Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS . Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 42 KB THE OLD
MARKET HALL, STRYD Y PLAS, CAERNARFON Ystyried
y cais Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: 1.
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – THE OLD MARKET HALL, STRYD Y PLAS,
CAERNARFON Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd
bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr
eiddo: Mr David Williams (ymgeisydd) a Mr
Edward Grant (Capita PLC - asiant yr ymgeisydd) Eraill
a fynychwyd: Corrina Favento, Mandy Mathews a Cliff Roberts
(preswylwyr cyfagos); Moira Duell-Parri (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd) Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu. a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad i drwydded eiddo ar gyfer The Old
Market Hall, Stryd y Plas, Caernarfon. Amlygwyd bod y ffurflen gais yn nodi bod
natur y sefydliad wedi newid ers i’r busnes ddechrau yng Ngorffennaf 2014 a bod yr eiddo wedi cynnal sawl
digwyddiad amrywiol o dan drefn Hysbyseb Digwyddiad Dros Dro. Natur yr amrywiad arfaethedig yw ymestyn y
gweithgareddau trwyddedig i gynnwys yr holl fathau o adloniant wedi ei
rheoleiddio, ymestyn gwerthu alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Cyfeiriwyd
at y tabl a oedd yn manylu'r amrywiad. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys
camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan
trwyddedu fel rhan o’r cais. Yn
dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub unrhyw
sylwadau ar y cais. Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd
yn gwrthwynebu y cais, ond roeddynt yn cynnig amodau penodol i’w hychwanegu ar
y drwydded. Adroddwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn cadarnhad gan yr
ymgeisydd ei fod yn derbyn yr amodau hyn ac yn dymuno eu gosod ar y drwydded.
Derbyniwyd tri gwrthwynebiad i’r cais gan breswylwyr lleol yn seiliedig ar yr
amcanion trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus. Awgrymwyd un gwrthwynebydd nad
oedd hysbyseb y cais wedi ei arddangos mewn lle amlwg, ond bod yr Awdurdod
Trwyddedu yn fodlon bod yr hysbysebu yn cwrdd â’r rheoliadau perthnasol.
Derbyniwyd hefyd un llythyr o gefnogaeth gan Cyngor Tref Caernarfon. Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor sefydliadau cyfagos, nododd y
Rheolwr Trwyddedu bod oriau trwyddedu sefydliadau cyfagos yn amrywio gydag
amrediad o werthu alcohol hyd at 1am; chwarae cerddoriaeth hyd at 1am ac oriau
cau hyd at 2am. b) Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. · Gwahoddwyd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais · Rhoddwyd
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau · Gwahoddwyd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau · Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. · Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai. c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol: ·
Bod yr eiddo yn cael ei reoli yn gyfrifol ·
Y bwriad yw isafu unrhyw bryderon gan breswylwyr
lleol a’u bod yn derbyn sylwadau a phryderon y gwrthwynebwyr ·
Bod y busnes yn cynnig lletygarwch ac adloniant · Bod yr eiddo yn cau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |