skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Heol yr Eglwys, Tremadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cyng. Peredur Jenkins (Aelod Cabinet Adnoddau), Peter Read (Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau), Bethan Lawton (Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau), Gwynne Pierce (Cynrychiolydd Llywodraethwyr Cynradd), Llinos Lloyd (Cynrychiolydd Corff Cysgodol Dalgylch y Gader), Cyng. Michael Sol Owen (Cynrychiolydd Llywodraethwyr Uwchradd), Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

2.

Datgan Buddiant Personol

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar  30 Mehefin 2015..

 

(Copi ynghlwm)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 26 Chwefror 2015 fel rhai cywir.

 

4.

Materion yn codi o'r cofnodion

i)              7b) Cais Fforwm Undebau Athrawon am gynrychiolaeth ar y Gweithgor Cyllid Addysg

ii)             7) Cynrychiolydd GYDCA ar y Fforwm Cylldieb Ysgolion

a 12) Cynrychiolwyr Llywodraethwyr ar y Fforwm Cyllideb Ysgolion

Cofnod:

(a)    Eitem 6 – Hyfforddiant Cyllidol i Ysgolion

Ymddiheurodd y Rheolwr Uned Cyllid nad oedd yr hyfforddiant uchod wedi ei drefnu ond byddir yn ei drefnu yn fuan yn y Flwyddyn Newydd ac a fydd o ddiddordeb i Benaethiaid Ysgolion yn ogystal â Llywodraethwyr.

 

Penderfynwyd:     Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)          Eitem 7 – Cais gan Fforwm Undebau Athrawon am gynrychiolaeth ar y Gweithgor Cyllid Addysg

 

Penderfynwyd:      Gwahodd un cynrychiolydd i gynrychioli’r Undebau Athrawon ar y Gweithgor Cyllid Addysg.

 

(c)          Eitem 12 - Ymddiswyddiad

 

Adroddwyd bod yr unigolion canlynol wedi eu henwebu i wasanaethu ar y Fforwm Cyllideb Ysgolion ac fe groesawyd y rhai oedd yn bresennol ac yn mynychu eu cyfarfod cyntaf o’r Fforwm:

 

(i)            Mr Geraint Evans, Pennaeth Ysgol Edern, i olynu Mrs Sianelen Pleming, Pennaeth Ysgol Llanaelhaearn yn dilyn ei hymddeoliad

(ii)          Mr Dafydd Meirion Roberts, Cynrychiolydd Llywodraethwyr Uwchradd Arfon,

(iii)         Mr Gwilym Jones, Cynrychiolydd Llywodraethwyr Cynradd ardal Dwyfor

(iv)          Y Cyng. Michael Sol Owen, Cynrychiolydd Llywodraethwyr Uwchradd ardal Dwyfor

(v)       Mrs Llinos Lloyd, cynrychiolydd Corff Cysgodol Dalgylch y Gader

5.

Gweithgor Cyllid Addysg - materion o gyfarfod 17 Medi 2015

i)              Trefniadaeth Ysgolion (adroddiad ar lafar)

ii)             Balansau ysgolion / rhwyd diogelu ysgolion (gweler eitem 6)

iii)            Effaith toriadau ar nifer swyddi(adroddiad ar lafar)

iv)           Ffordd Gwynedd

v)            £4.3m (gweler eitem 8)

Cofnod:

(i) Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg at sylw a wnaed yng nghyfarfod o’r Gweithgor uchod ynlyn a  fyddai modd cynnwys arbedion yn deillio o drefniadaeth ysgolion fel rhan o’r targed arbediad o £4.3m. 

 

Adroddodd y Pennaeth Addysg y byddir yn ceisio canfod arbedion fel rhan o broses ymgynghoriad Her Gwynedd.  Yng nghyd-destun Her Gwynedd, cynhaliwyd nifer o sioeau teithiol gyda nifer wedi mynychu a bod y cyfarfodydd yn gymysg o ran ansawdd y drafodaeth.  Nodwyd bod nifer o’r holiaduron wedi eu cwblhau ar ffurf llyfryn papur yn ogystal ag ar lein.  Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddiwedd y mis gyda’r bwriad wedyn o  gynnal broses o raddio’r blaenoriaethau gydag adroddiad cynhwysfawr yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ionawr a’r Cyngor llawn ar 3 Mawrth 2016 am benderfyniad terfynol.  

 

Nodwyd ymhellach bod yr amserlen yn un tynn ond rhaid ceisio dod i farn ar y targed arbediad o £4.3m yn fuan. 

 

Nododd y Pennaeth Cyllid nad fyddai’n wybyddus o’r setliad i Gymru tan 10 Rhagfyr 2015.

 

Mewn ymateb i sylw wnaed bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn amddiffyn addysg yn y gorffennol, nodwyd nad oedd datganiad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.  O safbwynt amddiffyn addysg, wrth ragdybio a chynllunio ymrwymiadau newydd, pwysleiswyd y dylid parhau i ganfod y targed o £4.3m. 

