skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Tremadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Iona Wyn Jones (Ysgol Bro Cynfal ac Ysgol Edmwnd Prys),  Kerry Parry (Ysgol y Ganllwyd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 243 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2016.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2016 fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

(i)     Penderfyniad Y Cabinet 13 Rhagfyr 2016                                                          OO

       (gweler tud. 5 ar y ddolen isod)

 

https://democratiaeth.cyngor.gwynedd.gov.uk/documents/g1842/Penderfyniadau%2013eg-Rhag-2016%2013.00%20Y%20Cabinet.pdf?T=2&LLL=1

 

(ii)   Adrodd ar waith ymchwil i gyllideb a chynnydd diffyg ariannol Ysgol Tywyn    OO

 

(iii)  Diweddariad Cytundebau Lefel Gwasanaeth 2017/18 i 2019/20                        OO

 

 

Cofnod:

(i)            Penderfyniad y Cabinet 13 Rhagfyr 2016 

 

Atgoffwyd y Fforwm gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau yn deillio o drafodaethau yn y cyfarfod diwethaf o fwriad yr Aelod Cabinet  i gyflwyno pryder y sector uwchradd o leihad niferoedd disgyblion yn disgyn yn 2017/18 ond yn cynyddu yn y ddwy flynedd ganlynol. Gwnaed cais i’r Aelod Cabinet Addysg a fyddai modd ystyried cynllun pontio i gynorthwyo ysgolion mewn sefyllfaoedd ariannol anodd ac fel bod ysgolion unigol yn osgoi diswyddo ac ail benodi staff mewn cyfnod cymharol fyr.

 

Tynnwyd sylw’r Fforwm gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg o benderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr 2016 fel a ganlyn:

 

(i)            Fod y Cabinet yn comisiynu cynllun i’w osod yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2017/18 i asesu ble ddylai’r llinell warchodaeth fod ar gyfer y Sector Uwchradd er mwyn defnyddio’r wybodaeth hwnnw wrth sefydlu cyllideb 2018/19;

 

(ii)            Gan dderbyn fod yna drafodaethau wedi cychwyn gyda rhanddeiliaid ar asesu’r broblem, y dylid tanlinellu’r angen i’r Cyngor newydd ystyried canlyniadau’r trafodaethau hynny yn fuan yn oes y Cyngor er mwyn sefydlu datrysiad hir dymor cynaliadwy ar gyfer y sector Uwchradd;

 

(iii)           Er mwyn prynu amser i hynny ddigwydd, ein bod yn gofyn i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau geisio pontio am ddwy flynedd y £298,990 y mae disgwyl i’r sector Uwchradd ei ddarganfod i’w ariannu o falansau;

 

(iv)          Er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau drwy ddiswyddo ac ail gyflogi, fod gofyn i’r Aelod cabinet dros Adnoddau hefyd ystyried cynnwys yn ei gyllideb ar gyfer 2017/18 arian pontio i’r ysgolion hynny fyddai’n colli arian oherwydd lleihad yn y niferoedd plant gan ystyried hefyd y defnydd o falansau ysgolion unigol mewn unrhyw gynllun a gynigir.

 

Mewn ymateb, nodwyd werthfawrogiad gan y sector uwchradd o’r penderfyniad a’r gweithrediad uchod a fydd o gymorth i ysgolion unigol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(ii)          Adrodd ar waith ymchwil i gyllideb a chynnydd diffyg ariannol Ysgol Tywyn

 

Tynnwyd sylw’r Fforwm gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg at benderfyniad y Cyngor fel amlinellir ym mhwynt 2.1 (i) er mwyn asesu y llinell warchodaeth.  I’r perwyl hwn, nodwyd bod gwaith wedi ei gomisiynu ar sefyllfaoedd cyllidol Ysgol y Berwyn ac Ysgol Uwchradd Tywyn.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.  

