Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Eglwys y Santes Fair Tremadog - SDO. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Fforwm ar gyfer 2017/18.

Cofnod:

Penderfynwyd:           Ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn 2017/18.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Fforwm ar gyfer 2017/18.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Gareth Thomas yn Is-gadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cyng. Peredur Jenkins (Aelod Cabinet – Adnoddau), Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol), Kerry Parry (Ysgol y Ganllwyd), Rhys Williams (Ysgol Cymerau),Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr Ysgol Tregarth a Bodfeurig), Neil Foden (Undebau Athrawon).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 333 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2017 fel rhai cywir.

 

6.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Eitem 4 – Ymgynghoriad ar newid geiriad Cynllun Ariannu Ysgolion mewn perthynas â throsglwyddo balansau ysgolion sy’n cau           

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2017 wedi cymeradwyo newid geiriad cymal 4.8 o’r Cynllun Ariannu Ysgolion yn unol â’r geiriad isod:

 

“Bydd gweddill unrhyw ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.  Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

 

7.

CYLLIDEB A DIFFYG ARIANNOL YSGOL TYWYN pdf eicon PDF 495 KB

I ystyried adroddiad gan Uwch Reolwr Ysgolion ar yr uchod.  

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Croesawyd y canlynol i’r Fforwm ar gyfer yr eitem hon:

 

            Eifion Jones  -           Ymgynghorydd Annibynnol

            Arwel Pierce  -           Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd

                                                                        Tywyn

David Thorp  -           Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn

 

            Cyflwynwyd adroddiad arbenigwr annibynnol ar waith ymchwil o gyllideb a diffyg ariannol Ysgol Uwchradd Tywyn. 

 

            Tynnwyd sylw’r Fforwm i gadw mewn cof bod y gwaith yn gychwyn tuag at gyflawni elfennau o brosiect P1 yng Nghynllun y Cyngor sef:

 

    • Dadansoddi sefyllfa gyllidol a chwricwlaidd ysgolion uwchradd sydd â niferoedd bychan o ddisgyblion
    • Adnabod anghenion lleiafswm staffio sydd ei angen er mwyn cynnal cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd sydd â niferoedd bychan o ddisgyblion
    • Argymell a chostio ble ddylai’r llinell warchodaeth staffio fod ar gyfer y Sector Uwchradd er mwyn i’r Cyngor ddefnyddio’r wybodaeth honno wrth sefydlu cyllideb 2018/19

 

(a)          Cymerodd yr Ymgynghorydd  Annibynnol  y cyfle i ddiolch i Lywodraethwyr a staff yr ysgol am eu cydweithrediad tra yn cynnal yr ymchwiliad a’r ffaith eu bod yn hollol agored ac yn awyddus i symud ymlaen.  Ymhelaethwyd ar y cefndir, cyd-destun sefyllfa gyllidol yr ysgol, y camau a weithredwyd eisoes a rhagolygon yr ysgol o 2017/18 ymlaen. Darganfuwyd bod sawl rheswm o anallu yr ysgol i osod cyllideb cytbwys megis:

 

·         Cwymp sylweddol yn nifer disgyblion dros y blynyddoedd

·         Colli hanner yr arian oherwydd lleihad yn y niferoedd – fodd bynnag rhagolygon yn awgrymu ychydig bach mwy o ddisgyblion

·         Lefel y gefnogaeth yn lleihau

·         Trefniadau gwarchodaeth gyllidol gyda niferoedd isel o ddisgyblion

 

Mewn cyfnod o geisio gwarchod a chodi safonau addysgol, roedd yr ysgol wedi gwneud camau breision gan gadw’r balans o hygrededd staff a’r gymuned, ac yr un pryd yn cydnabod bod camau eraill i’w gyflawni.