 

Cydnabuwyd gan yr ysgolion, bod y Cyngor yn dryloyw a’u bod yn gwerthfawrogi hyn.      

 

Penderfynwyd:      Nodi’r uchod.

 

(ii)  Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg ar y nifer o swyddi a gollwyd yn sgil effaith y toriadau fel a ganlyn:

 

Swyddi Athrawon                       25.4  (llawn amser)

Cymorthyddion                            8.04

Staff Ategol                                  2.16

 

(ii)   Mewn ymateb i’r uchod, nododd Pennaeth bod oddeutu 50 o swyddi wedi eu colli o’r sector uwchradd yn unig.  Nodwyd ymhellach bod ffigyrau yn cuddio be yw gwir effaith ar ysgolion boed hyn yn swyddi llawn a / neu rhan amser ac awgrymwyd y dylid cyflwyno ffigyrau manylach.

 

Penderfynwyd:     Gofyn i’r Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gyflwyno ffigyrau manylach o’r nifer swyddi a gollwyd fel rhan o’r broses toriadau.

 

6.

Polisi arfaethedig Dyraiad Gwarchodaeth Ychwanegol pdf eicon PDF 21 KB

6.1 Papurau’r ymgynghoriad

6.2 Crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg ynghylch polisi arfaethedig dyraniad gwarchodaeth ychwanegol i ysgolion.

 

Tywyswyd y Fforwm drwy’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi y cynhaliwyd ymgynghoriad llawn gyda holl ysgolion y Sir ar bolisi arfaethedig gwarchodaeth lleiafswm staffio ychwanegol i leihau’r dyraniad ychwanegol gwarchodaeth lleiafswm gyda swm cyfatebol i’r elfen balansau dros 5% ar ddiwedd y flwyddyn gyllidol ddiweddaraf gafodd ei gyhoeddi.

 

Cyfeiriwyd at ganlyniadau’r ymgynghoriad gan nodi y derbyniwyd ymateb gan 45 ysgol allan o 109.  Nodwyd ymhellach bod 36 (80%) o blaid y cynnig a 9 (20%) ysgol yn erbyn.  O ganlyniad felly roedd arwydd clir bod yr ysgolion a ymatebwyd yn cefnogi’r polisi a phwysleiswyd bod modd i ysgolion drafod gyda’r awdurdod unrhyw bryderon a amlygir ganddynt.

 

Tynnwyd sylw pe byddir yn derbyn y polisi, gan fod rhan o’r cynlluniau arbedion £4.3m yn disgyn tu allan i’r cyfnod 3 mlynedd 2015/16 i 2017/18, defnyddir yr arbedion unwaith ac am byth i gyfrannu at ariannu’r cyfnod pontio angenrheidiol.    

 

Penderfynwyd:       Cymeradwyo’r addasiad i’r polisi dyrannu gwarchodaeth ychwanegol i ysgolion i gynnwys cymal i leihau’r dyraniad gwarchodaeth yn gyfatebol i’r elfen balansau sydd dros 5%, gan ddefnyddio’r swm balansau ar ddiwedd y flwyddyn gyllidol ddiweddaraf gafodd ei gyhoeddi.

 

7.

Diweddariad ar yr Adolygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Adroddiad ar lafar

Cofnod:

Penderfynwyd:   Gohirio’r eitem uchod.

8.

Targed Arbedion Ysgolion - £4.3m pdf eicon PDF 19 KB

8.1       Crynodeb £4.3m

8.2       Gwariant cynharol addysg 2015-16

8.3       Crynodeb gwario PTR ac effaith ar warchodaeth

8.4       Modelu gwanioPTR cynradd

8.5       Modelu gwanio PTR ysgolion cynradd unigol

8.6       Modelu gwanio PTR mewn ysgolion uwchradd unigol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn amlinellu opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion o £3,348,000.

 

(a)  Mynegodd y Cadeirydd wrth y Fforwm, tra’n derbyn bod ysgolion yn colli arian drwy grantiau, effaith demograffi, a.y.b., ei bod yn ofynnol dod i benderfyniad pendant o ystyried  bod Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor eisoes wedi cytuno ar eu targedau. 

(b)  Bu i’r Pennaeth Addysg grynhoi y dadleuon a fu yn flaenorol a bod yr adroddiad gerbron yn cymryd i ystyriaeth cyd-detun Her Gwynedd, y drafodaeth a’r opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion rhwng y sector  cynradd a’r uwchradd, adborth Estyn ac ystadegau cymharol cenedlaethol.   Atgoffwyd bod y Cabinet yn y gorffennol wedi gwarchod buddiannau addysg a bod yr awdurddod yn hynod o dryloyw ac yn hollol agored gyda chynnwys yr opsiynau o fewn yr adroddiad.  Rhaid cofio bod yr adran yn cael ei herio yn gorfforaethol. 

(c)  Diolchwyd i’r Gweithgor Cyllid Addysg am benderfynu ar gynlluniau cytunedig yn y swm o £1,028,000 gyda gweddill yr arbedion o £2,320,00 i’w ddarganfod. 

