skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth),  Dylan Davies (Ysgol Dyffryn Ogwen), Dylan Minnice (Ysgol Botwnog) ac Andrew Roberts (Ysgol y Berwyn

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 98 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd

2018.

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2018 fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Eitem 7 – Adolygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

 

Mynegwyd fod gwaith yn parhau gyda’r arbenigwr allanol sydd yn ymchwilio i mewn i’r gorwariant.

 

Eitem 8 – Rhagolygon 2019/20, 2020/21 a 2021/22

 

Nodwyd fod y cofnodion yn nodi fod y costau yn cynyddu a esboniwyd mai’r costau yma yw cynnydd cytundeb tal athrawon a chynnydd yng nghostau pensiwn athrawon sydd yn cyfateb i gynnydd costau o 5%.

 

Mynegwyd fod y Llwybrau Dysgu wedi eu hanfon at ysgolion bellach.

 

Diweddarwyd ar y sefyllfa o ran Canolfannau Iaith gan nodi fod ymgynghoriad wedi ei gynnal a staff ac yr undebau a bod opsiynau dan ystyriaeth. Ategwyd y bydd yn benderfyniad Cabinet y Cyngor a bod yr ad-drefnu yn deillio o ddiffyg mewn cyllideb o ganlyniad i doriad mewn grantiau gan y Llywodraeth. Mynegodd yr aelod dros yr Undebau nad oedd yn teimlo fod y crynodeb o ymateb yr Undeb a aeth i’r Cabinet yn cloriannu beth oedd barn yr undebau yn llawn.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

5.

CYLLIDEB CYNGOR GWYNEDD 2019/20 - YSGOLION pdf eicon PDF 54 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod gan Dafydd L Edwards

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad gan nodi nad oes llawer o newid i’r gyllideb ers y cyfarfod diwethaf. Mynegodd fod y Cyngor wedi osgoi trosglwyddo targed arbedion ysgolion i ysgolion Gwynedd eto eleni. Ychwanegwyd fod y gyllideb ysgolion yn cynyddu eleni oherwydd yr addasiadau ‘demograffi’ arferol, sydd yn deillio o newidiadau yn niferoedd disgyblion. Tynnwyd sylw at fidiau’r Cyngor gan nodi fod argymhelliad i’r Cyngor i gytuno i ariannu bidiau gwerth £593k i’r Adran Addysg, a fydd tuag at y gyllideb cludiant ac integreiddio.

 

Mynegwyd ei fod yn gyllideb deg, a gyda chwyddiant o dros £4m i ystyriaeth, bydd cyllideb ysgolion dipyn uwch yn 2019/20 na’r lefel yn 2018/19. Mynegwyd fod nifer o grantiau gan Lywodraeth Cymru i’r maes Addysg yn ymddangos na fydd toriad ‘cash’ ond er hyn ni fydd y Llywodraeth ddim yn ychwanegu chwyddiant i’r grantiau. Felly bydd costau, sydd yn cynnwys chwyddiant cyflog a phensiwn athrawon, yn cynyddu 5%, o ganlyniad i hyn bydd ysgolion mewn sefyllfa ble fydd rhai o’r grantiau yn doriadau mewn termau ‘real’. Er hyn, ychwanegwyd, y bydd grant newydd gan y Llywodraeth tuag at hyfforddi athrawon.

 

Trafodwyd pensiwn athrawon gan nodi fod rhagdybiaeth yn parhau y bydd y Llywodraeth yn ariannu’r cynnydd pensiynau athrawon 2019/20 drwy grant penodol. Ychwanegwyd fod ymgynghoriaeth gyda’r sector addysg yn Lloegr wedi ei gynnal ac mae son am ariannu yn llawn yn yr ysgolion yn Lloegr. Mynegwyd fod disgwyliad i hyn ddigwydd yng Nghymru yn ogystal. Ategwyd os na fydd arian yn dod gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r cynnydd mewn cyfaniadau pensiwn, neu os fydd y grant ddim yn ddigonol, bydd angen ail ymweld â hyn a thrafod ac ysgolion sut y bydd modd iddynt ddelio â’r pwysau un tro yn 2019/20.

 

Nodwyd fod trafodaethau wedi bod yn y Cabinet ar arbedion fydd angen eu gwneud yn 2019/20 ac ychwanegwyd  fod y Cabinet wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth i beidio â thorri ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd os yw’r cyllidebau drafft yn cynnwys y rhagdybiaeth y bydd  cyfraniad at y cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn Athrawon yn cael ei ariannu gan grant gan y Llywodraeth. Nodwyd ei fod yn cynnwys hyn yn y cyllidebau, oherwydd roedd yr Adran Gyllid yn credu ei bod yn anghyfrifol i ysgolion deimlo eu bod yn rhedeg i doriadau heb fod angen, ychwanegwyd y bydd yr adran yn ceisio cael yr arian yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod cyfraniadau pensiynau ar y radar risg ond bydd angen delio yn llawn ar mater pan fydd mwy o wybodaeth.

 

Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad

 

6.

