Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol cadeirydd i’r pwyllgor hwn ar gyfer 2018-19. Cofnod: Etholwyd y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd ar gyfer 2018-19. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn ar gyfer 2018-19. Cofnod: Etholwyd y
Cynghorydd Dewi Owen yn Is-gadeirydd ar gyfer 2018-19. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatgniadau o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS I ystyried unrhyw faterion sydd yn faterion brys ym marn y cadeirydd. Cofnod: Nid oedd y
Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I gadarnhau cofnodion y cyfarod blaenorol a gynhaliwyd ar y 9fed o Fawrth 2018. Cofnod: Cyflwynwyd:
Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd
ar 9 Mawrth 2018. Penderfynwyd:
Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley, Network Rail. Cofnod: Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r
cyfarfod ac fe adroddodd ar y materion isod:
-
Fod y tywydd garw yn ystod Hydref 2018 wedi creu
amgylchiadau heriol iawn. -
Fod effaith newid hinsawdd yn cael ei weld yn
llwyth gwaith Network Rail
a bod adolygiad wedi ei gomisiynu i edrych ar yr effaith i’r dyfodol. -
Nad oedd perfformiad y
rheilffyrdd wedi bod cystal â’r gobaith, ond nododd nad oedd Rheilffordd
Arfordir y Cambrian wedi ei effeithio mor ddrwg â
llwybrau eraill. -
Fod cydweithio agos rhwng Network
Rail a Trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau fod llais cryf
gan Gymru. -
Fod setliad uwch wedi ei dderbyn ar gyfer y cylch
ariannu nesaf -
Fod Prif Weithredwr newydd wedi ei benodi yn Awst
2018, oedd wedi datgan bwriad i adolygu strwythurau’r corff. Nododd fod bwriad
i weithredu yn fwy lleol i’r dyfodol, gan wella’r ffocws ar ei gwsmeriaid. Mewn ymateb i sylw am Adolygiad Williams i
mewn i reilffyrdd Prydain nododd y byddai’n gwneud ymholiadau ynglŷn â
chynnal cyfarfodydd) gyda budd-ddeiliaid Rheilffordd Arfodir
y Cambrian er mwyn rhoi mewnbwn i’r Adolygiad. Croesawyd Mr Chris Wood, Rheolwr Prosiect
(Prosiectau Isadeiledd) Network Rail
i’r cyfarfod, a derbyniwyd cyflwyniad ar waith gosod Netin
Creigiau diweddar a wnaethpwyd ar 6 safle yn ardal Aberdyfi. Roedd y gwaith yn
angenrheidiol er mwyn uwchraddio’r hafnau creigiog a’r tir ar ymyl y lein i
gydymffurfio gyda safonau modern, a’i ddiogelu ble nad oedd hynny’n bosib.
Nododd fod y gwaith wedi bod yn heriol oherwydd yr amgylchedd, a’r safleoedd
ble ’roedd y gwaith wedi ei wneud. Aseswyd y tir yn drylwyr fel rhan o’r gwaith
paratoi, a defnyddiwyd dull gweithredol o reoli’r tir gydag oes dyluniad o 120
mlynedd er mwyn lleihau’r gofyn i aflonyddu ar drigolion lleol er mwyn gweithio
ar y lein, a lleihau costau cynnal a chadw ac i’r dyfodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: -
Llongyfarch Network Rail am wneud y gwaith
mewn modd oedd wedi achosi ychydig iawn o anghyfleuster, a nodi diolch am wneud
ymdrech ychwanegol i leihau aflonyddu ar drigolion lleol. -
Fod llawer o waith tacluso wedi ei wneud a bod
hynny i’w groesawu gan ei fod wedi gwella edrychiad a diogelwch o gwmpas y lein -
Fod y gwaith gwella ar Arhosfan
Penhelig] wedi ei groesawu’n lleol, a gwnaed cais i
ddangos lluniau yn y cyfarfod nesaf. -
Fyddai’r llystyfiant a dorrwyd er mwyn gwneud y
gwaith yn cael ei reoli i’r dyfodol? -
Fyddai polisi rheoli llystyfiant Network Rail yn dychwelyd i’r
