Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog

Cyswllt: Annes Sion  01268 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol), Garem Jackson (Pennaeth Addysg), Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth) ac Elen ap Gwilym (Llywodraethwr Ysgol Bro Tegid)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 104 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Mehefin

2018.

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2018 fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Eitem 7 – Cyfrifon Terfynol Ysgolion 2017/18

 

Nodwyd nad yw grŵp wedi ei sefydlu i drafod aeddfedu systemau presennol yr ysgolion cynradd, ond y bydd yn cael ei sefydlu cyn y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

5.

SETLIAD DRAFFT - STRATEGAETH ARIANNOL CYNGOR GWYNEDD 2019/20

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad gan bwysleisio fod y setliad drafft sydd wedi ei gyflwyno gan y Llywodraeth yn ansicr. Mynegwyd mai drafft yw’r setliad ar hyn o bryd, a nodwyd gydag Arweinydd newydd i Lywodraeth Cymru ar ei ffordd mae posibilrwydd efallai y bydd yn cael ei addasu. Ymhelaethwyd gan nodi fod bwlch gyllido o £14m erbyn y flwyddyn nesaf. Amlinellwyd y ffactorau sy’n cyfrannu at y pwysau ariannol erbyn 2019/20, yn cynnwys Setliad Grant y Cyngor -0.8%, cytundeb tâl +2% a mwy i rai, ynghyd â chwyddiant yn parhau’n uchel, a'r galw ychwanegol ar wasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Ychwanegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau ar sut y gellid cyfarch y bwlch yn 2019/20. Ymhelaethwyd, gan nodi tebygolrwydd bydd cynnydd yn y Dreth Cyngor o 4.8% neu fwy. Nodwyd y bydd angen cynhaeafu cynlluniau arbedion cyfredol, a blaenoriaethu cynlluniau arbedion ychwanegol er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth. Mynegwyd fod pwysau ychwanegol o ganlyniad i gynnydd mewn cyfraniadau cyflogwyr tuag at bensiynau athrawon.  Ymhellach, tra disgwylir i’r Llywodraeth gyfarch y bwlch yma, mae’n bosib bydd angen i’r ysgolion ddygymod ag elfen ohono, pe na bai’r Llywodraeth yn ariannu’r cyfan o’r gost £1.6m yn 2019/20. Ychwanegwyd fod y Cabinet yn cynllunio i basio mlaen i’r ysgolion unrhyw arian a fydd yn dod i Wynedd ar gyfer pensiynau athrawon.

 

Amlinellwyd y drefn ar gyfer y cylch cyllideb / arbedion a gyflwynir i’r Cyngor Llawn ar 7 Mawrth. Nodwyd rhagolygon ar gyfer ysgolion Gwynedd, gan nodi y bydd ychwanegiad chwyddiant llawn, a rhai addasiadau fel yr arbediad uwchradd a ohiriwyd, ond ni fydd ‘toriad’ newydd i gyllideb ysgolion Gwynedd erbyn 2019/20. Tynnwyd sylw at ragolygon tebygol siroedd eraill sydd, ar hyn o bryd, yn bygwth toriadau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Pwysleisiwyd, yn sefyllfa anodd y Cyngor, bod y tebygolrwydd o ddim toriad newydd erbyn 2019/20 yn bur hael, ond esboniwyd na fydd modd gwarantu hynny erbyn yn y blynyddoedd yn dilyn hyn.

-        Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg, yn dilyn trafodaethau yng Nghaerdydd, fod addewid yno y bydd arian yn cael ei drosglwyddo i ysgolion ar gyfer Pensiwn Athrawon, ond er hyn fod yr arian ar gyfer hyfforddiant a grantiau yn lleihau.

-        Trafodwyd Pensiynau - a nodwyd fod yr arian mewn cronfa wrth gefn gan Ganghellor Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, ond gobeithir y bydd yn cael ei ddyrannu yn fuan drwy Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol i’r ysgolion.

 

6.

GRANTIAU 2019/20

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Penderfynwyd trafod y Grantiau gydag eitem 8 - Rhagolygon 2019/20, 2020/21 a 2021/22.

 

7.

ADOLYGIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD pdf eicon PDF 47 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Adnoddau Dysgu Ychwanegol gan nodi fod y sefyllfa o ran gorwariant yn argyfyngus. Ychwanegwyd fod cynnydd sylweddol yn y nifer o blant sy’n derbyn cefnogaeth a bod arbenigwr annibynnol allanol wedi ei gomisiynu i ymchwilio i mewn i’r gorwariant. Ychwanegwyd fod y gwaith o ailstrwythuro’r Panel Cymedroli wedi ei gwblhau a bod adroddiad ar ddata ADY a Chynhwysiad wedi ei gyflwyno i’r arbenigwr annibynnol allanol.  Mynegwyd fod gwaith wedi ei gwneud ar adolygu’r canllawiau.

 

Ychwanegwyd fod yn dilyn cyflwyno’r Adroddiad Ymchwil bydd argymhellion ar gyfer gweithrediad i reoli’r sefyllfa yn cael eu nodi.

 

Tynnwyd sylw ar y faith er bod oriau cyfartalog fesul plentyn fesul wythnos wedi lleihau ychydig ers 2015. Mynegwyd er bod y cynnydd yn y niferoedd wedi arafu mae risg iddo godi eto, ond nad yw’r adran yn ymwybodol o faint y risg. Nodwyd fod cynnydd amlwg mewn rhai ardaloedd a rhan amlaf fod y plant yn dod o un sector sef Plant mewn gofal. Ychwanegwyd fod niferoedd sydd yn derbyn cefnogaeth ychwanegol ar gynnydd yn genedlaethol. 