 

 

 

 

(iii)         Diweddariad Cytundebau Lefel Gwasaneth 2017/18 i 2019/20

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Addysg bod y gwasanaethau i gyd wedi cyflwyno Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2017/18 ond nodwyd ymhellach bod 2 wasanaeth wedi gofyn am ymestyn y gwasanaeth am flwyddyn oherwydd sefydliad y Swyddfeydd Ardal a phenodiad y Swyddogion Busnes Ardal (sef CLG Uned Gefnogi Addysg (cynradd) a CLG Personél, Cyflogau a chefnogaeth Gyfreithiol). 

 

            Yng nghyd-destun cytundeb hefo cwmni CYNNAL, roedd y Gwasanaeth Addysg wedi llwyddo i gael gostyngiad yn y pris a bydd dyranidau ysgolion yn cael ei lleihau i adlewyrchu’r gostyngiad hwn. Nodwyd na fyddai unrhyw effaith ariannol ar ysgolion.

 

            O safbwynt CLG Cynnal Tiroedd, dymunir ymestyn y gytundeb bresennol am flwyddyn er mwyn caniatáu i gwasanaeth adnabod anghenion ysgolion unigol.

 

            Nododd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

RHAGOLWG BALANSAU YSGOLION 31 MAWRTH 2017

I dderbyn adroddiad y Rheolwr Cyllid.                                   .                                   HO

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid i’r aelodau yn ystod y cyfarfod daenlen yn nodi rhagolwg balansau ysgolion 31 Mawrth 2017 a gwir falans 2013/14, 2014/15 a 2015/16.

 

Eglurwyd bod yr ysgolion hynny sydd wedi eu lliwio’n felyn  wedi bod mewn diffyg neu gyda balansau dros 5% yn ystod y tair blynedd diwethaf.

 

O safbwynt y cynradd, rhagwelwyd gostyngiad sylweddol o £2,479,441 ar ddiwedd Mawrth 2016 i oddeutu £2,000,500 ym Mawrth 2017 (gostyngiad yn canran balansau o 6.91% i 5.5%), gyda’r uwchradd yn gostwng o £791,815 i £656,993 ym Mawrth 2017 (gostyniag yn canran balansau o 2.37% i 2.0%).  Hyderir y gellir ym mis Mehefin eleni adrodd ar wir falansau ac ym mis Tachwedd cyflwyno gwybodaeth cenedlaethol o gymhariaethau balansau ysgolion awdurdodau eraill Cymru.

 

Croesawyd y lleihad cyffredinol ym malansau ysgolion cynradd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r rhagolygon.

 

6.

YMGYNGHORIAD AR NEWID GEIRIAD CYNLLUN ARIANNU YSGOLION MEWN PERTHYNAS Â THROSGLWYDDO BALANSAU YSGOLION SY'N CAU pdf eicon PDF 442 KB

I ystyried adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg.                    OO

 

 (Copi’n amgaeedig)     

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg ynglyn ag ymgynghoriad ar newid geiriad cynllun ariannu ysgolion mewn perthynas a throsglwyddo balansau ysgolion sy’n cau.

 

(b)  Nodwyd y derbyniwyd 27 ymateb gan yr ysgolion sef 20 o’r sector cynradd a 7 o’r sector uwchradd, gyda phob ysgol, ac eithrio un, o blaid newid geiriad cymal 4.8 i ddarllen:

 

            Bydd gweddill unrhyw ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.  Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo i’r Cabinet newid geiriad cymal 4.8 o’r Cynllun Ariannu Ysgolion yn unol â’r geiriad yn (b) uchod.

 

7.

GWASANAETH TALU AR-LEIN pdf eicon PDF 271 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg.             OO

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn amlinellu’r bwriad a’r ymgysylltu a fu  ynglŷn â chynllun fyddai’n galluogi rieni dalu ar-lein am ginio ysgol mewn ysgolion cynradd ac arbennig y Sir.

 

(b)  Derbyniwyd ymateb gan 8 ysgol ac fe nodwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r cynllun ond codwyd rhai pryderon ynglyn â’r effaith i swyddi clercod arian cinio.