polisi torri ‘ffens-i-ffens’ oedd yn bodoli yn y gorffennol? Mewn ymateb nododd Mr Hadley fod y
llystyfiant o boptu’r lein wedi ei drin er mwyn ceisio sicrhau na fyddai’n
tyfu’n ôl i’r un graddau. Ychwanegodd fod polisi clirio llystyfiant Network Rail yn datblygu i fod
torri yn ehangach nag y bu yn y gorffennol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD GAN TRAFNIDIAETH CYMRU I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trafniadiaeth Cymru. Cofnod: Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trafnidiaeth Cymru, i gyflwyno ei adroddiad
ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru hyd yma ac fe adroddodd ar y materion isod
gan ganolbwyntio ar gynllun Trafnidiaeth Cymru am y tymor hir: -
Ei fod
wedi trosglwyddo o Drenau Arriva Cymru, gyda chyfrifoldeb dros Ganolbarth a
Gogledd Cymru. -
Fod
Trafnidiaeth Cymru wedi cael dechrau anodd, gyda phedair wythnos o dywydd garw
wedi arwain at ganran sylweddol o’u trenau wedi cael eu tynnu allan o wasanaeth
er mwyn eu trwsio. -
Mai nod tymor hir Trafnidiaeth Cymru oedd gwasanaeth cynhwysfawr saith
diwrnod yr wythnos gyda cherbydau newydd. -
Fod 421 o gerbydau newydd wedi eu harchebu, fyddai’n cael eu cyflwyno
dros y pedair blynedd nesaf gan stopio defnyddio trenau dosbarth 158 ar
Reilffordd Arfordir y Cambrian. -
Fod Trafnidiaeth Cymru yn anelu i uwchraddio holl orsafoedd Cymru er mwyn
gwella eu cyfleusterau a’u hedrychiad, yn ogystal â gwella gwybodaeth i
deithwyr, cysylltedd diwifr a chyswllt cymunedol. -
Mai nod tymor hir Trafnidiaeth Cymru oedd datblygu rhwydwaith integredig
gyda threnau a bysus yn gweithio gyda'i gilydd i greu un rhwydwaith. -
Byddai’r
Gymraeg yn cael lle canolog gan y cwmni newydd. -
Ei fod yn gyfnod cyffrous, gan nad oedd wedi bod mewn sefyllfa ble ’roedd
cyllid ar gael ar gyfer datblygiadau newydd o’r blaen, felly estynnodd
gwahoddiad i fudd-ddeiliaid Rheilffordd arfordir y Cambrian
i gyflwyno syniadau. Croesawyd yr
adroddiad gan y Gynhadledd, gan nodi’r sylwadau canlynol o’r drafodaeth: -
Fyddai
posib rhannu manylion amserlen datblygu Rheilffordd y Cambrian
i’r dyfodol pan fyddai ar gael? -
Pwy
fyddai’n monitro teledu cylch cyfyng fyddai’n cael ei osod yn y gorsafoedd? -
Fyddai’r
gwaith uwchraddio cysylltedd yn cynnwys mewnosod rhwydwaith 5G? -
Fyddai’r
datblygiadau yn arwain at amseroedd teithio byrrach? -
Croesawyd
y bwriad i hyrwyddo’r Gymraeg. -
Croesawyd
y bwriad i wella diogelwch, yn enwedig ar gyfer carfannau bregus o gymdeithas. -
Galw am
bresenoldeb dynol ar bob platfform er mwyn gwneud i deithwyr deimlo’n saff. -
Beth
fydd strwythur prisio tocynnau? Mewn ymateb
nododd Mr Davies: -
Byddai’r
teledu cylch cyfyng yn cael ei fonitro yng Nghaerdydd, ond mai staff fyddai’n
gwneud y monitro. -
Nid oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynglŷn â mewnosod cysylltedd
5G -
Na
fyddai natur Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn
galluogi cyflymu llawer ar amseroedd teithiau oherwydd y nifer o orsafoedd ar y
lein. -
Fod defnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn bwysig i Drafnidiaeth Cymru. -
Byddai Trafnidiaeth Cymru yn gwella diogelwch gorsafoedd wrth eu
huwchraddio, ond na fyddai’n bosib cyflogi staff ar gyfer pob gorsaf. Fodd
bynnag, nododd y byddai gard ar bob trên fel rhan o’r cytundeb gwasanaeth. -
Roedd y