GRANTIAU YSGOLION 2019/20

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Hefin Owen

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn fwriad i ryddhau’r crynodeb o’r Grantiau Datganoledig Ysgolion iddynt gyda dyraniad eu hysgol. Esboniwyd y daenlen dyraniad gan nodi fod “arall” yng ngholofn 3 yn cynnwys arian ar gyfer hyfforddiant athrawon. Trafodwyd y grantiau sydd i’w gweld ar y daenlen.

 

Grant 6ed - nodwyd fod gwybodaeth wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth am y grant hwn sydd yn cadarnhau fod £3,284,887, sydd yn £55,516 yn uwch na’r rhagolygon. Mynegwyd fod hyn yn gynnydd grant o 3.9% o’i gymharu â 2018/19 er bod nifer y disgyblion wedi lleihau. Ychwanegwyd fod disgwyl yn y dyfodol i’r ffigwr godi gyda chynnydd yn y cyfraniadau i bensiwn athrawon.

 

Grant Gwella Addysg - nodwyd fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am fwy o wybodaeth. Mynegwyd fod yn ymddangos i fod yr un swm a 2018/19 er bod costau yn cynyddu a bydd hyn yn cyfateb i doriad oddeutu 5% yn nhermau real. Mynegwyd fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am atebion, ond ychwanegwyd fod y cyfanswm cenedlaethol yn parhau'r un swm felly mae’r adran yn ffyddiog fod yr amcangyfrif yn gywir.

 

Grant Datblygu Disgyblion - mynegwyd fod y grant yma yn seiliedig ar PLASC Ionawr 2016 a disgwylir i’r grant barhau ar yr union yr un sail ar gyfer 2019/20. Nodwyd fod chwyddiant cyflog cymorthyddion dosbarth yn cynyddu 5%, ac felly yn nhermau real mae’r ffigwr yn doriad sylweddol.

 

Grant Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol - Nodwyd fod y Cyngor yn disgwyl siâr o £15miliwn cenedlaethol, a fydd o gwmpas £580,000 i ysgolion Gwynedd. Ychwanegwyd fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am wybodaeth bellach.

 

Grant Tal Athrawon - mynegwyd fod yr wybodaeth wedi ei dderbyn at gyfer y grant hwn. Ychwanegwyd nad yw’r grant yn y setliad ond ei fod yn grant ar ben ei hun. Nodwyd fod y grant yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynllun Gwynedd sef y bwriad i ddefnyddio’r grant fel cyfraniad tuag at gost ariannu effaith blwyddyn gyfan o gytundeb tal athrawon Medi 2018 a chytundeb tal athrawon Medi 2019.

 

Tynnwyd sylw yn ychwanegol at grantiau ychwanegol sydd wedi/am eu derbyn yn hwyr am 2018/19. Nodwyd fod yr arian yma yn cael ei anfon yn uniongyrchol i’r ysgolion. Mynegwyd yn ogystal fod angen cadw golwg ar bensiynau athrawon, oherwydd gall fod yn broblem i’r ysgolion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os oes angen rhannu’r wybodaeth yma a’r ysgolion – penderfynwyd fod angen ei adael tan y byddant yn cael y dyraniad gan obeithio y bydd pob grant wedi ei gadarnhau gan y Llywodraeth erbyn hynny.

 

Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad ac i anfon y wybodaeth i’r ysgolion wrth anfon y cyllidebau

 

7.

DYRANIAD CYNNAL TIR A DYRANIAD RHWYDWAITH YSGOLION

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Owen Owens

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi nad yw hi wedi bod yn bosibl cael dadansoddiad o anghenion ysgolion o ran oriau craidd ac oriau dewisol mewn pryd i allu ymgynghori a ysgolion ar y dull newydd arfaethedig o ddyrannu arian. O ganlyniad i hyn, nodwyd, ni fydd unrhyw newid i’r dull ariannu dyrannu arian cynnal tiroedd ar gyfer 2019/20. Gobeithir y bydd modd ymgynghori eleni fel bydd modd dyrannu’r arian drwy’r dull newydd yn 2020/21. Mynegwyd gan na fydd newid i’r dull dyrannu am eleni ni fydd newid, yn eithrio ychwanegu chwyddiant, at y costau o gynnal tiroedd.

 

Nodwyd yn yr un modd, nad yw hi wedi bod yn bosib ymgynghori ar y dull newydd o ddyrannu arian rhwydwaith ysgolion, ac felly fe fydd y sail dyrannu am eleni'r un fath ag yr oedd ar gyfer 2018/19.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

8.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH CYNNAL TIR

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Owen Owens

Cofnod:

Nodwyd gan nad oes modd cyflawni proses i newid sail dyrannu arian cynnal tiroedd ysgolion, ni fydd newid, yn eithrio ychwanegu chwyddiant, at gostau Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2019/20.

 

Penderfynwyd:          Derbyn yr adroddiad.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnod:

Nodwyd mai dyma fydd cyfarfod olaf y Cyng. Peredur Jenkins fel Aelod Cabinet dros Gyllid, diolchwyd yn fawr iddo am ei waith caled dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddo.

 

10.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Cofnod:

Bydd dyddiadau am y flwyddyn yn cael ei gylchredeg.