 

(c)  Mewn ymateb i’r sylwadau wnaed gan ysgolion, nodwyd:

 

·         Y byddai ysgolion angen gweld effaith y system ar arferion yr ysgol cyn dod i benderfyniad ynglŷn â gwaith y clercod arian ac mai mater lleol fyddai hyn

·         Y byddai modd i deuluoedd sydd heb gyfrifiaduron wneud taliadau electroneg ar ffurf “PayPoint” (fel a welir mewn siopau ar gyfer talu am nwy a thrydan). 

·         Yn ogystal, fe fydd modd defnyddio ffonau symudol / tablet ar gyfer gwneud taliadau

 

(ch)   O safbwynt y sector uwchradd, esboniwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal ond bod y sefyllfa ychydig mwy cymhleth yn nhermau dewisiadau o’r fwydlen ac angen system arall ar gyfer “till”.  Fodd bynnag, cyn symud ymlaen gyda’r uwchradd roedd dipyn mwy o waith i’w wneud i sefydlu’r system yn y sector cynradd yn gyntaf. Nodwyd ymhellach bod trafodaethau yn parhau gyda Phennaeth ysgol newydd Bro Idris yn nhermau’r model cynradd o gasglu’r arian.

 

(d)   Nodwyd bod 6 ysgol yn gweithio fel rhan o gynllun peilot i’r system ac fe welir manteision o fedru talu am dripiau ysgol, llefrith, gwersi offerynnau cerdd, a.y.b. ac mewn ysgolion lleiaf yn fodd o leihau gorfod cadw arian parod ar safle’r ysgol.

 

(dd) Nododd Pennaeth Ysgol y Moelwyn bod yr ysgol honno yn defnyddio’r system ac yn fanteisiol i deuluoedd yn enwedig  ers i’r banc gau ym Mlaenau Ffestiniog.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

8.

GRANT 6ed DOSBARTH 2017/18

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.                                                                      HO

 

 

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Cyllid bod y grant oddeutu £195,000 yn uwch na’r hyn roedd wedi’i rhagweld yn y rhagolygon ariannol. Er fod y nifer disgyblion 6ed yn ein ysgolion wedi lleihau ychydig, mae’r nifer disgyblion sy’n cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru wedi cynyddu. Er hynny mae dull ariannu Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu nifer disgyblion 6ed sy’n llai na’r hyn yn ein ysgolion, a hynny yn gyson ar draws y 4 mlynedd diwethaf ers cychwyn y dull ariannu newydd.  Fe fyddir yn rhyddhau’r wybodaeth i’r ysgolion hynny yn y dyddiau nesaf.

 

Mewn ymateb i’r uchod, nododd Aelod bod angen eglurhad o’r tan-gyllido, ac awgrymwyd i’r Rheolwr Cyllid wneud darn o waith ymchwil i ganfod y rhesymau pam.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Rheolwr Cyllid gyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau i gyfarfod nesaf y Fforwm ym mis Mehefin.

 

9.

GRANT AMDDIFADEDD DISGYBLION 2017/18

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.                                                                      HO

 

 

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Cyllid ni dderbyniwyd cadarnhad, hyd yma, o arian y Grant Amddifadedd. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

10.

GRANT GWELLA ADDYSG 2017/18

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.                                                                      HO

Cofnod:

Mewn perthynas â’r Grant Gwella Addysg, nodwyd bod gwybodaeth wedi cyrraedd ar lefel Gogledd Cymru yn cynnwys toriad o  0.7%. Nid oedd yn ymwybyddus ar hyn o bryd beth oedd blaenoriaethau Bwrdd Rheoli GwE gyda’r grant ar gyfer 2017/18.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r wybodaeth uchod.

 

11.

GRANT £100 miliwn AR LEFEL CENEDLAETHOL DROS 5 MLYNEDD Y CYNULLIAD YMA 2016-2020

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.                                  .                                   HO

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Cyllid nad oedd gwybodaeth ynglyn â’r uchod wedi ei dderbyn hyd yma gan Lywodraeth Cymru, bod y grant ar gyfer nifer o flaenoriaethau’r Llywodraeth, er enghraifft y mater maint dosbarthiadau ac fe ddarllenwyd erthygl ynglyn a’r mater gan nodi byddai’n anfon y  wybodaeth ymlaen i aelodau’r Fforwm.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.