skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Canolfan Gyswllt y Cyngor, Parc Busnes, Penrhyndeudraeth

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iona Jones (Ysgol Bro Cynfal ac Ysgol Edmwnd Prys), Dewi Lake (Ysgol y Moelwyn), Andrew Roberts (Ysgol Y Berwyn), Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr Cynradd), Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth), Neil Foden (Undebau Athrawon), Garem Jackson (Pennaeth Addysg).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

Cofnod:

Datganwyd buddiant personol gan y canlynol:

 

·         Pennaeth Cyllid oherwydd  bod ei wraig yn gweithio yn Ysgol Syr Hugh Owen  

·         Uwch Reolwr TG a Thrawsnewid gan ei fod yn lywodraethwr ar ysgol

 

Roeddynt o’r farn nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddynt adael y cyfarfod. 

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 369 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2017 fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

(a)  Cefnogaeth ychwanegol i Ysgol Tywyn

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg 

 

(b)  Gwybodaeth cryno o wasanaeth rhwydwaith ysgolion

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid  

 

(c)   Diweddariad Talu-ar-lein

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg  

 

(d)   Diweddariad ymgynghoriad Clwb Brecwast

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasnaeth Adnoddau Addysg  

 

Cofnod:

(a)  Eitem 5 – Cyllideb a Diffyg Ariannol Ysgol Tywyn   

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn dilyn cais gan Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Tywyn am gefnogaeth i’r sefyllfa o ddiffyg ariannol hanesyddol, bod trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd ar y ffordd ymlaen.  Ychwanegwyd nad oedd y mater hyd yma wedi ei drafod gan Tim Arweinyddiaeth y Cyngor.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)  Eitem 8 (b)  - Gwasanaeth Rhwydwaith Ysgolion

 

Derbyniwyd cyflwyniad, ar ffurf sleidiau, gan yr Uwch Rheolwr TG a Thrawsnewid, gan roi hanes y rhyngrwyd o’i ddyfodiad yn 1969 ac erbyn heddiw bod y defnydd wedi cynyddu a dyfeisiadau wedi symud yn eu blaen yn aruthrol.    O dan raglen grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol, darparwyd cysylltiad band eang ar gyflymder o 10Mbps i ysgolion cynradd a 100Mbps i ysgolion uwchradd.  

 

Eglurwyd esblygiad y rhwydwaith i’r ysgolion a’r gwelliannau mae’r rhwydwaith PSBA ar gyfer y sector gyhoeddus yng Nghymru wedi ei gael a manteision cynyddol i’r dyfodol.

 

O ran pwy sy’n gyfrifol am beth, eglurwyd fel a ganlyn:

 

·         Bod CYNNAL yn darparu cefnogaeth i’r cyfarpar sy’n cysylltu i’r rhwydwaith a gweinyddu’r hidlo

·         Bod y Cyngor yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth rhwydwaith, rheoli cytundeb BT, di-wifr, diogelwch, hidlo a datblygu gwasanaeth newydd (megis ffonau)

·         Bod BT yn gyfrifol am seilwaith y rhwydwaith PSBA

 

 

O safbwynt dyraniad costau o £540,000, byddai’n seiliedig ar y pedwar elfen isod:

 

·         Cyswllt uniongyrchol

·         Rhwydwaith

·         Cynnal a chadw i gynnwys meddalwedd

·         Cefnogaeth staff canolog – ymateb i broblemau ac i ddatblygu’r rhwydwaith

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd yr Uwch Reolwr TG a Thrawsnewid i’r ymholiadau fel a ganlyn:

 

(i)            bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth bron iawn yn ei le, a thrwy amlygu’r hyn a fwriedir hyderir y bydd ysgolion yn cytuno i ddarpariaeth drwy’r awdurdod i gael at rwydwaith ddibyniadwy ac yn hyn o beth fe ellir cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i hwyluso rhaglen Dyfodol Llwyddiannus

(ii)           o safbwynt oedran y cyfarpar y byddai’n rhaid ychwanegu ar ôl oddeutu 10 mlynedd (mae’r cyfarpar yn 4 oed yn barod)

(iii)          yng nghyd-destun ariannu unrhyw ychwanegiad i’r cyfarpar yn oddeutu 2021-2023, byddai’n ofynnol i ysgolion gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y costau

 

Mewn ymateb i (ii) a (iii) uchod, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg yr angen i roi cynllun at ei gilydd yn fuan a’r angen hefyd i rybuddio ysgolion ymlaen llaw o debygolrwydd o gostau gan bod technoleg yn newid mor gyflym.

