Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Anest Gray Frazer
(Yr Esgobaeth), Dylan Davies (Ysgol
Dyffryn Ogwen), Dylan Minnice (Ysgol Botwnog) ac Andrew Roberts (Ysgol y Berwyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2018. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb
Ysgolion a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2018 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Cofnod: Eitem 7 – Adolygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Mynegwyd fod gwaith yn parhau gyda’r arbenigwr allanol sydd yn ymchwilio
i mewn i’r gorwariant. Eitem 8 – Rhagolygon 2019/20, 2020/21 a 2021/22 Nodwyd fod y cofnodion yn nodi fod y costau yn cynyddu a esboniwyd mai’r
costau yma yw cynnydd cytundeb tal athrawon a chynnydd yng nghostau pensiwn
athrawon sydd yn cyfateb i gynnydd costau o 5%. Mynegwyd fod y Llwybrau Dysgu wedi eu hanfon at ysgolion bellach. Diweddarwyd ar y sefyllfa o ran Canolfannau Iaith gan nodi fod
ymgynghoriad wedi ei gynnal a staff ac yr undebau a bod opsiynau dan
ystyriaeth. Ategwyd y bydd yn benderfyniad Cabinet y Cyngor a bod yr ad-drefnu
yn deillio o ddiffyg mewn cyllideb o ganlyniad i doriad mewn grantiau gan y
Llywodraeth. Mynegodd yr aelod dros yr Undebau nad oedd yn teimlo fod y
crynodeb o ymateb yr Undeb a aeth i’r Cabinet yn cloriannu beth oedd barn yr
undebau yn llawn. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
CYLLIDEB CYNGOR GWYNEDD 2019/20 - YSGOLION PDF 54 KB I dderbyn adroddiad ar yr uchod gan Dafydd L Edwards (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad gan nodi nad oes llawer o newid
i’r gyllideb ers y cyfarfod diwethaf. Mynegodd fod y Cyngor wedi osgoi
trosglwyddo targed arbedion ysgolion i ysgolion Gwynedd eto eleni. Ychwanegwyd
fod y gyllideb ysgolion yn cynyddu eleni oherwydd yr addasiadau ‘demograffi’ arferol, sydd yn deillio o newidiadau yn
niferoedd disgyblion. Tynnwyd sylw at fidiau’r Cyngor gan nodi fod argymhelliad
i’r Cyngor i gytuno i ariannu bidiau gwerth £593k i’r Adran Addysg, a fydd tuag
at y gyllideb cludiant ac integreiddio. Mynegwyd ei fod yn gyllideb deg, a gyda chwyddiant o dros £4m i ystyriaeth,
bydd cyllideb ysgolion dipyn uwch yn 2019/20 na’r lefel yn 2018/19. Mynegwyd
fod nifer o grantiau gan Lywodraeth Cymru i’r maes Addysg yn ymddangos na fydd
toriad ‘cash’ ond er hyn ni fydd y Llywodraeth ddim
yn ychwanegu chwyddiant i’r grantiau. Felly bydd costau, sydd yn cynnwys
chwyddiant cyflog a phensiwn athrawon, yn cynyddu 5%, o ganlyniad i hyn bydd
ysgolion mewn sefyllfa ble fydd rhai o’r grantiau yn doriadau mewn termau
‘real’. Er hyn, ychwanegwyd, y bydd grant newydd gan y Llywodraeth tuag at
hyfforddi athrawon. Trafodwyd pensiwn athrawon gan nodi fod rhagdybiaeth yn parhau y bydd y
Llywodraeth yn ariannu’r cynnydd pensiynau athrawon 2019/20 drwy grant penodol.
Ychwanegwyd fod ymgynghoriaeth gyda’r sector addysg
yn Lloegr wedi ei gynnal ac mae son am ariannu yn
llawn yn yr ysgolion yn Lloegr. Mynegwyd fod disgwyliad i hyn ddigwydd yng
Nghymru yn ogystal. Ategwyd os na fydd arian yn dod gan Lywodraeth Cymru i
ariannu'r cynnydd mewn cyfaniadau pensiwn, neu os fydd y grant ddim yn
ddigonol, bydd angen ail ymweld â hyn a thrafod ac ysgolion sut y bydd modd iddynt
ddelio â’r pwysau un tro yn 2019/20. Nodwyd fod trafodaethau wedi bod yn y Cabinet ar arbedion fydd angen eu
gwneud yn 2019/20 ac ychwanegwyd fod y
Cabinet wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth i beidio â
thorri ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd os yw’r cyllidebau drafft yn
cynnwys y rhagdybiaeth y bydd cyfraniad at y cynnydd mewn cyfraniadau
pensiwn Athrawon yn cael ei ariannu gan grant gan y Llywodraeth. Nodwyd ei fod
yn cynnwys hyn yn y cyllidebau, oherwydd roedd yr Adran Gyllid yn credu ei bod
yn anghyfrifol i ysgolion deimlo eu bod yn rhedeg i doriadau heb fod angen,
ychwanegwyd y bydd yr adran yn ceisio cael yr arian yn
llawn gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod cyfraniadau pensiynau ar y radar
risg ond bydd angen delio yn llawn ar mater pan fydd mwy o wybodaeth. Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad |
|
GRANTIAU YSGOLION 2019/20 I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Hefin
Owen Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn fwriad i ryddhau’r crynodeb o’r