 

O ran camau gweithredu, nodwyd bod yr ysgol wedi:

 

·         Adolygu cyfrifoldebau a lefel staffio yr ysgol

·         Lleihau grwpiau dysgu’r ysgol yn y pynciau craidd ond yn parhau i ateb gofynion statudol cwricwlwm CA3 a CA4

·         Arfarnu ac ail-strwythuro’r drefn taliadau CAD (Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu) i reolwyr canol yr ysgol

·         Ad-drefnu’r Uwch Dim Rheoli

·         Adolygu a rhesymoli lefel o gyllid ym mhenawdau eraill y gyllideb

 

Ochr yn ochr â’r uchod, bu i’r ysgol weithio’n galed i gynnal a chodi safonau gan sicrhau cynnydd da.  Tynnwyd sylw bod defnydd o’r iaith Gymraeg yn cael blaenoriaeth yn y cwricwlwm gyda 95% o ddisgyblion yn dilyn cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf yn CA3 a CA4 er bod mwyafrif sylweddol ohonynt yn siarad Saesneg ar yr aelwyd.  Nodwyd ymhellach bod yr ysgol wedi dechrau cynyddu nifer y disgyblion gan sicrhau bod holl ddisgyblion blwyddyn 6 y dalgylch am fyncyhu’r  ysgol.  Pe byddai’r ysgol wedi gweithredu’n fwy llym o ran torri staff i greu arbedion cyllidol a thrwy hynny allu gosod cyllideb cytbwys dros y tair blynedd diwethaf wedi golygu y byddai’r cynnydd da yn y safonau a’r cynnydd yn nifer disgyblion wedi ei lesteirio.

 

Fodd bynnag, mae angen cyflawni arbedion pellach ar gyfer gallu gosod a gweithredu cyllideb gytbwys yn gyson i’r dyfodol, ac fe restrodd yr Ymgynghorydd Annibynnol  y prif newidiadau cyllidol real fesul blwyddyn dros y tair blynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 2016/17 pdf eicon PDF 214 KB

I ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, fanylion balansau ysgolion yn nodi bod cyfanswm balansau sydd dros 5% wedi lleihau o £1,586,885 (66 ysgol) ar 31 Mawrth 2016  i £1,285,447 ar 31 Mawrth 2017.

 

            Nododd y Rheolwr Cyllid bod bwriad i drafod ymhellach gydag oddeutu 17 ysgol a’r angen i gydweithio gydag ysgolion.  Bwriedir cyflwyno adroddiad cynnydd i’r Fforwm ym mis Tachwedd yn deillio o’r trafodaethau gyda’r ysgolion penodol.

 

Anogir Penaethiaid i drafod gyda’r Uned Gyllid ynglyn â phroblemau cyllideb fel bo modd bod yn rhagweithiol.   Gwerthfawrogir bod rheolaeth eithaf da gan ysgolion ynghyd ag ymdrechion gan y Penaethiaid a’r Llywodraethwyr i gadw lefel y balansau yn isel.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.  

 

9.

GRANTIAU YSGOLION 2017/18 pdf eicon PDF 435 KB

I ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg (Dros Dro) ynghyd ag atodiad yn manylu’r prif grantiau sydd wedi’i datganoli i pob ysgol yng Ngwynedd am 2017/18, sef cyfanswm o £9.8miliwn uwchben y £71miliwn a ddyrennir gan y Cyngor.

 

            Nodwyd bod y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) wedi’i ail-enwi i Grant Datblygu Disgyblion (GDD) gyda’r arian yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar nifer disgyblion gyda hawl cinio am ddim (£1,150 y pen ar gyfer disgyblion o oed ysgol statudol a £600 y pen am yr elfen disgyblion dan 5 oed). Eleni dyrennir £2,271,450 o’i gymharu â £2,203,350 yn 2016/17.

 

            O safbwynt y Grant Gwella Addysg (GGA) ar gyfer codi safonau addysgu dyrennir £4,167,438 o’i gymharu â £4,171,818 yn 2016/17)

 

            Eglurwyd bod dau brif ffactor i leihad yn y cyllid a dderbynnir sef:

 

(a)  Niferoedd disgyblion ac ystyriaeth i’r gyfradd o ddisgyblion sydd yn aros i Blwyddyn 12  a bod cyfradd yng Ngwynedd yn isel

(b)  Faint o arian y pen a ddyrennir ar gyfer disgyblion a bod Gwynedd wedi dioddef o leihad oherwydd cyfradd is y disgybl oherwydd bod llawer o ddisgyblion Gwynedd yn dilyn 3 pwnc a’r BAC (sydd ddim yn cyfrif fel pwnc) gyda llawer o ddisgyblion Gwynedd yn dilyn 3 pwnc a’r BAC at ddibenion y grant

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

10.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH pdf eicon PDF 99 KB

 I ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg (Dros Dro) ar y Cytundebau Lefel Gwasanaeth i ysgolion ynghyd a’u hymatebion a sylwadau ar y gwahanol gytundebau.