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad.

 

(c)  Eitem 9 – Talu ar Lein

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gwasanaeth talu-ar-lein bellach wedi ei gyflwyno i ysgolion cynradd a’r rhan helaeth o staff  yr ysgolion wedi derbyn hyfforddiant.  Croesawyd y gwasanaeth ac ychydig iawn o sylwadau a dderbyniwyd megis nad oedd rhieni yn gallu gweld balansau / credyd.  Penderfynwyd i ddefnyddio cyfarpar “SIMS  Dinner Money” gyda’r awdurdod yn ariannu’r modiwl.  ‘Roedd oblygiadau i ail-hyfforddi Clercod Arian Cinio ond y byddai’r modiwl yn fanteisiol oherwydd y byddai’n lleihau’r gaith cyfrifo a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

GRANTIAU YSGOLION 2018/19

(a)  Grant 6ed

(b)  Grant Datblygu Disgyblion (GDD – yr hen Grant Amddifadedd Disgyblion)

(c)   Grant Gwella Ysgolion  -  I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Rheolwr CyllidGrwp Datblygu

 

 

Cofnod:

(a)  Grant 6ed

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid nad oedd llythyr penodol wedi ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru ynglyn â’r grant uchod o £9.8m ar gyfer 2018/19 ond deallir bod gostyngiad a oedd yn cyfateb i leihad o 10% yn nhermau arian parod ond mewn gwirionedd y byddai’n gostwng 12%.  Fe fyddir yn anfon llythyr i ysgolion yn dilyn derbyn gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

(b)   Grant Datblygu Disgyblion (GDD – yr hen Grant Amddifadedd Disgyblion

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid nad oedd gwybodaeth benodol wedi ei dderbyn oddi wrth Llywodraeth Cymru ynglyn â’r grant uchod

 

(c)  Grant Gwella Addysg

 

Yn ystod y 2 flynedd diwethaf dyranwyd £26m ar gyfer y grant uchod, £133m ar lefel Cymru.  Deallir bod gostyniad i’r grant dan sylw a olygai 19.5% yn nhermau arian parod a oedd yn cyfateb i 23% mewn gwirionedd yn nhermau real.

 

Ar gyfer 2018/19, dyrannir £15m sy’n cyfateb i 11.4% mewn arian parod ond 14.3% yn nhermau real.

 

Adroddwyd y bydd lleihad o 1% yn y grant uchod yn 2018/19 ac 1% pellach yn 2019/20.

 

Nodwyd bod 60% o’r grant uchod yn ymwneud â’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer cymhorthyddion, a.y.b.

 

(ch)   Grant Gwisg Ysgol

 

Deallir bod y grant uchod yn dirwyn i ben ond hyd yma ni dderbyniwyd eglurhad pellach.

 

Penderfynwyd:          Rhaeadru y cofnod uchod, fel mater o frys, i holl ysgolion y Sir.  

 

6.

SETLIAD DRAFFT - STRATEGAETH ARIANNOL CYNGOR GWYNEDD 2018/19, 2019/20 ac 2020/2021

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan y Pennaeth Cyllid.   

 

Cofnod:

(a)    Setliad Llywodraeth Cymru i Lywodraeth Leol 2018/19

Adroddodd y Pennaeth Cyllid oddeutu blwyddyn yn ôl crybwyllodd Llywodraeth Cymru bod dyraniad “ychwanegol” o £58m, ond nid oedd yn ychwanegol, oherwydd bod y grantiau i awdurdodau lleol yn lleihau’n sylweddol. 

