Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 186 KB 342, STRYD
FAWR, BANGOR, GWYNEDD LL57 1YA Ystyried
y cais uchod Cofnod: 3. CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – THE
LOUNGE, 342 STRYD FAWR, BANGOR Ar ran yr
eiddo: Mrs
Susan Roberts (ymgeisydd), Mr Chris O’Neil (asiant) Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd
y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at
10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais. Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu. a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The Lounge,
342, Stryd Fawr, Bangor gan ymhelaethu bod y cais ar gyfer lolfa a bar gyda man
dawnsio. Nodwyd
bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu fel rhan o’r cais. Amlygwyd
bod trwydded eiddo wedi bodoli ar gyfer yr eiddo ers 2005 a daeth i ben yn Awst
2014. Yn dilyn cyfnod ymgynghori,
nodwyd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno
bydd teledu cylch cyfyng (TCC) sydd yn
cael ei osod yn yr eiddo yn destun amodau penodol TCC. Nodwyd nad oedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
yn gwrthwynebu’r cais, ond yn argymhell lleihad yn
oriau cerddoriaeth wedi ei recordio a byw ynghyd a chynnwys amodau safonol
caeedig ar y drwydded i reoli lefelau sŵn ac atal niwsans cyhoeddus.
Derbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais gan berchennog fflatiau ffiniol oherwydd
problemau sŵn a chryniad cerddoriaeth a sŵn lleisiau yn codi o’r man
ysmygu tu allan. Nodwyd nad oedd gan Cyngor Dinas Bangor unrhyw wrthwynebiad
i’r cais ac nad oedd y Gwasanaeth Tan wedi cynnig sylwadau. b) Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai. c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd
oriau y cais yn cymharu gydag oriau'r drwydded flaenorol, nodwyd mai ychydig
iawn o newid oedd rhwng y ddau. Mewn ymateb i oriau agor sefydliadau cyfagos
tebyg, nodwyd bod oriau cau ar benwythnos yn 3:00 y bore. ch) Wrth
ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r
hyn oedd wedi ei gyflwyno a cadarnhaodd
bod yr ymgeisydd wedi cytuno i amodau TCC Heddlu Gogledd
Cymru. Sylwadau ychwanegol o
fwriad yr ymgeisydd; ·
Economi nos Dinas Bangor wedi newid ac felly rhaid ymateb
i’r galw, cystadlu gydag eraill i gynnal bywoliaeth. ·
Bydd yr eiddo yn ymuno gyda National Pub Watch ·
Sicrhau y bydd y pedwar amcan trwyddedu yn cael
blaenoriaeth ·
Ni fydd mynediad ar ôl 1am - argymhelliad
gwirfoddol ·
Argymhellion yr heddlu wedi eu gweithredu ·
Bod camerâu TCC yn gwylio pob ardal o fewn yr eiddo · Parod i gydweithio gyda’r heddlu i ddarparu gwybodaeth wedi ei recordio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |