Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Heol yr Eglwys, Tremadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Fforwm ar gyfer 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2015/16.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Fforwm ar gyfer 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Gareth Thomas yn Is-gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2015/16/

 

Deallwyd bod amser cychwyn y cyfarfod yn anghywir yn nyddiadur y Cadeirydd felly yn ei absenoldeb o ran helaeth o’r cyfarfod bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cyfarfod.  

 

3.

CROESO

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Croesawyd Dylan Minnice, Pennaeth Ysgol Botwnnog, i’w gyfarfod cyntaf o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion yn dilyn ei benodiad fel olynydd i Gareth T M Jones.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 255 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod diwethaf y Fforwm a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2015.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2015 fel rhai cywir.

 

6.

MATERION YN CODI O'R COFNODION:

·         3 (a)  Hyfforddiant Cyllidol i Ysgolion

Ø  13 Hydref 2015

Ø  14 Hydref 2015

Ø  15 Hydref 2015

Amser a lleoliad i’w gadarnhau

Cofnod:

Eitem 3 (a) – Hyfforddiant Cyllidol i ysgolion

 

Adroddwyd bod y dyddiadau isod wedi eu pennu ar gyfer cynnal hyfforddiant cyllidol i ysgolion gyda’r amser a lleoliadau i’w cadarnhau maes o law:

 

            13 Hydref 2015

            14 Hydref 2015

            15 Hydref 2015

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.   

 

 

7.

GWEITHGOR CYLLID ADDYSG pdf eicon PDF 510 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

 

(Copi ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn gofyn i’r Fforwm gadarnhau parhad o’r Gweithgor Cyllid Addysg er mwyn cynnal trafodaeth yn unol â phenderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2015 sef:

 

(a) Derbyn cynigion y Fforwm Cyllido Addysg ar gyfer cyflawni £952,000 o arbedion o’r gyllideb ysoglion yn 2015/16 a chadw o fewn yr addewid cyllido ysgolion, gan ddefnyddio “Model B” ar gyfer cwtogi £60,131 o ddyraniad staff dysgu’r sector gynradd, a chwtogi £25,771 o ddyraniad staff dysgu’r sector uwchradd.

 

(b) Gofyn i’r Fforwm Cyllido Ysgolion barhau i adolygu gwasanaethau a threfniadaeth addysg er mwyn canfod gweddill y targed arbedion uwchben y £952,000 ar gyfer 2015/16, gan ddisgwyl eu hargymhelliad ynglyn â sut y gellir gwireddu’r £4.3m cyfan dros y cyfnod 2015/16 – 2018/19

 

(c) Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg annog cyrff llywodraethol ysgolion unigol i ystyried sut y gallant ddefnyddio balansau eu hysgolion fel rhan o becyn i gyfarch eu bwlch ariannol mewn ffordd gynlluniedig.

 

Cyfeiriwyd at y daenlen oedd ynghlwm i’r adroddiad yn crynhoi yr hyn drafodwyd gan y Gweithgor hyd yma.

 

O safbwynt toriadau gosodwyd targed o £4.3m er mwyn ceisio cael y Gwasanaeth Addysg i uchafu’r arbedion effeithlonrwydd y byddai modd eu gwasgu allan o’r gyfundrefn addysg cyn symud ymlaen i doriadau. Pwysleiswyd bod y ffin rhwng arbedion effeithlonrwydd a thoriadau yn un anodd i’w ddiffinio ym maes addysg.

 

Gofynnwyd i’r Fforwm gadarnhau aelodaeth y Gweithgor ac fe’u hatgoffwyd o’r aelodau ymysg Penaethiaid y sector uwchradd a’r cynradd:

 

Neil Foden, Alun Llwyd, Eifion Jones a Dewi Lake (Uwchradd)

Owain Lemin Roberts, Ifan Llyr Rees, Geraint Evans a Sianelen Pleming (Cynradd)

 

Awgrymwyd i’r GYDCA drafod enwebiad i olynu Sianelen Pleming ar y Gweithgor yn sgil ei bwriad i ymddeol.