 

            Atgoffodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod y Fforwm Cyllideb Ysgolion wedi rhoi sêl bendith ar ymestyn y Cytundebau Lefel Gwasanaeth canlynol:

 

    • Uned Cefnogi Addysg (cynradd)
    • Personél, Cyflogaeth a Chefnogaeth Gyfreithiol
    • Cynnal Tiroedd

 

am flwyddyn ychwanegol.

 

Nodwyd o ran cytundeb Cynnal Tiroedd bod dipyn o waith i’w gyflawni o ran mapio allan safleoedd yr ysgolion, a.y.b.

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynglyn â gwasanaeth rhwydwaith ysgolion, eglurwyd nad oedd yr uchod yn rhan o Gytundeb Lefel Gwasanaeth ac ar hyn o bryd yn gytundeb cenedlaethol gan y llywodraeth. 

 

Er mwyn tryloywder, awgrymwyd gan aelodau’r Fforwm y byddai’n fuddiol derbyn gwybodaeth cryno am y gwasanaeth a dderbynnir gan ysgolion am yr arian.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Rheolwr Cyllid ddarparu gwybodaeth cryno i Aelodau’r Fforwm o’r hyn a dderbynnir fel rhan o’r
gwasanaeth rhwydwaith ysgolion.

 

 

11.

TALU-AR-LEIN

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Diweddarwyd y Fforwm gan yr Uwch Reolwr Ysgolion o’r gwasanaeth talu-ar-lein am ginio ysgol mewn ysgolion cynradd ac arbennig y Sir.  Erbyn hyn, nodwyd bod cwmni CYNNAL wedi gosod meddalwedd ar sustemau ysgolion ac fe fyddir yn cynnig hyfforddiant maes o law, ynghyd â lansiad swyddogol. 

 

            Bydd y cynllun yn galluogi rhieni i gael mynediad drwy dudalennau hunan wasanaeth y Cyngor ac yn hyn o beth hyderir y byddai modd iddynt weld gwasanaethau eraill sydd ar gael gan y Cyngor.

 

            Croesawyd yr uchod yn fawr iawn gan gynrychiolydd o’r sector cynradd gan nodi y bydd yn hwyluso trefniadau. 

           

            O safbwynt dyledion am ginio ysgol, dymuna’r gwasanaeth addysg i’r sustem sefydlu cyn adrodd ymhellach ar ei lwyddiant, manteision ac anfanteision, a.y.b.

             

            Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am y wybodaeth uchod.

12.

YMGYNGHORIAD CLWB BRECWAST

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.  

Cofnod:

Adroddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion, er gwybodaeth, bod y ddarpariaeth clybiau brecwast yn un o’r elfennau i’w ystyried fel rhan o ymgynghoriad Her Gwynedd. Ar hyn o bryd gweithredir y clwb brecwast rhwng  8.00 y.b. a 8.50 y.b.  Ystyrir dau opsiwn i’r dyfodol sef:

 

(a)  Lleihau oriau y clwb brecwast presennol i gychwyn am 8.25 y.b.

(b)  Peidio lleihau’r oriau ond codi ffi ar rieni am yr elfen gofal y plant rhwng 8.00 y.b. a 8.25 y.b.

 

            Bwriedir anfon llythyr i rieni cyn diwedd y tymor a bod modd i gwblhau holiadur ar lein gyda chopïau ar gael yn Llyfrgelloedd y Sir a Siopau Gwynedd.  Awgrymir i Benaethiaid annog rhieni i gwblhau’r holiadur.

 

             

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

13.

DYDDIADAU Y CYFARFODYDD NESAF

13 Tachwedd  2017

     Chwefror  2018

 

Cofnod:

 

            Penderfynwyd:          (a)        Cadarnhau dyddiad cyfarfod nesaf y Fforwm sydd i’w gynnal am 2.00 p.m., dydd Llun, 13 Tachwedd 2017.

 

                                                (b)       Cynnal cyfarfod ddiwedd mis Ionawr 2018 – dyddiad i’w bennu gyda Chadeirydd a swyddogion y Fforwm.