Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU I ddderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr
Corfforaethol), Menna Wynne Pugh (Ysgol Penybryn, Tywyn), Gwyn Howells
(Ysgol y Gelli). |
|||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015. (Copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm
Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O’R COFNODION Eitem 5 (ii) – Nifer swyddi a gollwyd fel rhan o’r broses toriadau. Cofnod: Eitem 5 (iii) – Gweithgor Cyllid Addysg – Nifer o swyddi a gollwyd yn sgil
effaith toriadau (a) Mewn
ymateb i gais o gyfarfod diwethaf y Fforwm i gyflwyno ffigyrau manylach o’r nifer swyddi
a gollwyd fel rhan o’r broses toriadau, nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Adnoddau Addysg
bod 25.4 (fte) o swyddi athrawon llawn amser wedi eu
colli, 8.04 (fte) cymhorthyddion a 2.16 (fte) staff
ategol. Amlinellodd y nifer o unigolion a effeithiwyd fel a ganlyn: Athrawon:
Cymhorthyddion, staff ategol, a.y.b.:
(b) Mewn
ymateb i’r wybodaeth a gyflwynwyd uchod, cwestiynwyd a oedd y ffigyrau yn gywir oherwydd
ymddengys bod yr effaith yn llawer
iawn mwy i rai ysgolion uwchradd gydag esiampl o un ysgol yn colli
7 unigolyn. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r wybodaeth a gofyn i’r Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gyflwyno ffigyrau yn flynyddol
i’r Fforwm Cyllideb Ysgolion. |
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD ADOLYGIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD I dderbyn adroddiad
llafar gan yr Uwch Reolwr
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad. ·
Er gwybodaeth
– linc i adroddiad gerbron Cabinet 19 Ionawr 2016 “Newidiadau yn y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanaegol a Chynhwysiant” https://democratiaeth.cyngor.gwynedd.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=133&MId=1569&Ver=4&LLL=1 Cofnod: Ymddiheurwyd nad oedd yr Uwch Reolwr
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn gallu bod yn
bresennol ond fe adroddwyd ar
ei ran gan yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Adnoddau Addysg fel a ganlyn: ·
Cyflwynwyd adroddiad
i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar
19 Ionawr 2016 er cymeradwyaeth i Strategaeth
Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad. Yn deillio o’r cyfarfod
cytunwyd i: ·
Barhau i gynnal
trafodaethau gyda Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn
ymchwilio’r cyfle i lunio strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gyffredin a fydd yn cyfarch
anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc
mewn modd effeithiol ac effeithlon ·
Roddi cymeradwyaeth
i’r strategaeth gan gymryd sylw
o’r uchod ·
Roddi cymeradwyaeth
i’r Achos Busnes – sef buddsoddiad
unwaith ac am byth o hyd at £1,380,131 er mwyn dangos arbediad
blynyddol parhaol o leiaf £808,461 Nodwyd y byddir yn llunio’r
gwasanaeth integredig anghenion dysgu ychwanegol mewn dau brif gam: (1) Ail-strwythuro a sefydlu’r