 

Adroddodd y Pennaeth Addysg mai’r her ydoedd bod yn fwy effeithlon tra’n gweithio tuag at yr arbedion o £4.3m.  Roedd canran toriadau y gwasanaeth oddeutu  6 / 7% o’i gymharu â rhai gwasanaethau a oedd yn chwilio am oddeutu 30%.  Byddai’n ofynnol i’r Gweithgor gynnal trafodaethau anodd iawn gan ystyried egwyddorion sylfaenol gan gyfarch y ddarpariaeth orau i blant a phobl ifanc.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Addysg bod Cabinet y Cyngor yn cynnal cyfres o weithdai gyda holl Aelodau’r Cyngor i drafod proses yr arbedion a bod y Gwasanaeth Addysg o dan ystyriaeth ar 6 Gorffennaf 2015. Ar derfyn y broses bwriedir, er tryloywder, ymgynghori gyda thrigolion Gwynedd ym mis Medi / Hydref ynglyn â gweithrediad y toriadau posibl.   

 

Awgrymodd Bennaeth y byddai’n rhaid i’r Gweithgor edrych ar y darlun yn ei gyfanrwydd ac oni fyddai’n well ei enwiGweithgor Rhesymoli Addysg ac Ysgolion”.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

                                    (b)       Cadarnhau Aelodaeth y Gweithgor Cyllid

Addysg fel a ganlyn:

 

Cadeirydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion   (Mr Godfrey Northam)

Aelod Cabinet Addysg                               (Y Cyng. Gareth Thomas)     

4 Pennaeth Cynradd             (Owain Lemin Roberts, Ifan Llyr Rees,

Geraint Evans ac un enwebiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 2014/15 pdf eicon PDF 215 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

 

(Copi ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd fanylion balansau ysgolion ar 31 Mawrth 2015 a oedd yn amlinellu bod y balansau wedi gostwng £281,267 yn ystod 2014/15 i £3,495,580, sy’n cyfateb i 4.89% o’u dyraniad terfynol.

 

Nodwyd bod gan 15 ysgol ddiffyg ariannol ar ddiwedd 2014/15 gwerth £327,873 i gymharu gyda 7 ar ddiwedd 2013/14 gwerth £116,313.

·         9 ysgol gynradd gyda chyfanswm diffyg £111,677 (amrywio rhwng £780 a £52,579)

·         5 ysgol uwchradd gyda chyfanswm diffyg £190,742 (amrywio rhwng £17,943 a £94,128)

·         1 ysgol arbennig gyda diffyg £25,454

 

Gwelir lleihad sylweddol ym malansau ysgolion uwchradd ond cynnydd ym malansau ysgolion cynradd.

 

Atgoffwyd yr Aelodau am y drefn gweithredu cyfarwyddo defnydd balansau a chyfeiriwyd at yr atodiad oedd ynghlwm i’r adroddiad yn amlygu’r symiau ariannol sydd dros y trothwyon.  Nodwyd bod 18 ysgol gynradd dros y trothwy  £50,000 a 4 ysgol uwchradd dros y trothwy £100,000.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod balansau uchel ysgolion yn creu loes iddo yn enwedig wrth geisio amddiffyn cyllideb ysgolion a’r hinsawdd o doriadau sydd ohoni.  Pwysleiswyd yr angen i weithredu’r cynllun cyfarwyddo defnydd balansau ac i ysgolion gyflwyno rhesymeg dros gadw’r balansau dros y trothwyon. 

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo:

 

(a)  I’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid gydweithio yn agos gyda’r ysgolion gyda diffyg ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynteg â phosibl

(b)  I’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid adolygu trefniadau presennol monitro cyllidebau ysgolion

(c)  Wrth drafod balansau, rhaid ystyried yr her ar ysgolion i ddarganfod arbedion ariannol sylwedol yn y blynyddoedd gyllidol 2016/17, 2017/18 a thu hwnt.  Dylid hefyd fod yn ymwybodol am effaith ariannol rhagolwg lleihad pellach yn nifer disgyblion ysgolion uwchradd o dros £800,000 rhwng 2016/17 a 2017/18.

 

9.

GRANT GWELLA ADDYSG pdf eicon PDF 221 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

 

(Copi ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Addysg ynghylch

y grant “newyddsy’n uno 11 grant blaenorol gan weithredu toriad o 10% yr un pryd.

 

Cyfeiriwyd at y manylion ariannol a olygir cyfanswm cyllid Grant Gwella Addysg i Wynedd yn £6,308,073. Gwelwyd ynghlwm i’r adroddiad ddadansoddiad o ddyraniad ysgolion unigol yn seiliedig ar:

GGA Cyfnod Sylfaen (fformiwla penodol yn bennaf ar sail disgyblion cyfnod Sylfaen)

GGA Rhwydwaith 14-19 (yn bennaf ar sail cyrsiau penodol a ddarperir)

GGA Eraill (80% nifer disgyblion 20%, cinio am ddim)

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod GwE wedi anfon templed i ysgolion ar gyfer rhestru ystod o bwrpasau’r grant gan ofyn iddynt ei gwblhau fel rhan o’u trefn cynllunio ar gyfer gwella’r Ysgol.