strwythur prisio ac amserlenni wedi cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol yn y lle
cyntaf, a byddai Trafnidiaeth Cymru yn eu hadolygu yn eu tro. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD Y RHEOLWR UNDED TRAFNIDIAETH INTEGREDIG I dderbyna droddiad gan Reolwr yr Uned Drafniadiaeth Integredig. Cofnod: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rhian Williams, Rheolwr Trafnidiaeth
Integredig i’r cyfarfod. Adroddodd fod Gwasanaeth Trafnidiaeth Integredig y
Cyngor yn bwriadu adolygu’r rhwydwaith bysus yn 2019. Ychwanegodd eu bod hefyd
yn bwriadu cydweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i’r dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD Y CAMBRIAN PDF 312 KB I dderbyn adroddiad Swyddog Rheilffordd y Cambrian. Cofnod: Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. Amlinellodd y gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol sef: -
Fod y gwaith o hyrwyddo’r Rheilffordd wedi parhau, gyda gwefan newydd
wedi ei datblygu a’r tudalennau ar wefannau cymdeithasol wedi cyrraedd mwy o
bobl. ‘Roedd pwyslais Croeso Cymru gydag ymgyrch Blwyddyn y Môr yn 2018 o
gymorth wrth hyrwyddo Rheilffordd Arfordir y Cambrian. -
‘Roedd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian wedi
penderfynu creu hysbyseb i’w dangos ar rwydwaith Sky
yn ardal Swydd Amwythig. Ystyriwyd yr hysbyseb yn llwyddiant gan iddi gael ei
gweld gan oddeutu 171000 o bobl. -
Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus iawn yng ngorsaf Birmingham New Street o’r enw ‘Mynd a Glan y Môr i Birmingham’, a
dyfarnwyd y digwyddiad yn ail yng nghategori ‘Ymgyrch Farchnata neu Gyfathrebu
Orau’ gwobrau'r Gymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol. -
Fod gwaith wedi ei wneud er mwyn asesu pa mor dementia cyfeillgar oedd
Gorsaf y Drenewydd. ‘Roedd y profiad yn werthfawr er mwyn asesu gorsafoedd
Rheilffordd Arfodir y Cambrian
wrth i fwy o gymunedau anelu i ddod yn gymunedau dementia cyfeillgar. ‘Roedd
Trafnidiaeth Cymru wedi cynorthwyo trwy gynnig teithio am ddim i’r rhai oedd yn
asesu a chynorthwyo. -
Fod fideo wedi ei greu ar y cyd a Network Rail er mwyn hysbysu’r
cyhoedd o beryglon croesfannau ar y rheilffordd, oedd yn parhau yn broblem. Penderfynwyd -
Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian amdano. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG I dderbyn adroddiad gan gynrhychiolydd o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Cofnod: Estynnodd y
Cadeirydd groeso i PC Andy Greaves o’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. Cyflwynodd ei hun
gan roi trosolwg o’i waith, gan nodi fod y nifer o droseddau ar leiniau
Amwythig i Aberystwyth a Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn isel iawn. Y brif broblem
ar Reilffordd Arfordir y Cambrian oedd tresmasu ar y lein wrth i aelodau’r
cyhoedd gymryd mantais o lwybr y rheilffordd er mwyn canfod llwybr byrrach.
‘Roedd yn gobeithio y byddai’n bosib defnyddio technoleg er mwyn canfod pobl yn
tresmasu yn gynt. Nododd y byddai’n hapus i sgwrsio gydag unrhyw un o aelodau’r
Gynhadledd er mwyn trafod a cheisio datrys problemau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 288 KB I dderbyn atebion i unrhyw gwestiynnau amgaedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Cofnod: Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o
Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion isod:
|