 

Eleni, nodwyd bod datganiadau’r Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am £104m sydd ddim yn “ychwanegol” go iawn, gan fod dyraniad Llywodraeth Leol i lawr 0.5% yn nhermau “arian”, heb ychwanegiad tuag at chwyddiant na gofynion uwch anorfod.  ‘Roedd £62m o’r dyraniad “ychwanegol” ar gyfer ysgolion, ond does dim “arian”.  Dywedir hefyd bod rhai grantiau yn trosglwyddo i’r setliad, ond eto, does dim “arian” ychwanegol.

 

Roedd bwriad i gynnal cyfarfodydd “Partnership Council” a “Phwyllgor Llywodraeth Leol” ym Mae Caerdydd wythnos diwethaf ond oherwydd y digwyddiadau trist bu i Lywodraeth Cymru gau am yr wythnos.  Hyderir y gellir derbyn eglurder am y grantiau mor fuan ag sy’n bosibl.

 

Deallir bod gan Llywodraeth Cymru arian ychwanegol ond bod yr arian hwn wedi ei flaenoriaethu i’r sector iechyd.

 

(b)   Setliad Cyngor Gwynedd 2018/19

 

Derbyniodd awdurdodau lleol Cymru doriad o 0.5% ar gyfartaledd, gyda Chyngor Gwynedd yn derbyn toriad o 0.1% mewn amrediad rhwng 0 a 1%.   Nodwyd bod y gwahaniaeth rhwng y 0.5% a’r 0.1% wedi’i ymrwymo eisoes gan y Cyngor er mwyn cyfarch gofynion gwario ar ofal cymdeithasol mewn ardal wledig.

 

Tynnwyd sylw bod setliad eleni yn un anodd eto ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, sydd yn barhad o effaith polisi “caledi” Llywodraeth San Steffan a fydd yn cael effaith ar wasanaethau a thrigolion ar draws Cymru.

 

Pwysleiswyd mai mwy o newyddion drwg sydd i ddod i’r dyfodol, gyda chwyddiant tua 2%, nodwyd bod setliad drafft 0.1% (i’w gadarnhau yn Rhagfyr) yn doriad  gwir o 2%, heb ddim i gwrdd â phwysau ychwanegol ar wasanaethau gofal cymdeithasol i nifer uwch o oedolion hŷn, a.y.b.

 

(c)   Sefyllfa Posibl 2019/20

 

Erbyn 2019/20, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad “dangosol o -1.5%.  Yr un adeg, disgwylir chwyddiant tâl sylweddol o gyfarch y targed “cyflog byw” ar gyfer staff y Cyngor a staff y cyflenwyr.  Gall hynny olygu effaith toriad real o oddeutu 5% erbyn 2019/20.

 

(ch)     Gofynion Ariannol Corfforaethol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2018/19

 

Erbyn 2018/19, nodwyd na fydd targed arbedion ychwanegol i ysgolion, fel gweddill gwasanaethau’r Cyngor, OND:

 

·         Rhaid gweithredu ar gynlluniau arbedion hanesyddol, sy’n cynnwys gwedill y £4.3m, lle roedd tua £200,000 i ddod o arbedion trefniadaeth ysgolion ychwanegol erbyn 2018/19

·         Gan nad yw hyn ar trac, diau y bydd rhaid cwtogi’r cwantwm yn briodol, sydd cyfwerth â thua 0.3%.

 

(d)   Gofynion Ariannol Adrannol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2018/19

 

Adroddwyd bod gorwariant sylweddol (£260,000) ar gludiant i ddisgyblion, yn bennaf tacsis i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Nodwyd bod y Pennaeth Addysg wedi cyflwyno “bid” i’r Cyngor ariannu’r pwysau anorfod yma i’r dyfodol, ac yn ôl-syllol, ond mae’n annhebygol y bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais. Gan y bydd rhaid ei ariannu o rhywle, diau y bydd raid cwtogi’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Uwch Reolwr Cynhwysiad.   