 

Nododd Bennaeth werthfawrogiad i’r Uned Gyllid am eu gwaith yn nhrefniadau’r uchod a gofynnwyd a fydd y maes yn rhan o drafodaethau y Gweithgor.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg ni ellir rhagweld beth fydd maint y gyllideb Ebrill nesaf a pha elfennau fydd i’w cadw’n ganolog.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

10.

RHWYDWAITH CYFRIFIADUROL YSGOLION pdf eicon PDF 337 KB

I ystyried adroddiad gan yr Uwch Reolwr TG a Thrawsnewid.

 

(Copi ynghlwm)

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth yn diweddaru’r Aelodau ynglyn â’r grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer:

 

·         Rhoi darpariaeth di-wifr gynhwysfawr yn y mannau dysgu

·         Safoni ar gyflymder i’r rhyngrwyd ar 10mbps (ysgolion cynradd ac arbennig) / 100mbps (ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd > 300 o ddisgyblion)

·         Darpariaeth yn cael ei gyflwyno ar ffeibr ar gyfer ehangu’n y dyfodol i 100mbps a 1000mbps

·         Pob cyswllt yn cael ei wneud yn ran o rwydwaith ehangach y sector gyhoeddus (PSBA)

 

gyda’r bwriad y bydd pob cyswllt wedi eu cytundebu tan ddiwedd Mawrth 2017.

 

Nodwyd bod 5 ysgol cynradd yn parhau i ddisgwyl am y ddarpariaeth newydd oherwydd bod y rhaglen wedi llithro a’r tebygolrwydd y gall barhau i lithro.

 

Cyfeiriwyd at ddatblygiadau pellach mewn darpariaeth sustem fôn newydd i swyddfeydd y Cyngor a fydd hefyd ar gael i ysgolion a olygai cyfleon am arbedion yn y biliau ffôn.  

 

Nodwyd bod y ddarpariaeth di-wifr yn cael ei hymledu i swyddfeydd a chanolfannau eraill y Cyngor, megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, archifdai ac amgueddfeydd, sy’n golygu y gall disgyblion ac athrawon barhau gyda gwaith cwricwlwm yn y mannau hyn.  

 

Penderfynwyd:                      Cymeradwyo:

 

(i)            Bod y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma yn cynnig gwelliant sylweddol i’r isadeiledd technoleg gwybodaeth sy’n cefnogi dysgu yn yr ysgolion

(ii)          I ymrwymo i ddefnyddio’r ddarpariaeth newydd ac adolygu’r ddarpariaeth cyn diwedd y cyfnod cytundebol ym Mawrth 2017.

 

 

11.

PENNU DYDDIADAU AR GYFER CYFARFODYDD

·         ?   November 2015

·         ?   February 2016 (before 16 February 2016)

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Pennu’r dyddiadau isod ar gyfer cyfarfodydd nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion:

  

18 Tachwedd 2015                (9.30 a.m.)

10 Chwefror 2016                  (9.30 a.m.)

 

 

12.

YMDDISWYDDIAD

Cofnod:

 

Nododd Mr Godfrey Northam ddymuniad Mr Walter Williams, cynrychiolydd Llywodraethwyr Uwchradd Ardal Arfon, i ymddiswyddo fel aelod o’r Fforwm Cyllideb oherwydd ymrwymiadau eraill.

 

Trafodwyd ymhellach diffyg presenoldeb rhai o’r Llywodraethwyr sy’n gwasanaethu ar y Fforwm ac awgrymwyd gwneud ymholiadau yng Nghymdeithas Llywodraethwyr Gwynedd ynglyn â’u dymuniad i barhau i wasanaethu ar y Fforwm. 

 

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau a Chraffu gysylltu â’r Adran Addysg ar gyfer gwneud trefniadau i Gymdeithas Llywodraethwyr Gwynedd:

(i)            enwebu olynydd i Mr Walter Williams

(ii)          ganfod dymuniad y Llywodraethwyr eraill ynglyn â pharhad i wasanaethu ar y Fforwm.