Grantiau Datganoledig Ysgolion iddynt gyda dyraniad eu hysgol. Esboniwyd y
daenlen dyraniad gan nodi fod “arall” yng ngholofn 3 yn cynnwys arian ar gyfer
hyfforddiant athrawon. Trafodwyd y grantiau sydd i’w gweld ar y daenlen. Grant 6ed - nodwyd fod gwybodaeth wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth am y
grant hwn sydd yn cadarnhau fod £3,284,887, sydd yn £55,516 yn uwch na’r
rhagolygon. Mynegwyd fod hyn yn gynnydd grant o 3.9% o’i gymharu â 2018/19 er
bod nifer y disgyblion wedi lleihau. Ychwanegwyd fod disgwyl yn y dyfodol i’r
ffigwr godi gyda chynnydd yn y cyfraniadau i bensiwn athrawon. Grant Gwella Addysg - nodwyd fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am fwy o
wybodaeth. Mynegwyd fod yn ymddangos i fod yr un swm a 2018/19 er bod costau yn
cynyddu a bydd hyn yn cyfateb i doriad oddeutu 5% yn nhermau real. Mynegwyd fod
yr adran yn parhau i ddisgwyl am atebion, ond ychwanegwyd fod y cyfanswm
cenedlaethol yn parhau'r un swm felly mae’r adran yn ffyddiog fod yr
amcangyfrif yn gywir. Grant Datblygu Disgyblion - mynegwyd fod y grant yma yn seiliedig ar PLASC
Ionawr 2016 a disgwylir i’r grant barhau ar yr union yr un sail ar gyfer
2019/20. Nodwyd fod chwyddiant cyflog cymorthyddion
dosbarth yn cynyddu 5%, ac felly yn nhermau real mae’r ffigwr yn doriad
sylweddol. Grant Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol - Nodwyd fod y Cyngor
yn disgwyl siâr o £15miliwn cenedlaethol, a fydd o gwmpas £580,000 i ysgolion
Gwynedd. Ychwanegwyd fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am wybodaeth bellach. Grant Tal Athrawon - mynegwyd fod yr wybodaeth wedi ei dderbyn at gyfer y
grant hwn. Ychwanegwyd nad yw’r grant yn y setliad ond ei fod yn grant ar ben
ei hun. Nodwyd fod y grant yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru yn cymeradwyo
cynllun Gwynedd sef y bwriad i ddefnyddio’r grant fel cyfraniad tuag at gost
ariannu effaith blwyddyn gyfan o gytundeb tal athrawon Medi 2018 a chytundeb
tal athrawon Medi 2019. Tynnwyd sylw yn ychwanegol at grantiau ychwanegol sydd wedi/am eu derbyn yn
hwyr am 2018/19. Nodwyd fod yr arian yma yn cael ei anfon yn uniongyrchol i’r
ysgolion. Mynegwyd yn ogystal fod angen cadw golwg ar bensiynau athrawon,
oherwydd gall fod yn broblem i’r ysgolion. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Holwyd os oes angen rhannu’r wybodaeth yma a’r ysgolion – penderfynwyd fod
angen ei adael tan y byddant yn cael y dyraniad gan obeithio y bydd pob grant
wedi ei gadarnhau gan y Llywodraeth erbyn hynny. Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad ac i anfon y wybodaeth i’r
ysgolion wrth anfon y cyllidebau |
|
DYRANIAD CYNNAL TIR A DYRANIAD RHWYDWAITH YSGOLION I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Owen
Owens Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi nad yw hi wedi bod yn bosibl cael
dadansoddiad o anghenion ysgolion o ran oriau craidd ac oriau dewisol mewn pryd
i allu ymgynghori a ysgolion ar y dull newydd arfaethedig o ddyrannu arian. O
ganlyniad i hyn, nodwyd, ni fydd unrhyw newid i’r dull ariannu dyrannu arian
cynnal tiroedd ar gyfer 2019/20. Gobeithir y bydd modd ymgynghori eleni fel
bydd modd dyrannu’r arian drwy’r dull newydd yn 2020/21. Mynegwyd gan na fydd
newid i’r dull dyrannu am eleni ni fydd newid, yn eithrio ychwanegu chwyddiant,
at y costau o gynnal tiroedd. Nodwyd yn yr un modd, nad yw hi wedi bod yn bosib ymgynghori ar y dull
newydd o ddyrannu arian rhwydwaith ysgolion, ac felly fe fydd y sail dyrannu am
eleni'r un fath ag yr oedd ar gyfer 2018/19. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH CYNNAL TIR I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Owen
Owens Cofnod: Nodwyd gan nad oes modd cyflawni proses i newid
sail dyrannu arian cynnal tiroedd ysgolion, ni fydd newid, yn eithrio ychwanegu
chwyddiant, at gostau Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2019/20. Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad. |
|
UNRHYW FATER ARALL Cofnod: Nodwyd mai dyma fydd cyfarfod olaf y Cyng. Peredur Jenkins fel Aelod
Cabinet dros Gyllid, diolchwyd yn fawr iddo am ei waith caled dros y
blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddo. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Cofnod: Bydd dyddiadau am y flwyddyn yn cael ei gylchredeg. |