 

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Cynhwysiad ar yr opsiynau ar gyfer dyrannu cyllideb ddatganoledig anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad.  Esboniwyd bod y gyllideb integreiddio ar gyfer 2017-18 yn £5.9m ac o dan bwysau oherwydd dwy elfen sef cyllido darpariaeth Ysgol Hafod Lon a’r galw am gefnogaeth yn cynyddu.  O’r £5.9m dyranwyd £4.4m ar gyfer disgyblion gydag datganiadau neu Cynlluniau Datblygu Unigol Awdurdod ac yn gadael y gweddill (£1.5m) i’w ddosbarthu trwy ddyraniadanghenion dysgu ychwanegol cyffredinolar sail 80% nifer disgyblion a 20% disgyblion sy’n gymwys am ginio am ddim.

 

Datganolir cyllideb i 14 ysgol cynradd ac 14 ysgol uwchradd gyda’r gweddill yn derbyn cyllideb drwy gytundeb lefel gwasanaeth.

 

Nodwyd y byddai’r gyllideb yn lleihau er mwyn cyflwyno arbedion o £400,000. Adroddwyd bod y Bwrdd Prosiect Gwynedd a Môn yn ymchwilio i ddulliau amgen o ddatganoli cyllid ac yn cynnig yr opsiwn canlynol fel cam cyntaf:

 

1.    Defnyddio data i adnabod disgyblion darpariaeth statudol (datganiadau a CDU) ar sail gwir gost.  Byddir yn cyfeirio drwy Fforymau a Phaneli Cymedroli (lefel CDU awdurdod ac uwch) ar sail gofynion eu Cynllun Gweithredu ac yn derbyn darpariaeth gan y Tim Integredig (yn ganolog) a chymorthyddion (ysgol).

2.    Cynnig adnabod a thynnu swm wrth gefn ar gyfer Datganiadau CDU a ddaw i fewn yn ystod y flwyddyn ar sail % o’r gyllideb ddatganoledig.  Pe byddir ddim yn gwneud defnydd o’r arian gellir ei rannu hefo ysgolion yn dilyn y cyfnod.

3.    Dyrannu gweddill yr arian (sef Cyllideb ddatganoledig llai datganiadau/cdu llai % wrth gefn llai arbedion) ar sail niferoedd a nifer disgyblion prydau ysgol am ddim.

 

4.    Ysgolion i ystyried trefn glwstwr o benodi cymorthyddion.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd yr Uwch Reolwr Cynhwysiad i gwestiynau fel a ganlyn:

 

(a)   Yng nghyd-destun amserlen, nodwyd mai’r bwriad fyddai ei weithredu o fis Medi 2018.

(b)   Cytunwyd na fyddai angen ymgynhori ar y dyraniad gan ei bod eisioes wedi cytuno ar drefn i ddyrannu ar sail niferoedd a niferoedd plant sydd yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

 

(b)   o safbwynt adborth yng ngweithrediad y cynllun peilot Cyd lynydd Clwstwr, eglurwyd ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd ond y byddir yn pwyso a mesur unrhyw adborth maes o law. Ni fyddai’r cynllun hwn yn effeithio ar y drefn ddatganoli.

 

cadarnhawyd bod angen ystyried cyfrifoldeb ynglyn â chostau pan fo plentyn anghenion addysgol ychwanegol yn symud o ysgol i ysgol.  

 

Ychwanegwyd bod y gyllideb heb gael unrhyw dŵf, ac er hynny, bod niferoedd y plant gydag anghenion yn cynnyddu a’r anghenion yn rhai mwy dwys.

 

Byddir yn parhau gyda’r trefniadau dyraniad yn seiliedig ar ginio am ddim a hefyd yn parhau gyda’r gwaith PLASG.

 

Penderfynwyd:       Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad.

 

8.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I gadarnhau y cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm am 9.30 a.m. ar 11 Ionawr 2018.

 

 

Cofnod:

Penderfynwyd:       Cymeradwyo i gynnal cyfarfod nesaf y Fforwm am 9.30 a.m. ar 11 Ionawr 2018.