu 2003. Nododd mai synhwyrol fuasai cynnal ymweliad safle gan mai un o
brif gyfrifoldebau yr Is Bwyllgor yw ystyried diogelwch y cyhoedd PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle ac ail drefnu
gwrandawiad Dechreuodd
y cyfarfod am 1:15am a daeth i ben am 1:30pm |