Tîm Integredig i gynnwys Seicolegwyr Addysg ac Athrawon Arbenigol erbyn Medi 2016 (2) Erbyn Medi 2017 cynnwys y cymhorthyddion, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol fel rhan o’r
gweithlu canolog Pwysleisiwyd y byddir yn parhau i ymgynghori ar y modelau gwahanol. (b) Mewn
ymateb i’r uchod, datganodd sawl Pennaeth bryder fel a ganlyn: ·
Tra’n croesawu'r
adolygiad, bod angen ystyried y sefyllfa gyllidol yn drwyadl
a bod angen eglurder ynglŷn á’r lleihad yng nghyllideb
datganiad 3* i’r 81 ysgol sydd heb
ddatganoli cyllid. ·
Bod y toriad yn un sylweddol
a all gael effaith aruthrol ar ysgolion
yn enwedig y sector uwchradd ·
Bod llawer iawn llai
o anfodlonrwydd ymysg rhieni pan fo’r arian wedi ei
ddatganoli i ysgolion ·
Beth fydd yn digwydd
i’r cymhorthyddion os yw’r arian
yn cael ei
drosglwyddo a’i ddefnyddio yn hyblyg ·
O ba
ffynhonnell y daw arian ar gyfer
diswyddo ·
Tra’n derbyn
y byddai creu gweithlu o bwll canolog yn arwain
at leihau elfen o fiwrocratiaeth i ariannu sustem ond pryderwyd
a fydd y ddarpariaeth cystal â’r hyn
sydd eisoes yn yr ysgolion ·
Y dylid
cyfaddawdu ond heb dynnu arian
o gyllidebau ysgolion (c) Ymatebodd
y Pennaeth Addysg i’r pryderon
uchod gan nodi: ·
y
byddai trafodaethau yn digwydd ynglŷn
a’r gyllideb a’r bwriad ydoedd
i ysgolion fod yn hunan gynhaliol ·
atgoffwyd y Fforwm bod y gyllideb dan sylw yn
un sydd wedi bod yn gorwario yn
y gorffennol ·
tra’n cytuno
bod gan ysgolion fwy o hyblygrwydd ac y byddir yn lleihau
elfen o fiwrocratiaeth, pwysleisiwyd y byddai’r Tîm canolog yn
darparu a chefnogi arbenigedd i bwrpas ·
y byddir
yn croesawu trafodaeth bellach yn y Fforwm hwn
i wyntyllu goblygiadau ariannol yn dilyn
ymgynghoriad a thrafodaeth agored gyda’r budd-ddeiliaid Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|||||||||||||||||||||||||
YMESTYN CYTUNDEB LEFEL GWASANAETH - CYNNAL A CHADW ADEILADAU I dderbyn adroddiad
llafar gan yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Adnoddau Addysg Cofnod: Gwnaed cais gan yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg i ymestyn Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cynnal a Chadw Adeiladu am flwyddyn o dan amodau’r cytundeb bresennol er mwyn
gallu cyflwyno ystod o gytundebau o’r newydd y flwyddyn
nesaf. Penderfynwyd: Cymeradwyo’r
cais uchod. |
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD AM GYLLIDEB 2016/17 I dderbyn adroddiad llafar gan y Pennaeth Cyllid. . Cofnod: (a) Cyflwynwyd diweddariad llafar gan y Pennaeth Cyllid ynglyn a chyllideb 2016/17 gan nodi dros y cyfnod pedair blynedd
o Ebrill 2014 i Fawrth
2018, cynlluniwyd ar y
sail: ·
Byddai grant
gan Lywodraeth Cymru i’r Cyngor yn gostwng £21m, a · Byddai chwyddiant a chynnydd mewn galw am wasanaethau yn ychwanegu £29m at gostau, gan greu · Bwlch ariannol o £50m sydd
raid ei ddarganfod. Dros yr un cyfnod pedair
blynedd (2014 - 2018), cynlluniwyd
cynnydd Treth
Cyngor o 3.5% y flwyddyn (’ychydig
uwch yn 2015/16) sy’n golygu lleihad
£9m ar y bwlch, gan adael £41m i’w ddarganfod. Adnabuwyd gwerth £26m o arbedion effeithlonrwydd sy’n cael ei gweithredu,
gyda rhai adrannau canolog y Cyngor yn wynebu cwtogiad