(d)  Bod yr argymhelliad gerbron o ffafrio Opsiwn C yn seiliedig ar ddadleuon addysgol ac nad oedd opsiynau A a CH o dan ystyriaeth.

(e)  Mewn ymateb i sylw wnaed ynglyn a chynlluniau tymor hir trefniadaeth ysgolion, esboniwyd mai cyfarwyddyd y Cabinet ydoedd targed arbedion o £4.3m i ysgolion ac nad oedd i unrhyw arbediad yn seiliedig o drefniadaeth ysgolion i’w gynnwys o fewn y £4.3m.  Pwysleiswyd nad oedd yr is-adeiladedd yn gynaliadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael.  

(f)   Yn ystod y drafodaeth ynglyn â gwireddu gweddill y targed arbedion, amlygwyd y sylwadau isod:

  • Ei bod yn anodd iawn i ystyried y mater ac nad oedd boddhad i ‘run o’r ddwy sector (cynradd ac uwchradd) o orfod gwireddu toriadau
  • Bod consensws barn y dylid ail-gylchu unrhyw arbediad yn deillio o drefniadaeth ysgolion ar gyfer y gymhareb disgybl:athro (PTR)
  • Bod cyd-destun y drafodaeth yn gosod y cynradd yn erbyn yr uwchradd, ac o’r farn bod  gan y Gweithgor Cyllid Addysg waith pellach i’w gyflawni
  • Teimlwyd y byddai derbyn argymhelliad opsiwn C yn dangos tuedd trwm o blaid y sector uwchradd a hynny ar draul y cynradd ac felly yn erbyn pob egwyddor a rhesymeg addysgol o fuddsoddi mor fuan a phosibl yng ngyrfa plentyn mewn Ysgol.  Golyga gweithredu opsiwn C doriad o £300,000 i’r sector uwchradd gyda’r cynradd yn wynebu toriad o £2m. 
  • Derbyniwyd eglurhad o effaith toriad opsiwn C ar ysgolion mawr, canolig a bach ac ni dderbynia y sector cynradd bod unrhyw resymeg teilwng dros weithredu toriad opsiwn C.
  • Teimlwyd bod defnyddio effaith demograffi ar y sector uwchradd fel rhesymeg tu cefn i argymhelliad opsiwn C ar y cynradd yn ddadl gwbl anheilwng.  Nodwyd bod y cynradd eisoes yn wynebu’r broblem yma, ac felly yn cael eu cosbi eilwaith drwy gymryd o’u cyllidebau er mwyn lleihau’r effaith ar yr uwchradd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Newid Cytundeb Lefel Gwasanaeth - Gwasanaeth Clercio Llywodraethol pdf eicon PDF 62 KB

9.1       Cytundeb Lefel Gwasanaeth – Gwasanaeth Clerigol i Gyrff Llywodraethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd newidiadau i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth Clercio Llywodraethol.

 

Tywyswyd y Fforwm drwy’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi nad oedd cydnabyddiaeth ddigonol i’r amser a gymerir i wneud y gwaith clercio yn gyflawn ac i safon.  Ymgynghorwyd gyda Swyddogion Gweinyddol Ysgolion Uwchradd yr Awdurdod a chlercod ysgolion er mwyn canfod cyfartaledd oriau a gymeririr i gwblhau’r cyfrifoldebau ynghyd a’r angen rhoi elfen o wasanaeth cynghori i gyrff Llywodraethol. 

 

Gofynnwyd i’r Fforwm gymeradwyo’r newid yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a chytuno ar y pris fel a ganlyn:

 

£1500  Ysgolion Cynradd

£2500   Ysgolion Uwchradd

 

Derbyniwyd ymholiadau / sylwadau gan Aelodau’r Fforwm ac fe ymatebodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg iddynt fel a ganlyn:

 

  • Nid oedd sicrwydd faint o ysgolion sy’n defnyddio’r gwasaneath gan bod y Swyddogion Gweinyddol yn ymdrin a’r gwaith yn mwyafrif o’r ysgolion
  • Bod gan yr awdurdod restr o unigolion sydd yn barod i wneud y gwaith ond ceir trafferth mewn rhai ardaloedd i gael Clercod
  • Bod y ffigwr yn seiliedig ar £15 yr awr am bob awr ychwanegol
  • Nad oedd gorfodaeth ar ysgolion i ymrwymo i’r CLG ac y gallent barhau gyda’u trefniadau presennol pe dymunent.  
  • Bod rhai ysgolion yn methu cael gwasaneth Clerc ac yn hyn o beth y byddai’r trefniadau uchod ar gael iddynt
  • Nad oedd adnabyddiaeth bod unrhyw bryder ynglyn ag ansawdd y cofnodion

 

Cynigwyd, eilwyd a phleidleiswyd i gymeradwyo’r newid yn y CLG.

 

Penderfynwyd:       Cymeradwyo i’r newid yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a chaniatáu’r pris fel a ganlyn:

 

£1500     Ysgolion Cynradd

£2500     Ysgolion Uwchradd