 

Mynegwyd fod y sefyllfa yn un anodd, yn benodol gan fod y maes dan bwysau yn enwedig gyda chludiant plant. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet ei bod yn anodd dod o hyd i arian ychwanegol ac mae hi yn anodd gwybod ble i fynd ac i sicrhau lleihad mewn gorwariant.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

8.

RHAGOLYGON 2019/20, 2020/21 A 2021/22

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Nodwyd yn arferol nad yw rhagolygon fel arfer yn dod i’r Fforwm Gyllideb ond o ganlyniad i gynnydd Pensiwn Athrawon eu bod yn cael eu cyflwyno. Nodwyd er bod y Cyngor yn colli grant o £1.3m eto eleni, ychwanegwyd ei fod yn fwriad i’r cyngor ariannu chwyddiant cyflogau yn llawn a bydd yn costio £1.8m i’r Cyngor. Tynnwyd sylw at y rhagolygon yn benodol Grant 6ed. Mynegwyd ei bod yn ymddangos na fydd toriad ‘cash’ yn 2019/20, ond er hyn mae costau yn cynyddu 5% ac o ganlyniad mae’n doriad sylweddol.

 

Nodwyd nad oes unrhyw arweiniad ffurfiol wedi bod ar gyfer y Grant Gwella Addysg hyd yma, ond fod y rhagolygon yn seiliedig ar amcangyfrif o ddim toriad ‘cash’ a chynnydd mewn costau real. Ond ychwanegwyd nad yw cynlluniau Llwybrau Dysgu ddim ar gael ar hyn o bryd.

 

Nodwyd gwerthfawrogiad ysgolion o’r rhagolygon cynhyrchwyd gan yr Adran Gyllid.

 

Awgrymwyd posibilrwydd y bydd cwtogiad yng nghyllideb y Canolfannau Iaith, oherwydd lleihad grant penodol gan Lywodraeth Cymru, ac na fydd modd i’r Cyngor ddigolledu’r swm. O ganlyniad i hyn, nodwyd fod ailstrwythuro yn bosib, a bod trafodaeth yn cael ei gynnal â staff. Pwysleisiwyd na fydd yr ailstrwythuro yn amharu ar fynediad disgyblion i Ganolfannau Iaith. Nodwyd fod angen sicrhau ansawdd i’r dyfodol, gan eu bod yn bwysig o fewn y sir.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

9.

DULL DYRANNU CYLLID CYNNAL TIROEDD YSGOLION pdf eicon PDF 61 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi fod y cyllid ar gyfer cynnal tiroedd yn cael ei ddyrannu i ysgolion ar sail hanesyddol ar hyn o bryd. Ychwanegwyd yn ystod y rownd o gynnig cytundebau lefel gwasanaeth y llynedd, fod angen ailfodelu’r dyraniad. Yn dilyn hyn, ychwanegwyd, fod gwaith i adnabod anghenion pob safle wedi ei wneud ac wedi ei anfon at yr ysgolion. Mynegwyd fod modd i’r dadansoddiad  nodi’r gwaith craidd a dewisol.

 

Mynegwyd wrth ailfodelu bydd arian a ddyrennir yn cyd-fynd â’r gwaith craidd sydd angen ei wneud. Ychwanegwyd mai newid i sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu mae’r cynllun yma ac nid newid y ffordd mae’n cael ei ariannu. Pwysleisiwyd bod angen edrych ar sut i gyflwyno’r newid os oes newidiadau sylweddol i ddyraniad ysgolion unigol, yn enwedig mewn cyfnod mor ansicr.

 

Nodwyd nad yw’r fforwm yn anghytuno mewn egwyddor ond fod angen rhagrybuddio ysgolion os yn cael llai o arian. Nodwyd y byddai angen ail-ymweld â chost y Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cynnal Tiroedd canolog wrth gyflwyno’r dull dyrannu newydd.

 

 

PENDERFYNWYD:   Derbyn yr adroddiad

10.

GWASANAETH RHWYDWAITH YSGOLION pdf eicon PDF 39 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad, gan nodi fod Technoleg Gwybodaeth yn datblygu’n gyflym. Ychwanegwyd fod y ddarpariaeth o ran rhwydwaith a chyswllt cyfrifiadurol wedi gwella i safon gadarn yn holl ysgolion y sir. Mynegwyd o ganlyniad i gaffael rhwydwaith a datblygiadau technolegol, bydd cost y gwasanaeth yn lleihau, ac o ganlyniad bydd cyfanswm dyraniadau’r ysgolion yn lleihau cymesur. 

 

Nodwyd y bydd cyfnod o ymgynghori ag ysgolion am adolygu'r sail dyrannu. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cynnig i symud yn agosach at ddosbarthu ar sail nifer disgyblion.

 

PENDERFYNWYD:         Derbyn yr adroddiad

 

11.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod 2 beth yn effeithio cytundebau lefel gwasanaeth sef Uned Gefnogi Addysg Cefnogol a Chyflogau, Personél a Chyfreithiol. Nodwyd fod gwaith yr Uned Gefnogi Addysg yn parhau i ddatblygu a gwnaed cais i’r cytundeb redeg am flwyddyn arall.

 

Gan fod gor-gyffwrdd rhwng gwaith yr Uned Gefnogi Addysg â’r hyn a gynhwysir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cyflogau, Personél a Chyfreithiol, gwnaed cais i’r cytundeb hwnnw redeg am flwyddyn arall yn ogystal.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y cytundebau Uned Gefnogi Addysg a Chyflogau, Personél a Chyfreithiol yn rhedeg am flwyddyn arall.

 

12.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Cofnod:

Dyddiad i’w drefnu yn ystod mis Chwefror / Mawrth.