30%. Yn rhan o’r “arbedion
effeithlonrwydd” £26m, mae’r
£4.3m ysgolion. Wrth gwrs, gellid dadlau’r
ffin lwyd rhwng “arbedion effeithlonrwydd” a “toriadau”,
ond yn y strategaeth mae’r £4.3m ysgolion yn “arbedion
effeithlonrwydd”. Yn ogystal â’r “arbedion
effeithlonrwydd” o £26m, cynllunnir
i gyflawni £8m pellach o arbedion effeithlonrwydd, heb ofyn am fwy
gan ysgolion yn y cyfnod pedair
blynedd hyd at 2018. Yn anffodus, ni fydd
hyn yn ddigon
i gyfarch y bwlch o £41m. Gyda’r bwlch sydd ar
ôl, adnabuwyd byddai angen i’r
Cyngor wireddu £7m o doriadau,
sef testun ymgynghoriad Her Gwynedd. Yn dilyn setliad grant amodol i lywodraeth leol, a gwaith pellach ar anghenion
gwario 2016/17, edrychir am
doriadau o tua £5m dros y ddwy flynedd
nesaf, yn hytrach na’r £7m y cynlluniwyd ar ei gyfer. Bydd hyn ddim yn
golygu osgoi unrhyw ran o’r £34m o “arbedion effeithlonrwydd”. Felly, bydd dim newid i’r cyfraniad
£4.3m gan yr ysgolion. Esboniwyd bod setliad amodol 2016/17 llywodraeth leol yn dangos lleihad
o 1.4% ar gyfartaledd i awdurdodau Cymru, gyda lleihad 1.7% i Wynedd, sydd yn
agos at be roedd Gwynedd wedi darogan, sef
lleihad o 2%. Ynglŷn â diogelu rhywfaint ar gyllidebau ysgolion,
nodwyd bod amodau ynghlwm i’r ymarfer
cyfrifo, sy’n cynnwys - •
effaith ariannol unrhyw gynnydd neu leihad yn
y nifer disgyblion, •
cynnydd neu leihad yn y datganoli, •
cyfraniad £2m yn 2016/17 o’r £4.3m o arbedion effeithlonrwydd, •
trosglwyddiadau grant penodol i’r setliad,
a •
cost
benthyg ar gyfer buddsoddi mewn eiddo ysgolion
(yn gysylltiedig â’r rhaglen ysgolion
unfed ganrif ar hugain, a threfniadaeth ysgolion). Wrth gwrs, bydd y Cyngor hefyd, fel arfer,
yn darparu cyllideb ychwanegol ar gyfer – •
cytundebau tâl,
•
isafswm cyflog byw, •
y
cynnydd yng nghost cyfraniadau pensiwn athrawon, •
y
cynnydd sylweddol yng nghost yswiriant
gwladol, ayb. (b) Mewn
ymateb i sylwadau wnaed, nododd y Pennaeth Addysg y
pwyntiau canlynol: · ni fyddai’n ofynnol i ysgolion gyfrannu tuag at y toriadau o £5m rhwng rŵan a 2018 ac mai £4.3m fyddai cyfraniad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||||||||
GRANT GWELLA ADDYSG 2016/17 I dderbyn adroddiad gan y Rheolwr Cyllid. Cofnod: Adroddodd y Rheolwr Cyllid yn anffodus ni
dderbyniwyd gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru hyd yma. Mynegodd y
Pennaeth Addysg bod anghyfartaledd o safbwynt cyllid yn enwedig i’r
awdurdodau gwledig sydd yn colli
arian ar y dyraniadau grantiau o’i gymharu ag awdurdodau trefol ac yn arbennig gan
bod tri chwarter yr ysgolion yn rhan
o brosiect Her Cymru. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|||||||||||||||||||||||||
GRANT 6ed 2016/17 I dderbyn adroddiad llafar gan y Rheolwr Cyllid. Cofnod: Adroddodd y Rheolwr Cyllid, ni dderbyniwyd gwybodaeth pellach gan Llywodraeth Cymru ers cyfarfod
a gafwyd gyda swyddogion Ll.C. a rhai Penaethiaid 6ed nol yn Nhachwedd
2015. Fodd bynnag, gan ddefnyddio’r
wybodaeth a gafwyd yn y cyfarfod bwriedir rhyddhau rhagolygon 2016/17 i
2018/19 yn fuan. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |